Mae’r Cymry wedi codi fel ton tswnami i ymateb i’r busnes ‘ma am doriadau yng nghyllideb y sianel, ac wrth gwrs i’r newidiadau a fydd yn y ffordd mae’n cael ei rheoli/rhedeg/ariannu gan y BBC.
Fel cenedl, ‘da ni wedi hen arfer a’r busnes yma o gwyno’n gyhoeddus, o weld y gwydr yn hanner gwag (yn hytrac h na hanner llawn).
Ac, er fy mod innau’n credu fod Cymru wedi cael tipyn o gam gan idiots hunan-bwysig San Steffan, fedrai ddim ychwaith peidio meddwl efallai mae ‘chwyldro’ or fath hyn sy’ angen ar ein S4C ni.
Os yw’r arian yn mynd i fynd yn brin, yna ‘quality, not quantity’ dylai’r mantra newydd fod. I rywun fel fi, yng nghanol fy nhri-degau, rhaid cyfadde (a dwi’n teimlo’n reit wael am hyn) fod bygyr ôl o werth i mi ar y sianel fel y mae hi ar hyn o bryd. Bob hyn a hyn, cawn ambell ddarllediad safonnol (Pen Talar, er engrhaifft), ond fel arfer, ac yn fy marn i fel un o gynulledifa’r sianel (noder, barn rhywun o’r gynulleidfa rwy’n cynnig, nid barn rhywun ‘on the inside’), rybish yw’r rhan helaeth o’r rhaglenni sydd ar yr arlwy.
Mae hyn yn ddweud mawr, a digon posib fy mod bellach ar y ‘black list’ am weud hynny, ond mae na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i roi ein clod a/neu feirniadaeth ar rywbeth sydd heb os o bwysigrwydd cenedlaethol i ni er mwyn sicrhau cadw’r safonnau.
Rwy’n cydymdeimlo a’r gofynnion sydd ar ein sianel – mae’n rhaid iddi fod yn bopeth i bawb, ond rwy’n ofni mae beth sy’ gyda ni ar hyn o bryd yw rhyw ‘average’ sâff yn y canol, a pob un rhaglen yn apelio rywfaint bach at bawb – y broblem yw mae ychydig iawn o apêl sydd gan y rhaglenni dwi’n ofni. Papur wal yw S4C i mi (a papur wal hen ffasiwn iawn hefyd), dyna’i gyd.
Mi allen ni restri rhai o raglenni S4C sy’n golygu dim byd i mi bellach:
Pobl y Cwm er engrhaifft – Duw a wyr pam fod pobl mor ‘precious’ amdano, fedrai ddim ei wylio- mae mor wael a hynny i mi. Dychmygwch pe bai’r BBC yn creu fersiwn Saesneg ohono, ‘mond cyfieithu’r sgript a’i ffilmio hi yn yr un ffordd a’i darlledu ar BBC1 – be’ yn wir fydde’r ymateb? Methiant llwyr a’r gynulleidfa ddim yn siwr os mae comedi gwael neu ffars wael yw e? Canslwch y rhaglen bob dydd wir i chi, a gwariwch yr un arian ar gynhyrchu 2 neu falle 3 rhifyn safonnol yr wthnos. A castiwch yn well – plis (gogs ym mhobman, plant ac acenion Caerdydd – mewn pentre sydd i fod yn ardal Caerfyrddin? C’mon).
0 ond 1? 0 ond rwtsh.
O ran llwyddiannau’r sianel, mae Cyw yn sicr yn un (y plant yn tŷ ni wrth eu bodd a’r arlwy yn y bore – ond lle mae arlwy’r plant bach yn y p’nawn?). Pen Talar hefyd wedi bod yn llwyddiant yn ty ni. Dyma i chi gyfres o raglenni sydd wedi profi eto fod modd creu teledu safonnol yng Nghymru ac yn y Gymraeg.
Mae S4C hefyd wedi cael nifer o raglenni ‘dim cweit’ – hynny yw, rhaglenni oedd yn dda o ran syniad, ond oedd ddim cweit yn hitio’r marc cystal ag y gallen nhw fod wedi neud. Y Porthmon, er engrhaifft – syniad arbennig o dda, Ifan yn gyflwynydd arbennig o dda, yn naturiol (ac yn sicr ddim yn un o ‘mowld’ y cyfryngis), ond roedd rhywbeth am y gyfres oedd ddim yn ffitio rywsut. Oedd angen yr holl ffys gyda’r defaid? Oedd angen criw o aelodau’r Ffermwyr Ifanc i dywys defaid am ryw hanner milltir ar y tro? Neu a fydde wedi bod yn well i symleiddio’r cysyniad reit yn ôl – Ifan yn cyflwyno, ac yn cerdded gyda Erwyd Howells ar hyd taith y Porthmon, yn cyfarfod a pobl diddorol ar y ffordd, gan gynnwys aelodau’r Ffermwyr Ifanc. Dim defaid o gwbl – a pwyslais y gyfres ar y ‘daith’. Weloch chi raglen Eddie Izzard yn gwneud y marathons ar hyd Prydain rai misoedd yn ôl? Do? Wel dyna chi beth oedd y fformat i’w ddilyn. Syml, ac effeithiol.
