Thursday, 25 November 2010

Be ddaw nesa'?

Heddiw, roeddwn i fod i roi croeso cynnes arall i becyn cyflog misol, ond cefais innau ynghyd a gweddill y tîm wybod bore ddoe na fyddai ein cyflogau’n cael eu talu.

Wel, mae’n siwr fod y newyddion am fy nghyn gyflogwr bellach ar wefusau pawb.

Ydi, mae StrataMatrix wedi darfod.

Dwi wedi teimlo pob emosiwn posib ers i ni gael gwybod am 10 o’r gloch bore ddoe (Dydd Mercher), ond ddigwyddodd rhywbeth bore ‘ma tua 11 o’r gloch a gododd rywfaint o’r niwl diawledig a gwenwynig a oedd yn llifo’n ddiddiwedd trwy fy ngwaed. Dyna pryd cefais fy 'moment of clarity'  dwi'n meddwl.

Dwi ddim yn siwr pam, na sut, ond o’r diwedd, rwy’n dachre gallu gweld y gwydr yn hanner llawn.

Mae Gwenllian a Morgan (fy mhlant) yn llawn bywyd a nonsens diniwed, mae Elen (fy ngwraig) yn cadw naws y teulu’n llawen – sy’n rhyfeddol o ystyried fod plentyn rhif 3 ar y ffordd hefyd. Mae’r car, chwarae teg iddo yn cychwyn yn ddi-lol, ac hyd yn oed yr haul wedi codi o’i wely. Roedd haenen newydd o eira man yn disgwyl fi y tu allan ar ôl i mi godi, a Machynlleth unwaith eto yn edrych yn reit Nadoligaidd.

Mae hyn wedi rhoi pethau mewn pyrspectif. Galle pethe fod yn waeth.

Galle pethe fod wedi bod lot gwell hefyd, cofiwch, ond dyna ni.

Pe bai’r cyflog wedi cael ei dalu i mi heddiw, mi fydde pethe wedi bod yn haws. Mi wedai hynny’n blaen, ond na, bydd rhaid cwrsio taliad gan ryw wasanaeth llywodraethol, a dwi’n mawr obeithio y daw’r gwaith papur drwy’r post yn fuan. Dwi ddim yn disgwyl gweld yr un ceiniog goch tan Chwefror ar y cynhara’ a dweud y gwir. Falle mi gai siom o’r ochr orau.

Yr emosiwn anoddaf i ddelio a hi yw’r un sy’n llawn rhyw fath o ‘falchder’ - doeddwn i ddim yn disgwyl teimlo fel hyn.

Mi oedd cael y swydd yn StrataMatrix yn fraint ac anrhydedd – wedi’r cyfan, mi oedd yn gwmni arloesol, a tîm arbennig o dda’n gweithio yno. Rywsut, mae’r balchder o fod yn rhan o’r lle yn trio rhoi ‘gwd ysgwydad’ i mi, ac mae’n dda am hynny. Rhaid sianeli’r emosiynau i fod yn bositif bellach os am symyd ymlaen o gwbl.

Mi oeddwn ni i gyd (y ‘plebs’ fel oeddwn yn galw’n hunen) yn llawn hwyl, tynnu coes, clebran, ac yn deulu bach estynedig – teulu sydd bellach wedi colli’r aelwyd, ond teulu a fydd yn dal yn agos – yn agosach, os rhywbeth, yn sgil y siom enfawr a gafwyd ddoe.

Drychwch ar y bobl oedd gennym yno fel rhan o’r teulu: fitness fanatic, gwraig fferm, cyn athrawes, mab dwl i fardd y gadair (yr un dylaf a welais erioed), ‘anti’ Mair a oedd byth yn gwrthod paned, ac wrth gwrs, y ‘California Dreamer’ o Gwmllynfell.

Dim ond detholiad bach o’r criw sydd uchod – mi fuasai’n ormod o waith enwi pawb sy' yna ac wedi bod trwy'r lle tra fy mod i wedi gweithio yno (Chi'n gwybod pwy ydych i gyd!)

Ni oedd y ‘plebs’. Ni oedd y werin dlawd. Ni oedd y gwaed yn llifo drwy wythiennau’r hen gwmni bach. S’dim ots beth oedd ein swyddogaethau, nac ychwaith ein cyflogau, roedd gan bob un aelod o’r tîm y gallu i gyfrannu’n sylweddol at bob un prosiect – roedd barn a syniadau pawb yn cyfri.

