Saturday, 30 October 2010

'Movember' / 'Mwsdachwedd'

I bawb sy'n dilyn fy mlogs yn rheolaidd bellach gan edrych ymlaen neu ysgwyd pen mewn embaras ar beth dwi'n mynd i ddweud nesa (mwy na thebyg mond fi sy'n ffitio'r categori 'rheolaidd'), efallai mai siom y cei di / y cewch chi'r tro yma.

Chi'n gweld, rhywbeth positif sy' gennai ddweud yn hytrach na chŵyn neu ddychan.

Mae cydweithiwr i mi - Sion Onwy - a finne wedi penderfynu cymryd rhan mewn ymgyrch 'Movember' i godi arian a thynnu sylw tuag at Gancr Prostate a Chancr Testicular (sgennai ddim syniad beth yw rheina yn Gymraeg sori). Cancrau sy'n effeithio ar ddynion yn unig yw rhain, ac mae ymgyrch Movember wedi codi miliynau i'r achosion yma ers blynyddoedd. Sut? Wel, drwy annog dynion i dyfu 'mo' drwy gydol mis Tachwedd bob blwyddyn, a mynd ar ôl nawdd am wneud hynny.


Mae'n rywfaint o sbort, a da yw gweld bod modd cael hwyl heb fawr o ymdrech a chodi arian yr un pryd.

Dwi wedi rhoi ymgais ar dyfu 'gafren' o'r blaen, a methiant llwyr bu hwnnw (efo hindsight). Mwy na thebyg methiant llwyr aesthetig arall fydd ymdrech y mwstas, ond, pam lai? Efo Sion Onwy'n cymryd yr un her a finne'n y gwaith fyddai ddim ar fy mhen fy hun o ran derbyn sylwadau dwl (er, Sod's Law mi fydd mwstasen yn siwtio Sion, gan adael i fi edrych fel complete ffŵl).

Rydym wedi tynnu llun PR yn barod ar gyfer yr ymdrech - dyma hi:

Sion Onwy a Rhydian Mason sy'n ymdrechu at 'Mwsdachwedd' (Movember)



















Fel y gallwch weld, mae Sion a fi'n cymryd y peth yn hollol o ddifri.Yn ôl tudalen Movember, dim ond gŵyr bonheddig sy'n tyfu mwstachweddau, ac felly, fel gŵyr bonheddig rhaid cymryd camau priodol cyn cychwyn. Dyna paham mae'r paraffinelia ar y ford o'm blaenau (+ mi oedd yn lot o sbort cael tynnu llun hollol blentynnaidd am y tro cynta ers sbel...).


Nawr, os hoffech gefnogi Sion neu finne, mae pob croeso i chi wneud hynny. Mi fydd pob ceiniog a gasglir yn mynd at Movember ar ddiwedd y mis. Os fedrwch chi sbario pris peint, mi fydde hynny'n ffantastig.


Dyma'r link hollbwysig i gyfrannu: http://uk.movember.com/mospace/560030/

Gŵyr bonheddig yn codi arian. Cefnogwch wir.

Beth sy' yn y bocs? Hufen-gwrth-gosi wrth gwrs.
Pob lwc hefyd i ymgyrch Grow a Grav, sydd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni. Am ryw reswm, maent yn cynnal eu hymgyrch nhw yn ystod yr un mis a 'Movember'. Yn bersonol, mi fuaswn wedi dal yr ymgyrch nol tan bencampwriaeth y 6 gwlad yn 2011 ac ennill mwy byth o gefnogaeth (ac mi fuaswn i wedi gallu cymryd rhan yn y ddau wedyn!). 

Ta waeth - os ydych chi'n cymryd rhan yn 'Movember' neu 'Grow a Grav', pob lwc i chi a'ch ymdrechion i godi arian a chael hwyl r'un pryd.

Tuesday, 26 October 2010

'Croesi'r Sianel' - Stori fer gan y blogiwr.

