Dwi newydd droi at fy hoff ddarn ym mhapur y Cymro - colofn moduro Thomas Huw. Mae'n gampwaith - na - gwyrth o golofn sy'n codi gwên arnai bob wthnos. Yr wythnos yma, Panamera Porsche (sylwch nid y 'Porsche Panamera' - does dim dilyn y confensiwn o roi enw'r gwneuthurwr o flaen o enw'r model yn perthyn i adolygiadau'r boi 'ma) sy'n cael ei adolygu. Dwi ddim yn siwr sawl milltir mae Thomas Huw wedi gyrru yn y Panamera, ond mae'n cynnig yn ei bennawd mae 'meistrolgar' yw'r cerbyd yma o Stuttgart.
A pwy ydw i yn wir i ddadlau efo Thomas Huw. Mae Porsche wedi cynhyrchu ceir penigamp ers degawdau (onibai am y 924 efallai - moment wan i'r grwp Almaenig o wneuthurwyr), a braf yw cael sêl bendith y Cymro ar y Panamera diweddaraf. Rwy'n siwr y buasai'r hen Ferdinand yn prowd.
Ta waeth, os nad ydych chi wedi darllen colofn y boi 'ma eto, plis prynwch neu fynnwch gopi o'r Cymro, neu ewch i Smiths i gael pip arno fe. Ma'r golofn ar dudalen 16, wrth ymyl y swyddi gweigion.
Mae'r hyn mae Thomas Huw yn ei ddweud am wn i yn ffeithiol gywir, ond mae ei arddull o sgwennu yn fy atgoffa i o'r gwersi 'Cymraeg Llen' yna pan oeddwn ni'n codi dyfyniadau o'r Traddodiad Barddol nol yn y chweched dosbarth, - rhyw fersiwn o'r hen Gymraeg y buasai Daf ap Gwil o Frogynin wedi defnyddio.
Cymrwch y cymal hwn o'i golofn yr wythnos yma fel esiampl:
"Cymharol gryf (os nad mor gadarn a gwerthoedd ail-law y ceir camapau), apelio at leiafrif bychan ysywaeth fuasai blwch nerth braich serch ymateb mwy prydlon a dedwydd."
Mae 'Google Translate' yn cynnig cyfieithiad i'r Saesneg fel a ganlyn o'r cymal uchod:
"Relatively strong (if not as robust and the values of second-hand cars camapau(sports?)), appeal to a minority unfortunately a small box would arm strength despite a more timely response and happy."
Nawr, rhaid i mi gyfadde, dydw i ddim yn ryw expert yn y Gymraeg. Mi ges i 'A' unwaith am draethawd Cymraeg pan oeddwn i'n y 5ed dosbarth ym Mhenweddig, ond er yr uchafbwynt yna, i mi, mae fersiwn google yn gwneud mymryn mwy o sens o drwch blewyn. Hyn wrth gwrs, gan ddefnyddio'r holl brofiad sy' gennai o gerbydau gan gynnwys adnewyddu ac addasu nifer o hen Imps, Clan Clover, a Clan Crusader (pidwch becso, mi fydd Thomas Huw - fel arbennigwr - yn gyfarwydd gyda rhain) dros y blynyddoedd diwethaf.
Felly paham fod angen iddo ysgrifennu yn y steil arbennig yma tybed? Mae gennai theori, mewn byd cystadleuol fel byd y newyddiadurwyr moduro, mae’n bwysig bachu steil unigryw, ac os taw dyma fwriad Thomas Huw, yna mae’n rhaid ei ganmol am hyn.
Felly, megis arddull rhyw 'esperanto-cymreig' colledig, pleser yw cynnig y geiriau canlynol sy'n gosod Thomas Huw ar yr un mynydd-dir a cewri'r newyddiadurwyr moduro ar y BBC a Channel 5:
'Clodwiw y geiriad (clirdeb a chynul - am air, gair, o'r hen Ododdinol Gymraeg) a "dewr" fy ffug-ddealltwriaeth fod sens yn gwneud ei gael. Dra wahanol o steil adolygiadau Clarkson Jeremy (Gear Top), neu pytiau manwl-finiog - a chyfforddus Needell Tiff (Gear 5th).
Nid rhad.'
No comments:
Post a Comment