Ond, ie, ‘balchder’ yw’r emosiwn cryfa ar hyn o bryd. Braint ac anrhydedd oedd gweithio gyda chi bois bach. Braint ac anrhydedd.

Ac, fel dywedodd rhywun doeth iawn i mi heddi - 'daw haul ar fryn eto'.

Felly be ddaw nesa’? Fedrai ddim ateb hynny ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio y daw pethau da i ni i gyd, yn enwedig mor agos i’r Nadolig a ninnau’n barod ar ei hol hi o fis o gyflog.

Gyda’r farchnad swyddi mor hesb, yr opsiwn orau sy’ gennai yw i fynd ar liwt fy hun – rhywbeth yr dwi wedi ystyried ers dros blwyddyn a dweud y gwir, a rhywbeth y mae twr o’m cyn-glientiau o StrataMatrix wedi annog i mi wneud yn barod (diolch am y geiriau caredig gyda llaw – ac am y cyngor ynglyn a siafio’r Mwsdachwedd yma i ffwrdd mor fuan a phosib!).

Felly, mae’r wefan newydd wedi ei ddiweddaru (mae'r linc ar y dudalen hon ar y dde yn rhywle) ac rwy’n gwneud fy ngorau i ychwanegu gwybodaeth o bwys arno fel bo’r amser yn caniatau. Un o’r gwefannau rhad ac am ddim yw e ar hyn o bryd,  ac unwaith i mi wneud fy ffortiwn, mi brynai wefan broffesiynol.

Mae sêl ymlaen ar hyn o bryd – gofynnwch am y ‘special offers’ sydd gennai nawr – cyntaf i’r felin and all that…

Monday, 8 November 2010

Fy mlog talar - be allwn ni fel Cymry ddysgu?

Mi oeddwn wedi edrych ymlaen at ddiweddglo Pen Talar.

Ond ‘na fe. S’dim ots.

Efallai fy mod i’n un o’r lleiafrif hynny yng Nghymru sy’n edrych ar bethau’n rhy arwynebol. Dwi’n euog o hyn yn aml iawn (oni bai wrth gwrs fy mod yn gwylio bwletin tywydd S4C - mae’n dweud lot amdanom ni fel cenedl), ond ar unrhyw nos Sul am 9 o’r gloch, mae’n well gennai eistedd lawr â Baileys bach a gwylio rhywbeth sydd â stori dda ac ychydig o byrspectif hanesyddol (e.e. Dad’s Army).  Ac i fod yn deg, dyna oeddwn i wedi deall oedd Pen Talar i fod – ryw fath o ddramateiddio Cymru’r 20fed Ganrif mewn ‘cragen-gneuen’. Roedd popeth yn mynd mor dda i bob pennod – pob un yn agoriad llygaid i un mor naïf â minnau.

Ond wedyn, daeth y rhifyn ola’ ond un. Newidiodd bethau rywfaint. Roedd y ‘car crash’ a golygfa’r boddi ychydig yn annisgwyl yr wythnos diwethaf, ond rwy’n deall fod angen ‘Deus ex machina’ weithiau er mwyn helpu’r plot i gyrraedd rhywle newydd (h.y. roedd y stori wedi cyrraedd ychydig o ‘dead end’ ac mi oedd angen ‘cacan sioclad Jonsi’ o ddigwyddiad i roi sioc i bawb).

Mae’n bosib dehongli fod Doug a Defi yn y dŵr yn symbol o ‘Gymru’n boddi wrth y lan’, neu ‘Cymry’n ymladd eu gilydd heb ystyried’ neu rywbeth fel’na. Falle fod y neges mor syml â ‘peidiwch a chwarae’n anghyfrifol wrth ymyl y dŵr’ neu ‘mind the gap’ falle.

Ta waeth, mi oedd cynnwys ‘underwater sequence’ yn y gyfres yn gam dewr iawn, ac yn profi gallu’r diwydiant deledu yng Nghymru i fod yn dechnegol fodern a rhebelgar.

(Mi fyddai’n dda o beth gweld y sgiliau yma’n cael eu defnyddio ar raglenni eraill yng Nghymru, dewch nawr sgriptwyr – rhaid cael mwy o ‘underwater sequences’– dyma blot i chi – Cwmderi’n cael ei foddi ‘due to public demand’. Sgwennwch gloi.)