Ryw noson oer, gwlyb a gwyntog oedd hi. Eisteddodd Rhydian i lawr ar ôl rhoi’r plant yn gwely, gan ochneidio o flinder wedi diwrnod hir arall. Oedd – mi oedd hi’n gret cael eistedd lawr a’i draed mewn slipars rhad o Matalan, a pecyn ffres o ‘Haribo Sour Mix’ wedi guddio’n braf rhwng ei goes, a braich y gadair esmwyth.

“Mi fytai’r cwbl ond y boteli cola”, meddyliodd.

Ond yng nghefn ei feddwl mi wyddai Rhydian fod llawer mwy i boeni am na’i ffug-flinder a’r nodd cysurus yn y cwdyn plastic. Roedd gwaith y dydd heb ddarfod eto, roedd tasg bwysica’r genedl ar fin cychwyn ar y sianel genedlaethol - 'Noson y gwylwyr'.

Fflachiodd amryw o luniau o’r dyddiau da trwy ei feddwl – Hanner Dwsin, Torri Gwynt, Ffalabalam, Swopsiwn, ac wrth gwrs, ‘Sgota. Daeth deigryn i’w lygaid fel gwlith ar ddeilen felyn hydrefol cyn iddi gwympo oddi ar y brigyn i’r llawr.

“Sut allai achub y sianel?” meddyliodd eto. “Be allai ‘neud i ddod a hygrededd, ffydd ac incwm newydd iddi,, i brofi ei bod hi dal yn wir mae ein cyfrifoldeb ni fel Cymry Cymraeg yw i ofalu am ac i fwynhau’r winllan a roddwyd i’n gofal?" 

"Sut yn wir allwn ni edrych ar ein wynebau yn y drych bob bore ar ôl hyd yn oed meiddio beirniadu ein ‘secred cow’?”

Trodd ei lygaid lawr at y gwagle yn y silff wrth y teledu. Anadlodd fewn mewn sioc – roedd yr ateb ganddo!

“I’r diawl a hi!” dywedodd yn uchel gan daflu ei egwyddorion o’r neilltu!

 “Dwi’n mynd i brynu DVD Box Set o Pobl y Cwm!”

“Shshsht!”, galwodd ei wraig yn hallt gan chwalu'r foment o gatharsis – “ti’n mynd i ddeffro’r plant!”.

Sleifiodd llaw Rhydian mewn siom arall mewn i’r cwdyn plastig wrth ei ochr. Cydiodd mewn Haribolsen a’i roi yn ei geg.

“shit y gath.” meddyliodd - “botel cola”.

Thursday, 21 October 2010

Dyfodol S4C - ein sianel, ein chwyldro.

Mae’r Cymry wedi codi fel ton tswnami i ymateb i’r busnes ‘ma am doriadau yng nghyllideb y sianel, ac wrth gwrs i’r newidiadau a fydd yn y ffordd mae’n cael ei rheoli/rhedeg/ariannu gan y BBC.

Fel cenedl, ‘da ni wedi hen arfer a’r busnes yma o gwyno’n gyhoeddus, o weld y gwydr yn hanner gwag (yn hytrach na hanner llawn).

Ac, er fy mod innau’n credu fod Cymru wedi cael tipyn o gam gan idiots hunan-bwysig San Steffan, fedrai ddim ychwaith peidio meddwl efallai mae ‘chwyldro’ or fath hyn sy’ angen ar ein S4C ni.

Os yw’r arian yn mynd i fynd yn brin, yna ‘quality, not quantity’ dylai’r mantra newydd fod. I rywun fel fi, yng nghanol fy nhri-degau, rhaid cyfadde (a dwi’n teimlo’n reit wael am hyn) fod bygyr ôl o werth i mi ar y sianel fel y mae hi ar hyn o bryd. Bob hyn a hyn, cawn ambell ddarllediad safonnol (Pen Talar, er engrhaifft), ond fel arfer, ac yn fy marn i fel un o gynulledifa’r sianel (noder, barn rhywun o’r gynulleidfa rwy’n cynnig, nid barn rhywun ‘on the inside’), rybish yw’r rhan helaeth o’r rhaglenni sydd ar yr arlwy.

