Wednesday, 30 March 2011

"Ddoe am ddeg"

Mi wnes i 'sky+'io hwn. Newydd ei wylio.

Ym....

Friday, 18 March 2011

Diwrnod y trwynau coch...

Mae'n ddiwrnod y trwynau coch. Lot o 'selebs' wedi bod wrthi'n brysur yn creu ffilmiau wirioneddol deimladwy o wledydd pell, a lot o selebs wedi bod wrthi'n gwneud pethau dwl a difyr o bob math i godi arian.

Cymrwch Chris Moyles a Dave Vitty o BBC Radio 1. Wedi bod wrthi am ryw 50 solid awr yn darlledu'n fyw a torri record byd. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.

Wedyn, criw o selebs amrywiol wedi cerdded 100km ar draws diffeithwch sych.  Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.

Cyflwynydd o Blue Peter wedi cerdded ar wifren rhwng 2 simne Battersey. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn (neu digon agos).

Yma yng Nghymru, bu Alun - seleb honedig ac un hanner o John ac Alun - yn waxio ei goesau ar y radio.

Deinamic. Bois bach, deinamic.

Ffoniwch 03457 910 910 neu cliciwch y ddolen i gyfrannu at ddiwrnod y trwynau coch.

Friday, 4 March 2011

Wel y ie ie, 'na fe.

Dwi newydd fod ar daith trwy goridorau twitter a facebook am 5 o'r gloch heno 'ma.

Be ddiawl sy wedi dod dros pobl? Ydy'r tim cenedlaethol wedi ennill y gamp lawn? Ydy V.E. day arnom eto? Yw clawdd Offa wedi troi'n gamlas a hwnnw'n lledu wrth y funud?

Dwi'n ddigon balch fod y canlyniad 'ie' wedi ennill y dydd, ond, o ddifri, oedd unrhyw amheuaeth gan unrhywun y byddai'r ganlyniad yn unrhywbeth ond 'ie'? Beth yw'r ystadegau - tua 2:1 ife? Digon iach ddwedwn i. O ran 'turnout', wel, mater arall yw hwnna, ac os rhywbeth, mi fuaswn i'n dweud nad yw 'turnout' o llai 'na 35% yn haeddu ryw ormod o ddathlu a dweud y gwir.

Ta waeth, mae'r canlyniad yn gam ymlaen i'r cynulliad. Gobeithio.

Reit, dwi off nawr i Spar i moyn 6 botel o 'pomagne'. Wedyn, ar รดl cael cael hyd i hen got a cap FWA falle a'i allan ar orymdaith wedyn yn saethu shotgun fy nhad yng nghyfraith allan o sunroof y pick-up tra'i fod e'n gyrru rownd a rownd strydoedd Machynlleth yn canu'r corn, efo hymdinger o ddraig goch yn chwifio allan o'r cefn.

Dewch a hi 'mlaen (bring it on).

If you can't beat em, join em...

Llongyfarchiadau i Gymru.