Sori – tangent bach yn fan’na. Nol at y plot tenau ‘ma sy gennai:

Ond y gwir yw, roedd stori rhifyn ola’ Pen Talar braidd yn, wel, braidd yn ‘Gymreig’ yn d’oedd hi? Fel ‘Un Nos Ola Leuad’ neu ‘Gwen Tomos’  (yn fy nhyb i 2 o’r llyfre mwya’ diflas a oedd rhaid i mi eu darllen yn ysgol er gwaetha ymgais yr athro i’m perswadio fy mod mewn cariad â’r nofelau a’r nofelwyr - fydde’n well gennai fod wedi mynd lawr i bictiwrs y Commodore i wylio morfil yn domi mewn ‘3D high-definition’), hynny yw - dim ond du-wch a diflasdod Cymreig.

Felly be yn wir yw’r neges ola’ i ni o Ben Talar. Pa berl o wers ddiharebol y canfuwyd o wylio’r ddrama. Roeddwn yn credu’n wir fod yna lwyth o wersi a negeseuon da, rhai cryf a fyddai’n ail-gynnai’r fflam genedlaetholgar sydd wedi gwanhau ers blynyddoedd – rhywbeth a fyddai’n ail-ddeffro’r ddraig goch. Mi oedd hi, wedi'r cyfan yn gyfres arbennig o dda, y rhifynnau cynta yn enwedig (ok, pob un ond y 2 ddwetha').Ond, ar ôl dwys ystyried, a meddwl, a thra'n mynd a'r sbwriel mas ar gyfer casgliad y bins y bore 'ma, 2 neges annisgwyl braidd ddaeth yn glir i mi yn sgil Pen Talar:

1: Maddeuwch i’r rhai hynny sydd wedi’ch ypsetio i’r fath raddau nes bod eich bywydau wedi newid o’r herwydd (s'dim ots beth oedd y weithred - jyst maddeuwch).

2: Peidiwch â gadael i neb ddatblygu ar a dinistrio ein cymunedau Cymraeg/Cymreig.

Neges glir iawn felly i gyn-drigolion pentrefi Epynt, Tryweryn, a Nant y Moch.

Glaw eto fory siŵr o fod.

Monday, 1 November 2010

Prif fudiad ieuenctid Cymru - a'r angen am fwy o gefnogaeth o'r bae.

Mae’n hen bryd i brif fudiad ieuenctid Cymru gael sylw ar y blog ‘ma (ac hefyd cyfle i dorri record am sawl gwaith allai iwso’r gair ‘mudiad’ mewn blog).

Mae fy nyled i iddynt yn fawr iawn, a dwi’n teimlo’n gyson nad yw’r mudiad yma’n cael cwarter digon o sylw na cefnogaeth gan y ‘sefydliad(au)’ yng Nghymru.

Diolch i’r mudiad ieuenctid arbennig yma, dwi wedi cael cyfle i ganu, i adrodd, i actio, i fynd ar benwythnosau preswyl, sgio, canwio, hwylio ar lyn, dringo wal, cystadlu ar lwyfan, bowlio 10, merlota, nofio, beiciau modur, midnight feasts, gwersylla, canu mewn côr, cymryd rhan mewn sessiynau wythnosol diddorol, ‘steddfota (wrth gwrs!) a llu o bethau eraill gan gynnwys penwythnosau o gystadlu ar y caeau chwarae yn erbyn timoedd o dros Gymru – a thu hwnt.

Fel aelod ohonynt datblygodd yr hyder i ddweud fy marn yn gyhoeddus, i sefyll ar fy nhraed o flaen cynulleidfa ac annerch y dorf. Cefais y cyfle i actio mewn dramau a sgetsys. Ces gyfle i sgwennu dwsinau o ganeuon call a dwl,  a sgetsys i’r aelodau eraill, a cael y fraint o’u gweld yn cael eu perfformio ar lwyfannau theatrau nodedig.

Dwi wedi bod yn codi arian i elusennau fel aelod, ac wedi cael y fraint a’r anrhydedd o deimlo’n rhan o gymuned, gan deimlo cynesrwydd a gwerthfawrogiad go iawn y bobl leol.

Nid fi yn unig sy’ wedi gallu manteisio ar y fath gyfleoedd – mae’r rhan helaeth o’r aelodau trwy Gymru yn siwr o gytuno eu bod hwythau hefyd mewn dyled i’r mudiad ‘r’un fath a fi. Mae’n fudiad sy’n haeddu lot mwy na beth mae’n gael ar hyn o bryd.