Mae hyn yn ddweud mawr, a digon posib fy mod bellach ar y ‘black list’ am weud hynny, ond mae na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i roi ein clod a/neu feirniadaeth ar rywbeth sydd heb os o bwysigrwydd cenedlaethol i ni er mwyn sicrhau cadw’r safonnau.

Rwy’n cydymdeimlo a’r gofynnion sydd ar ein sianel – mae’n rhaid iddi fod yn bopeth i bawb, ond rwy’n ofni mae beth sy’ gyda ni ar hyn o bryd yw rhyw ‘average’ sâff yn y canol, a pob un rhaglen yn apelio rywfaint bach at bawb – y broblem yw mae ychydig iawn o apêl sydd gan y rhaglenni dwi’n ofni. Papur wal yw S4C i mi (a papur wal hen ffasiwn iawn hefyd), dyna’i gyd.

Mi allen ni restri rhai o raglenni S4C sy’n golygu dim byd i mi bellach:

Pobl y Cwm er engrhaifft – Duw a wyr pam fod pobl mor ‘precious’ amdano, fedrai ddim ei wylio- mae mor wael a hynny i mi. Dychmygwch pe bai’r BBC yn creu fersiwn Saesneg ohono, ‘mond cyfieithu’r sgript a’i ffilmio hi yn yr un ffordd a’i darlledu ar BBC1 – be’ yn wir fydde’r ymateb? Methiant llwyr a’r gynulleidfa ddim yn siwr os mae comedi gwael neu ffars wael yw e? Canslwch y rhaglen bob dydd wir i chi, a gwariwch yr un arian ar gynhyrchu 2 neu falle 3 rhifyn safonnol yr wthnos. A castiwch yn well – plis (gogs ym mhobman, plant ac acenion Caerdydd – mewn pentre sydd i fod yn ardal Caerfyrddin? C’mon).

0 ond 1? 0 ond rwtsh.

O ran llwyddiannau’r sianel, mae Cyw yn sicr yn un (y plant yn tŷ ni wrth eu bodd a’r arlwy yn y bore – ond lle mae arlwy’r plant bach yn y p’nawn?). Pen Talar hefyd wedi bod yn llwyddiant yn ty ni. Dyma i chi gyfres o raglenni sydd wedi profi eto fod modd creu teledu safonnol yng Nghymru ac yn y Gymraeg.

Mae S4C hefyd wedi cael nifer o raglenni ‘dim cweit’ – hynny yw, rhaglenni oedd yn dda o ran syniad, ond oedd ddim cweit yn hitio’r marc cystal ag y gallen nhw fod wedi neud. Y Porthmon, er engrhaifft – syniad arbennig o dda, Ifan yn gyflwynydd arbennig o dda, yn naturiol (ac yn sicr ddim yn un o ‘mowld’ y cyfryngis),  ond roedd rhywbeth am y gyfres oedd ddim yn ffitio rywsut. Oedd angen yr holl ffys gyda’r defaid? Oedd angen criw o aelodau’r Ffermwyr Ifanc i dywys defaid am ryw hanner milltir ar y tro? Neu a fydde wedi bod yn well i symleiddio’r cysyniad reit yn ôl – Ifan yn cyflwyno, ac yn cerdded gyda Erwyd Howells ar hyd taith y Porthmon, yn cyfarfod a pobl diddorol ar y ffordd, gan gynnwys aelodau’r Ffermwyr Ifanc. Dim defaid o gwbl – a pwyslais y gyfres ar y ‘daith’. Weloch chi raglen Eddie Izzard yn gwneud y marathons ar hyd Prydain rai misoedd yn ôl? Do? Wel dyna chi beth oedd y fformat i’w ddilyn. Syml, ac effeithiol.

Rhaglen arall sydd wedi diodde o or-gymlethu  ac sydd wedi troi mas bellach i fod yn un o’r ‘dim cweits’ yma yw Noson Lawen (mi wnai ddim son am ‘Hwylio’r Noson Lawen’ – ‘na beth oedd ‘Titanic’ arall). Beth sy’ wedi digwydd i’r gyfres gwedwch? Ydych chi wedi bod i recordiad Noson Lawen yn ddiweddar? Naddo? Mae’n werth i chi fynd i weld sut mae’r ‘magic of television’ yn gweithio. Clywed pob jôc ddwywaith os nad tair, a’r rheolwr llawr yn disgwyl i chi chwerthin bob tro fel pe baech chi’n ei chlywed am y tro cyntaf erioed. Clywed a gweld pob act fwy nag unwaith, a weithiau, y cyflwynydd yn cyflwyno pawb ar y diwedd, linc ar ôl linc ar ôl linc di-ddiwedd. A nawr, mae na bisibodi o’r cyfyngis yn cyfweld â Mrs Jones neu rhwyun rhwng pob act, a mynd ‘tu ôl y llwyfan’ i gyfweld a’r perfformwyr ar ôl iddynt berfformio. Pam!? No Need! A peth arall – yr un gwybenau da ni’n gweld arnyn nhw i gyd o’r bron. Robyn Lynn, Sian Cothi, Ffarmwr Ffowc, honna sy’n canu efo’i merch, a Nigel Owen.

A wedyn, beth am Fferm Ffactor? (don’t get me started...)

Reit, amser cwlio lawr dwi’n meddwl.

Y pwynt yw, mae trefnu arlwy ar sianel fel S4C yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud, a nid pawb sy’ â’r gallu i neud y job yn iawn, dyna pam mae newidiadau wedi bod yn ddiweddar yno dwi’n meddwl.

Spring clean sy’ angen ar y sianel, cael gwared o’r rhaglenni a’r newidiadau sy’ heb weithio, a rhoi’r arbedion o’r rheini i mewn i raglenni sy’ naill ai yn gweithio, neu tuag at gommissiynau sy’n mynd i weithio. Sut mae darganfod beth sy’n mynd i weithio te S4C? Wel siaradwch efo ni, taflwch allan y bigwigs oddi ar eich pwyllgorau. Rhowch y bobl gyffredin mewn yn eu lle. Dim ond wedyn gallwch chi gael barn a chyngor gwerthfawr y bobl wirioneddol bwysig – sef ni, y gynulleidfa gyffredin (cofiwch, dim ond hyn a hyn o'r bobl sy'n ymddangos yn y Wales Yearbook sy’n gwylio S4C – mae na filoedd ar filoedd ohonom ni’r werin dlawd sy’n fwy na parod cael ein talu i roi ein barn i chi).

Rant ofyr.


DIWEDDARIAD:
Os ydych am fwy o reswm i newid ein sianel er gwell, edrychwch ar blog y boi 'ma: Rod Liddle, rhyw fath o newyddiadurwr sy'n sgwennu i'r Spectator. Mae angen i ni gau ceg hiliol a brwnt y cocoen yma - mae 2 ffordd o neud hyn, un ffordd yw i wella safon arlwy ein sianel. Mi adawai i chi feddwl am y ffordd arall sy' na o dawelu'r jac sais twp yma. Dyma'r linc holl bwysig i chi ddarllen:
http://www.spectator.co.uk/rodliddle/6392643/sosban-fach-yn-berwi-ana-tan.thtml

Wednesday, 20 October 2010

'Burton' - sioe un-dyn Rhodri Miles. Anhygoel o dda.

Blog fach sydyn sy' gennai i chi'r tro 'ma.

Rwy' newydd ddod adre o Ganolfan y Celfeddydau yn Aber ar ol gweld sioe 'Burton' - sef sioe un-dyn sy'n rhoi rhyw olwg fach ar pwy oedd Richard Burton. Rhodri Miles sy'n actio ynddo, ac mae'n sioe anhygoel o dda - un o'r sioeau orau dwi wedi weld (nid fy mod yn mynd i weld y math yma o beth rhyw lawer - dydw i ddim yn un o'r 'lovey-darlings').