Mae’n hen bryd i’r ‘sefydliadau’ (achos mae’r ‘sefydliadau’ yn dal i fodoli credwch fi) i roi cydnabyddiaeth go iawn (yn hytrach na be’ fuaswn i’n galw’n ‘token gesture’) iddyn nhw – mae ‘na fudiadau ieuenctid eraill yn derbyn llawer iawn mwy ‘y pen’ na’r mudiad yma. Dwi ddim yn credu i’r mudiad yma erioed gael grant i bryny bwrdd pŵl neu ‘mixing desk’ nac ychwaith arian i greu ‘stiwdio recordio’ i gynhyrchu swn.

O ran y digwyddiadau cenedlaethol maent yn cynnal, plis Mr Cynlleied, rhowch fwy o gefnogaeth iddyn nhw – mae’r Eisteddfod (i son am un digwyddiad yn unig) yn haeddu llawer iawn mwy na beth mae nhw’n ei gael. Ac mi allai eich sicrhau chi – nid i ‘dwll di-waelod’ y buasai’r pres yn mynd. Dyma i chi fudiad sy’n gwerthfawrogi ac yn defnyddio pob ceiniog. Nid yw’n gyfoethog o ran arian, ond mae gyda’r cyfoethocaf o ran popeth arall sy’n cyfri.

Mae cyfraniad y mudiad yma i ffyniant naturiol yr iaith Gymraeg hefyd yn arbennig iawn – ac mae’n fudiad lle mae’r di-Gymraeg hefyd yn medru cymryd rhan heb ddim problem, ac heb ffiniau.

Mae ‘na fudiad ieuenctid arall yng Nghymru wrth gwrs sy’n gwneud gwaith da ac sy’n cael handouts hael iawn yn barod (a dwi ddim am eiliad yn dwrdio nhw am hynny - mae'r Urdd yn fudiad hynod o bwysig i ni hefyd), ond nid un o 'blant yr Urdd' oeddwn i yn fy nghalon, a roeddwn i’n cael hiraeth am adre bob tro arhoses i yn y gwersyll yn Llangrannog. Roeddwn wrth reswm, yn gonscript i’r Urdd fel pawb arall yn ysgol Trefeurig a'r rhan fwya' o ysgolion cynradd Cymru, ond fedrai ddim dweud a’m llaw ar fy nghalon ei fod erioed wedi cydio ynof yn yr un modd a’r Ffermwyr Ifanc. Pam? Wel, fel aelod o’r CFfI, ni fel aelodau oedd yn rheoli popeth, yn gwneud y penderfyniadau, ac yn rhedeg y mudiad ar lefel clwb, sirol, a Chymru. Ni fel aelodau oedd yn dewis os oeddwn am gystadlu a cymryd rhan, ac o’r herwydd, mi gefais lot mwy allan o’r peth. Fi oedd ‘in charge’ – nid ryw athro neu athrawes. 

Hir oes i CFfI Cymru – prif fudiad ieuenctid Cymru, ac am ryw reswm, mudiad sy’n dal i fod yn gyfrinach i rai (a rhai a ddylai fod yn gwybod yn well).

Un cais bach i’r aelodau presennol plis: mi ddylai’r oedran cystadlu gael ei ymestyn at 40 plis. Mae 26 yn llawer rhy ifanc i atal bobl rhag cystadlu. Rwy’n cael ‘withdrawal symptoms’ ers bron i 9 mlynedd. A fedrwch chi godi hwn yng nghyfarfod nesa’r Cyngor os gwelwch fod yn dda?

Gyda llaw, mi fum yn gwylio Eisteddfod Ffederasiwn CFfI Ceredigion ar-lein nos Sadwrn, a roeddwn i’n ddigon ffodus o ‘diwnio mewn’ jyst fel bo’r deuawdau doniol yn cychwyn. Ambell berl yn fan’na. Lot, lot gwell na gwylio Noson Lawen – a chware teg, mi oedd safon y darllediad yn gyffredinol yn broffesiynol iawn – ond yn bwysicach na hynny, mi oedd y peth yn hollol naturiol – gan gynnwys y cyfweliadau a’r cyflwyno o’r stiwdio fach a oedd yn digwydd rhwng y cystadleuthau. Da iawn chi yn wir (a dwi’n trio ‘ngorau I beidio a swnio’n patronising).

Felly, os ydych chi o fewn yr oedran (10-26) ymunwch nawr – mae clybiau trwy Gymru, a s’dim rhaid i chi wybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng chevrolet a limousin: http://www.yfc-wales.org.uk/

Saturday, 30 October 2010

'Movember' / 'Mwsdachwedd'

I bawb sy'n dilyn fy mlogs yn rheolaidd bellach gan edrych ymlaen neu ysgwyd pen mewn embaras ar beth dwi'n mynd i ddweud nesa (mwy na thebyg mond fi sy'n ffitio'r categori 'rheolaidd'), efallai mai siom y cei di / y cewch chi'r tro yma.

Chi'n gweld, rhywbeth positif sy' gennai ddweud yn hytrach na chŵyn neu ddychan.

Mae cydweithiwr i mi - Sion Onwy - a finne wedi penderfynu cymryd rhan mewn ymgyrch 'Movember' i godi arian a thynnu sylw tuag at Gancr Prostate a Chancr Testicular (sgennai ddim syniad beth yw rheina yn Gymraeg sori). Cancrau sy'n effeithio ar ddynion yn unig yw rhain, ac mae ymgyrch Movember wedi codi miliynau i'r achosion yma ers blynyddoedd. Sut? Wel, drwy annog dynion i dyfu 'mo' drwy gydol mis Tachwedd bob blwyddyn, a mynd ar ôl nawdd am wneud hynny.


Mae'n rywfaint o sbort, a da yw gweld bod modd cael hwyl heb fawr o ymdrech a chodi arian yr un pryd.

Dwi wedi rhoi ymgais ar dyfu 'gafren' o'r blaen, a methiant llwyr bu hwnnw (efo hindsight). Mwy na thebyg methiant llwyr aesthetig arall fydd ymdrech y mwstas, ond, pam lai? Efo Sion Onwy'n cymryd yr un her a finne'n y gwaith fyddai ddim ar fy mhen fy hun o ran derbyn sylwadau dwl (er, Sod's Law mi fydd mwstasen yn siwtio Sion, gan adael i fi edrych fel complete ffŵl).

Rydym wedi tynnu llun PR yn barod ar gyfer yr ymdrech - dyma hi:

Sion Onwy a Rhydian Mason sy'n ymdrechu at 'Mwsdachwedd' (Movember)



















Fel y gallwch weld, mae Sion a fi'n cymryd y peth yn hollol o ddifri.Yn ôl tudalen Movember, dim ond gŵyr bonheddig sy'n tyfu mwstachweddau, ac felly, fel gŵyr bonheddig rhaid cymryd camau priodol cyn cychwyn. Dyna paham mae'r paraffinelia ar y ford o'm blaenau (+ mi oedd yn lot o sbort cael tynnu llun hollol blentynnaidd am y tro cynta ers sbel...).


Nawr, os hoffech gefnogi Sion neu finne, mae pob croeso i chi wneud hynny. Mi fydd pob ceiniog a gasglir yn mynd at Movember ar ddiwedd y mis. Os fedrwch chi sbario pris peint, mi fydde hynny'n ffantastig.


Dyma'r link hollbwysig i gyfrannu: http://uk.movember.com/mospace/560030/

Gŵyr bonheddig yn codi arian. Cefnogwch wir.

Beth sy' yn y bocs? Hufen-gwrth-gosi wrth gwrs.
Pob lwc hefyd i ymgyrch Grow a Grav, sydd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni. Am ryw reswm, maent yn cynnal eu hymgyrch nhw yn ystod yr un mis a 'Movember'. Yn bersonol, mi fuaswn wedi dal yr ymgyrch nol tan bencampwriaeth y 6 gwlad yn 2011 ac ennill mwy byth o gefnogaeth (ac mi fuaswn i wedi gallu cymryd rhan yn y ddau wedyn!). 

Ta waeth - os ydych chi'n cymryd rhan yn 'Movember' neu 'Grow a Grav', pob lwc i chi a'ch ymdrechion i godi arian a chael hwyl r'un pryd.

Tuesday, 26 October 2010

'Croesi'r Sianel' - Stori fer gan y blogiwr.

Ryw noson oer, gwlyb a gwyntog oedd hi. Eisteddodd Rhydian i lawr ar ôl rhoi’r plant yn gwely, gan ochneidio o flinder wedi diwrnod hir arall. Oedd – mi oedd hi’n gret cael eistedd lawr a’i draed mewn slipars rhad o Matalan, a pecyn ffres o ‘Haribo Sour Mix’ wedi guddio’n braf rhwng ei goes, a braich y gadair esmwyth.

“Mi fytai’r cwbl ond y boteli cola”, meddyliodd.

Ond yng nghefn ei feddwl mi wyddai Rhydian fod llawer mwy i boeni am na’i ffug-flinder a’r nodd cysurus yn y cwdyn plastic. Roedd gwaith y dydd heb ddarfod eto, roedd tasg bwysica’r genedl ar fin cychwyn ar y sianel genedlaethol - 'Noson y gwylwyr'.