Fel crwtyn o gefn gwlad sy'n deall mwy am 'viewing' nac am 'reviewing',  nai ddim eich diflasu chi gyda fy fersiwn i o 'adolygiad' - ond, fel rhywun sydd a diddordeb yn ser rhyngwladol Cymru (megis Huw Griffith, Richard Burton, Dylan Thomas, Peter Goginan ac wrth gwrs Grace Jones), rhaid i mi gyfadde i awr a chwarter di-doriad perfformiad Rhodri Miles hedfan heibio, ac hawdd iawn oedd anghofio ar adegau mae nid Burton ei hun oedd o'm blaen. A dweud y gwir, yn ystod rhai adegau pan roedd Rhodri wedi troi ei wyneb i ffwrdd rhyw gymaint, gan ein gadael a golwg o gefn ei ben, y cornel bach o wallt wedi gwynu o flaen ei glustiau, a cul-olwg o'r gwg ('w' to bach - h.y. frown  yn saesneg) oedd ar wyneb Burton yn barhaol, roedd y tebygrwydd (yn enwedig tra'n gwrando ar y llais cras-felfedaidd, a'r acen 'rhyngwladol-Gymraeg') i'r seren o Bont-rhyd-y-fen yn un a oedd yn codi ias.

Mae gallu Rhodri Miles cystal os nad gwell a gallu Michael Sheen, sydd wedi cael cyfleoedd ar y teledu'n portreadu Tony Blair a Brian Clough. Yn sicr, mae'r sioe yma yn haeddu cael ei hystyried fel raglen/drama deledu, a Rhodri ddylsai serennu ynddi.

Bum yn ddigon ffodus o ysgwyd llaw a Rhodri ar ol y perfformiad, a sioc arall (er ei fod yn dal yn ei wisg a'i golur Burton) oedd gweld pa mor wahanol oedd Rhodri o ran ei bryd a'i wedd i'r cymeriad a fu'n portreadu am ddros awr yn gynharach. Dyna i chi stamp actor a twyllwr da.

Ewch i weld 'Burton'.

Fel teyrnged i'r sioe, i Rhodri, ac wrth gwrs i Richard Burton, mi fyddai'n prynu Aberteifi (Cardigan) felyn o 'Burtons' Aber yfory.

Reit, amser gwely nawr. Nos da.

Friday, 15 October 2010

Achubiaeth yn Chile, a cais am glip o Pawb a'i Fam/Farn

Wel, ‘na beth oedd wythnos. Achub 33 o fwynwyr o grombil y ddaear. Anhygoel a gwyrthiol.

Mi fyddai’n cofio’n union lle oeddwn i pan achubwyd y cynta’ a’r ola’ o’r mwynwyr am weddill fy mywyd (jyst fel ma’ llawer o bobl yn cofio’n union lle oeddyn nhw pan fu Kennedy ac Elvis farw, pan gafodd Gwynfor ei sedd, ac wrth gwrs, pan ddwedodd Dafydd Iwan eiriau a oedd yn awgrymu'n gryf fod hi’n bryd i’r Cymry sylweddoli fod hi'n amser symyd ymlaen o ddadle a ymgyrchu dros ein ysgolion bach yn 2008 ar raglen Pawb a’i Fam/Farn  – dyna chi hen dw@ o beth i weud, a dwi eisioes wedi llosgi bob record Dafydd Iwan a oedd gennai, ac hefyd wedi anghofio geiriau ei ganeuon).

Ie – wythnos rhagorol ar sawl lefel. Achubiaeth go iawn, ymdrech cenedl gyfan, y byd i gyd wedi dal ei wynt, a llwyddiant ysgubol PR i Chile a’i top brass.

Be? Llwyddiant PR? Wel ie, wrth gwrs – PR – dyma beth oedd cyfle arbenig i’r wlad, a, chware teg, buaswn i’n dadle mae nid y mwynwyr yn unig a achubwyd yr wythnos ‘ma, ond llywodraeth a hunan-barch Chile’n gyffredinol – diolch i ‘PR’ da, a rheolaeth dda o’r wasg yn ystod y digwyddiad.