Fflachiodd amryw o luniau o’r dyddiau da trwy ei feddwl – Hanner Dwsin, Torri Gwynt, Ffalabalam, Swopsiwn, ac wrth gwrs, ‘Sgota. Daeth deigryn i’w lygaid fel gwlith ar ddeilen felyn hydrefol cyn iddi gwympo oddi ar y brigyn i’r llawr.

“Sut allai achub y sianel?” meddyliodd eto. “Be allai ‘neud i ddod a hygrededd, ffydd ac incwm newydd iddi,, i brofi ei bod hi dal yn wir mae ein cyfrifoldeb ni fel Cymry Cymraeg yw i ofalu am ac i fwynhau’r winllan a roddwyd i’n gofal?" 

"Sut yn wir allwn ni edrych ar ein wynebau yn y drych bob bore ar ôl hyd yn oed meiddio beirniadu ein ‘secred cow’?”

Trodd ei lygaid lawr at y gwagle yn y silff wrth y teledu. Anadlodd fewn mewn sioc – roedd yr ateb ganddo!

“I’r diawl a hi!” dywedodd yn uchel gan daflu ei egwyddorion o’r neilltu!

 “Dwi’n mynd i brynu DVD Box Set o Pobl y Cwm!”

“Shshsht!”, galwodd ei wraig yn hallt gan chwalu'r foment o gatharsis – “ti’n mynd i ddeffro’r plant!”.

Sleifiodd llaw Rhydian mewn siom arall mewn i’r cwdyn plastig wrth ei ochr. Cydiodd mewn Haribolsen a’i roi yn ei geg.

“shit y gath.” meddyliodd - “botel cola”.

Thursday, 21 October 2010

Dyfodol S4C - ein sianel, ein chwyldro.

Mae’r Cymry wedi codi fel ton tswnami i ymateb i’r busnes ‘ma am doriadau yng nghyllideb y sianel, ac wrth gwrs i’r newidiadau a fydd yn y ffordd mae’n cael ei rheoli/rhedeg/ariannu gan y BBC.

Fel cenedl, ‘da ni wedi hen arfer a’r busnes yma o gwyno’n gyhoeddus, o weld y gwydr yn hanner gwag (yn hytrach na hanner llawn).

Ac, er fy mod innau’n credu fod Cymru wedi cael tipyn o gam gan idiots hunan-bwysig San Steffan, fedrai ddim ychwaith peidio meddwl efallai mae ‘chwyldro’ or fath hyn sy’ angen ar ein S4C ni.

Os yw’r arian yn mynd i fynd yn brin, yna ‘quality, not quantity’ dylai’r mantra newydd fod. I rywun fel fi, yng nghanol fy nhri-degau, rhaid cyfadde (a dwi’n teimlo’n reit wael am hyn) fod bygyr ôl o werth i mi ar y sianel fel y mae hi ar hyn o bryd. Bob hyn a hyn, cawn ambell ddarllediad safonnol (Pen Talar, er engrhaifft), ond fel arfer, ac yn fy marn i fel un o gynulledifa’r sianel (noder, barn rhywun o’r gynulleidfa rwy’n cynnig, nid barn rhywun ‘on the inside’), rybish yw’r rhan helaeth o’r rhaglenni sydd ar yr arlwy.

Mae hyn yn ddweud mawr, a digon posib fy mod bellach ar y ‘black list’ am weud hynny, ond mae na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i roi ein clod a/neu feirniadaeth ar rywbeth sydd heb os o bwysigrwydd cenedlaethol i ni er mwyn sicrhau cadw’r safonnau.

Rwy’n cydymdeimlo a’r gofynnion sydd ar ein sianel – mae’n rhaid iddi fod yn bopeth i bawb, ond rwy’n ofni mae beth sy’ gyda ni ar hyn o bryd yw rhyw ‘average’ sâff yn y canol, a pob un rhaglen yn apelio rywfaint bach at bawb – y broblem yw mae ychydig iawn o apêl sydd gan y rhaglenni dwi’n ofni. Papur wal yw S4C i mi (a papur wal hen ffasiwn iawn hefyd), dyna’i gyd.

Mi allen ni restri rhai o raglenni S4C sy’n golygu dim byd i mi bellach:

Pobl y Cwm er engrhaifft – Duw a wyr pam fod pobl mor ‘precious’ amdano, fedrai ddim ei wylio- mae mor wael a hynny i mi. Dychmygwch pe bai’r BBC yn creu fersiwn Saesneg ohono, ‘mond cyfieithu’r sgript a’i ffilmio hi yn yr un ffordd a’i darlledu ar BBC1 – be’ yn wir fydde’r ymateb? Methiant llwyr a’r gynulleidfa ddim yn siwr os mae comedi gwael neu ffars wael yw e? Canslwch y rhaglen bob dydd wir i chi, a gwariwch yr un arian ar gynhyrchu 2 neu falle 3 rhifyn safonnol yr wthnos. A castiwch yn well – plis (gogs ym mhobman, plant ac acenion Caerdydd – mewn pentre sydd i fod yn ardal Caerfyrddin? C’mon).

0 ond 1? 0 ond rwtsh.

O ran llwyddiannau’r sianel, mae Cyw yn sicr yn un (y plant yn tŷ ni wrth eu bodd a’r arlwy yn y bore – ond lle mae arlwy’r plant bach yn y p’nawn?). Pen Talar hefyd wedi bod yn llwyddiant yn ty ni. Dyma i chi gyfres o raglenni sydd wedi profi eto fod modd creu teledu safonnol yng Nghymru ac yn y Gymraeg.

Mae S4C hefyd wedi cael nifer o raglenni ‘dim cweit’ – hynny yw, rhaglenni oedd yn dda o ran syniad, ond oedd ddim cweit yn hitio’r marc cystal ag y gallen nhw fod wedi neud. Y Porthmon, er engrhaifft – syniad arbennig o dda, Ifan yn gyflwynydd arbennig o dda, yn naturiol (ac yn sicr ddim yn un o ‘mowld’ y cyfryngis),  ond roedd rhywbeth am y gyfres oedd ddim yn ffitio rywsut. Oedd angen yr holl ffys gyda’r defaid? Oedd angen criw o aelodau’r Ffermwyr Ifanc i dywys defaid am ryw hanner milltir ar y tro? Neu a fydde wedi bod yn well i symleiddio’r cysyniad reit yn ôl – Ifan yn cyflwyno, ac yn cerdded gyda Erwyd Howells ar hyd taith y Porthmon, yn cyfarfod a pobl diddorol ar y ffordd, gan gynnwys aelodau’r Ffermwyr Ifanc. Dim defaid o gwbl – a pwyslais y gyfres ar y ‘daith’. Weloch chi raglen Eddie Izzard yn gwneud y marathons ar hyd Prydain rai misoedd yn ôl? Do? Wel dyna chi beth oedd y fformat i’w ddilyn. Syml, ac effeithiol.

Rhaglen arall sydd wedi diodde o or-gymlethu  ac sydd wedi troi mas bellach i fod yn un o’r ‘dim cweits’ yma yw Noson Lawen (mi wnai ddim son am ‘Hwylio’r Noson Lawen’ – ‘na beth oedd ‘Titanic’ arall). Beth sy’ wedi digwydd i’r gyfres gwedwch? Ydych chi wedi bod i recordiad Noson Lawen yn ddiweddar? Naddo? Mae’n werth i chi fynd i weld sut mae’r ‘magic of television’ yn gweithio. Clywed pob jôc ddwywaith os nad tair, a’r rheolwr llawr yn disgwyl i chi chwerthin bob tro fel pe baech chi’n ei chlywed am y tro cyntaf erioed. Clywed a gweld pob act fwy nag unwaith, a weithiau, y cyflwynydd yn cyflwyno pawb ar y diwedd, linc ar ôl linc ar ôl linc di-ddiwedd. A nawr, mae na bisibodi o’r cyfyngis yn cyfweld â Mrs Jones neu rhwyun rhwng pob act, a mynd ‘tu ôl y llwyfan’ i gyfweld a’r perfformwyr ar ôl iddynt berfformio. Pam!? No Need! A peth arall – yr un gwybenau da ni’n gweld arnyn nhw i gyd o’r bron. Robyn Lynn, Sian Cothi, Ffarmwr Ffowc, honna sy’n canu efo’i merch, a Nigel Owen.

A wedyn, beth am Fferm Ffactor? (don’t get me started...)

Reit, amser cwlio lawr dwi’n meddwl.

Y pwynt yw, mae trefnu arlwy ar sianel fel S4C yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud, a nid pawb sy’ â’r gallu i neud y job yn iawn, dyna pam mae newidiadau wedi bod yn ddiweddar yno dwi’n meddwl.