Cofiwch, dwi ddim am dynnu dim byd oddi ar y stori ‘ddynol’ a welwyd ar y newyddion – mae’n yffach o stori, ac yn un a fydd yn cyrraedd statws ‘epic’ yn hanes mwyngloddio, hanes Chile, ac hefyd hanes cwmni sbectol haul Oakley.

Croeso nol i chi, fwynwyr bach – croeso nol.

(Gyda llaw, os oes gan unrhyw un gopi neu’r clip o’r rhifyn yna o Pawb a’i Fam/Farn pan agorodd Dafydd Iwan ei hen geg, mi fuaswn yn ddiolchgar iawn o’i weld eto – mi fuase’n dda o beth petai canwr protest ‘go iawn’ ag egwyddorion yn sgwennu can yn ei gylch efallai)

O ie, gyda llaw, mae colofn Thomas Huw yn son am y Ka Ford yr wythnos yma – lot gwell, ond angen mwy o 'comas', 'full stops', a geiriau ma' pobl yn 'actually' deall. Dalier ati.

Friday, 8 October 2010

Twpdra Mason Rhydian yn y Gymraeg, wrth ddarllen y Cymro.

Dwi newydd droi at fy hoff ddarn ym mhapur y Cymro - colofn moduro Thomas Huw. Mae'n gampwaith - na - gwyrth o golofn sy'n codi gwên arnai bob wthnos. Yr wythnos yma, Panamera Porsche (sylwch nid y 'Porsche Panamera' - does dim dilyn y confensiwn o roi enw'r gwneuthurwr o flaen o enw'r model yn perthyn i adolygiadau'r boi 'ma) sy'n cael ei adolygu. Dwi ddim yn siwr sawl milltir mae Thomas Huw wedi gyrru yn y Panamera, ond mae'n cynnig yn ei bennawd mae 'meistrolgar' yw'r cerbyd yma o Stuttgart.

A pwy ydw i yn wir i ddadlau efo Thomas Huw. Mae Porsche wedi cynhyrchu ceir penigamp ers degawdau (onibai am y 924 efallai - moment wan i'r grwp Almaenig o wneuthurwyr), a braf yw cael sêl bendith y Cymro ar y Panamera diweddaraf. Rwy'n siwr y buasai'r hen Ferdinand yn prowd.

Ta waeth, os nad ydych chi wedi darllen colofn y boi 'ma eto, plis prynwch neu fynnwch gopi o'r Cymro, neu ewch i Smiths i gael pip arno fe. Ma'r golofn ar dudalen 16, wrth ymyl y swyddi gweigion.

Mae'r hyn mae Thomas Huw yn ei ddweud am wn i yn ffeithiol gywir, ond mae ei arddull o sgwennu yn fy atgoffa i o'r gwersi 'Cymraeg Llen' yna pan oeddwn ni'n codi dyfyniadau o'r Traddodiad Barddol nol yn y chweched dosbarth, - rhyw fersiwn o'r hen Gymraeg y buasai Daf ap Gwil o Frogynin wedi defnyddio.

Cymrwch y cymal hwn o'i golofn yr wythnos yma fel esiampl:

"Cymharol gryf (os nad mor gadarn a gwerthoedd ail-law y ceir camapau), apelio at leiafrif bychan ysywaeth fuasai blwch nerth braich serch ymateb mwy prydlon a dedwydd."

Mae 'Google Translate' yn cynnig cyfieithiad i'r Saesneg fel a ganlyn o'r cymal uchod:

"Relatively strong (if not as robust and the values of second-hand cars camapau(sports?)), appeal to a minority unfortunately a small box would arm strength despite a more timely response and happy."

Nawr, rhaid i mi gyfadde, dydw i ddim yn ryw expert yn y Gymraeg. Mi ges i 'A' unwaith am draethawd Cymraeg pan oeddwn i'n y 5ed dosbarth ym Mhenweddig, ond er yr uchafbwynt yna, i mi, mae fersiwn google yn gwneud mymryn mwy o sens o drwch blewyn. Hyn wrth gwrs, gan ddefnyddio'r holl brofiad sy' gennai o gerbydau gan gynnwys adnewyddu ac addasu nifer o hen Imps, Clan Clover, a Clan Crusader (pidwch becso, mi fydd Thomas Huw - fel arbennigwr - yn gyfarwydd gyda rhain) dros y blynyddoedd diwethaf.

Felly paham fod angen iddo ysgrifennu yn y steil arbennig yma tybed? Mae gennai theori, mewn byd cystadleuol fel byd y newyddiadurwyr moduro, mae’n bwysig bachu steil unigryw, ac os taw dyma fwriad Thomas Huw, yna mae’n rhaid ei ganmol am hyn.

Felly, megis arddull rhyw 'esperanto-cymreig' colledig, pleser yw cynnig y geiriau canlynol sy'n gosod Thomas Huw ar yr un mynydd-dir a cewri'r newyddiadurwyr moduro ar y BBC a Channel 5:

'Clodwiw y geiriad (clirdeb a chynul - am air, gair, o'r hen Ododdinol Gymraeg) a "dewr" fy ffug-ddealltwriaeth fod sens yn gwneud ei gael. Dra wahanol o steil adolygiadau Clarkson Jeremy (Gear Top), neu pytiau manwl-finiog - a chyfforddus Needell Tiff (Gear 5th).

Nid rhad.'

Wednesday, 6 October 2010

Y Blog Cyntaf

Be' ddiawl dwi fod i sgwennu fan hyn gwedwch? Dwi dal ddim yn 'convinced' am y busnes blogio 'ma. Ond, mi wedodd rhywun wrthai y fydde jobs telifision yn dod fewn se'r cynhyrchwyr yn gweld bod gennai rhywbeth difyr i weud. Wel, sori i siomi chi, ond sai'n credu bydde hyd yn oed Wedi 3, Hacio, na 'Pysgota' a diddordeb yn be sy gyda fi i weud.

Yn waeth na hynny, er fy mod nawr yn llawn bwriadu postio blog yn rheolaidd, yn wythnosol neu'n amlach, y gwir yw y byddaf wedi anghofio am y blogio 'ma ymhen ryw awr.

Y rheswm am hyn yw ar hyn o bryd, pwy yffarn sy'n mynd i ddarllen hwn? S'neb yn gwybod bod blog yn bodoli gennai, ac os ai ar ol pobl, 'hasslo' nhw efo ebyst yn eu gwahodd i ddarllen fy mlog i, wel, ma hwnna bach yn despret yn dyw e?

Ond, (ac ma' hyn yn ond mawr), mae wastad posibilrwydd y byddai'n blogio rhywbeth sy'n 'ddweud mawr'. Efallai mi wnai dodi bys bawd fy nhroed i gawl cawl y gwleidyddion (e.e. Alun Ffred a'r joli i Delhi), neu son am wastraffu arian trethdalwyr (e.e. miliynau gan y Cynlleied Cenedlaethol ar gyfer penwythnos golff i'r bois ar dir y biliwnydd yng Nghasnewydd), neu hyd yn oed mynegi barn am gau ysgolion bach ein ardaleoedd gwledig a lladd ar y cymunedau Cymreig naturiol prin sy'n bodoli.

Felly, ymhen ychydig linellau dwi'n credu fy mod wedi gosod sail fy mlog cyntaf (gan gymryd y bydd blog neu ddau arall yn y dyfofol). Blog i gwyno fydd hwn, heb os nac oni bai.

Felly, a minnau bellach yn barod am rhyw bwt bach o ginio, mi adawai chi gyda cwestiwn reit syml.

Beth sydd fwyaf gwerthfawr i Gymru - £40miliwn ar benwythnos fach o golff yng Nghasnewydd, neu £40miliwn i safio ambell ysgol fach Gymreig, neu i wella safon y gwasanaeth iechyd yn ein cenedl fach ni?

(Gallwch chi stwffio'ch 'clybs' lan eich '18th hole')