Spring clean sy’ angen ar y sianel, cael gwared o’r rhaglenni a’r newidiadau sy’ heb weithio, a rhoi’r arbedion o’r rheini i mewn i raglenni sy’ naill ai yn gweithio, neu tuag at gommissiynau sy’n mynd i weithio. Sut mae darganfod beth sy’n mynd i weithio te S4C? Wel siaradwch efo ni, taflwch allan y bigwigs oddi ar eich pwyllgorau. Rhowch y bobl gyffredin mewn yn eu lle. Dim ond wedyn gallwch chi gael barn a chyngor gwerthfawr y bobl wirioneddol bwysig – sef ni, y gynulleidfa gyffredin (cofiwch, dim ond hyn a hyn o'r bobl sy'n ymddangos yn y Wales Yearbook sy’n gwylio S4C – mae na filoedd ar filoedd ohonom ni’r werin dlawd sy’n fwy na parod cael ein talu i roi ein barn i chi).

Rant ofyr.


DIWEDDARIAD:
Os ydych am fwy o reswm i newid ein sianel er gwell, edrychwch ar blog y boi 'ma: Rod Liddle, rhyw fath o newyddiadurwr sy'n sgwennu i'r Spectator. Mae angen i ni gau ceg hiliol a brwnt y cocoen yma - mae 2 ffordd o neud hyn, un ffordd yw i wella safon arlwy ein sianel. Mi adawai i chi feddwl am y ffordd arall sy' na o dawelu'r jac sais twp yma. Dyma'r linc holl bwysig i chi ddarllen:
http://www.spectator.co.uk/rodliddle/6392643/sosban-fach-yn-berwi-ana-tan.thtml

Wednesday, 20 October 2010

'Burton' - sioe un-dyn Rhodri Miles. Anhygoel o dda.

Blog fach sydyn sy' gennai i chi'r tro 'ma.

Rwy' newydd ddod adre o Ganolfan y Celfeddydau yn Aber ar ol gweld sioe 'Burton' - sef sioe un-dyn sy'n rhoi rhyw olwg fach ar pwy oedd Richard Burton. Rhodri Miles sy'n actio ynddo, ac mae'n sioe anhygoel o dda - un o'r sioeau orau dwi wedi weld (nid fy mod yn mynd i weld y math yma o beth rhyw lawer - dydw i ddim yn un o'r 'lovey-darlings').

Fel crwtyn o gefn gwlad sy'n deall mwy am 'viewing' nac am 'reviewing',  nai ddim eich diflasu chi gyda fy fersiwn i o 'adolygiad' - ond, fel rhywun sydd a diddordeb yn ser rhyngwladol Cymru (megis Huw Griffith, Richard Burton, Dylan Thomas, Peter Goginan ac wrth gwrs Grace Jones), rhaid i mi gyfadde i awr a chwarter di-doriad perfformiad Rhodri Miles hedfan heibio, ac hawdd iawn oedd anghofio ar adegau mae nid Burton ei hun oedd o'm blaen. A dweud y gwir, yn ystod rhai adegau pan roedd Rhodri wedi troi ei wyneb i ffwrdd rhyw gymaint, gan ein gadael a golwg o gefn ei ben, y cornel bach o wallt wedi gwynu o flaen ei glustiau, a cul-olwg o'r gwg ('w' to bach - h.y. frown  yn saesneg) oedd ar wyneb Burton yn barhaol, roedd y tebygrwydd (yn enwedig tra'n gwrando ar y llais cras-felfedaidd, a'r acen 'rhyngwladol-Gymraeg') i'r seren o Bont-rhyd-y-fen yn un a oedd yn codi ias.

Mae gallu Rhodri Miles cystal os nad gwell a gallu Michael Sheen, sydd wedi cael cyfleoedd ar y teledu'n portreadu Tony Blair a Brian Clough. Yn sicr, mae'r sioe yma yn haeddu cael ei hystyried fel raglen/drama deledu, a Rhodri ddylsai serennu ynddi.

Bum yn ddigon ffodus o ysgwyd llaw a Rhodri ar ol y perfformiad, a sioc arall (er ei fod yn dal yn ei wisg a'i golur Burton) oedd gweld pa mor wahanol oedd Rhodri o ran ei bryd a'i wedd i'r cymeriad a fu'n portreadu am ddros awr yn gynharach. Dyna i chi stamp actor a twyllwr da.

Ewch i weld 'Burton'.

Fel teyrnged i'r sioe, i Rhodri, ac wrth gwrs i Richard Burton, mi fyddai'n prynu Aberteifi (Cardigan) felyn o 'Burtons' Aber yfory.

Reit, amser gwely nawr. Nos da.