Rhaglen arall sydd wedi diodde o or-gymlethu ac sydd wedi troi mas bellach i fod yn un o’r ‘dim cweits’ yma yw Noson Lawen (mi wnai ddim son am ‘Hwylio’r Noson Lawen’ – ‘na beth oedd ‘Titanic’ arall). Beth sy’ wedi digwydd i’r gyfres gwedwch? Ydych chi wedi bod i recordiad Noson Lawen yn ddiweddar? Naddo? Mae’n werth i chi fynd i weld sut mae’r ‘magic of television’ yn gweithio. Clywed pob jôc ddwywaith os nad tair, a’r rheolwr llawr yn disgwyl i chi chwerthin bob tro fel pe baech chi’n ei chlywed am y tro cyntaf erioed. Clywed a gweld pob act fwy nag unwaith, a weithiau, y cyflwynydd yn cyflwyno pawb ar y diwedd, linc ar ôl linc ar ôl linc di-ddiwedd. A nawr, mae na bisibodi o’r cyfyngis yn cyfweld â Mrs Jones neu rhwyun rhwng pob act, a mynd ‘tu ôl y llwyfan’ i gyfweld a’r perfformwyr ar ôl iddynt berfformio. Pam!? No Need! A peth arall – yr un gwybenau da ni’n gweld arnyn nhw i gyd o’r bron. Robyn Lynn, Sian Cothi, Ffarmwr Ffowc, honna sy’n canu efo’i merch, a Nigel Owen.
A wedyn, beth am Fferm Ffactor? (don’t get me started...)
Reit, amser cwlio lawr dwi’n meddwl.
Y pwynt yw, mae trefnu arlwy ar sianel fel S4C yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud, a nid pawb sy’ â’r gallu i neud y job yn iawn, dyna pam mae newidiadau wedi bod yn ddiweddar yno dwi’n meddwl.
Spring clean sy’ angen ar y sianel, cael gwared o’r rhaglenni a’r newidiadau sy’ heb weithio, a rhoi’r arbedion o’r rheini i mewn i raglenni sy’ naill ai yn gweithio, neu tuag at gommissiynau sy’n mynd i weithio. Sut mae darganfod beth sy’n mynd i weithio te S4C? Wel siaradwch efo ni, taflwch allan y bigwigs oddi ar eich pwyllgorau. Rhowch y bobl gyffredin mewn yn eu lle. Dim ond wedyn gallwch chi gael barn a chyngor gwerthfawr y bobl wirioneddol bwysig – sef ni, y gynulleidfa gyffredin (cofiwch, dim ond hyn a hyn o'r bobl sy'n ymddangos yn y Wales Yearbook sy’n gwylio S4C – mae na filoedd ar filoedd ohonom ni’r werin dlawd sy’n fwy na parod cael ein talu i roi ein barn i chi).
Rant ofyr.
DIWEDDARIAD:
Os ydych am fwy o reswm i newid ein sianel er gwell, edrychwch ar blog y boi 'ma: Rod Liddle, rhyw fath o newyddiadurwr sy'n sgwennu i'r Spectator. Mae angen i ni gau ceg hiliol a brwnt y cocoen yma - mae 2 ffordd o neud hyn, un ffordd yw i wella safon arlwy ein sianel. Mi adawai i chi feddwl am y ffordd arall sy' na o dawelu'r jac sais twp yma. Dyma'r linc holl bwysig i chi ddarllen:
http://www.spectator.co.uk/rodliddle/6392643/sosban-fach-yn-berwi-ana-tan.thtml
DIWEDDARIAD:
Os ydych am fwy o reswm i newid ein sianel er gwell, edrychwch ar blog y boi 'ma: Rod Liddle, rhyw fath o newyddiadurwr sy'n sgwennu i'r Spectator. Mae angen i ni gau ceg hiliol a brwnt y cocoen yma - mae 2 ffordd o neud hyn, un ffordd yw i wella safon arlwy ein sianel. Mi adawai i chi feddwl am y ffordd arall sy' na o dawelu'r jac sais twp yma. Dyma'r linc holl bwysig i chi ddarllen:
http://www.spectator.co.uk/rodliddle/6392643/sosban-fach-yn-berwi-ana-tan.thtml
Rwyt ti'n teimlo fel 'na. Dw i'n teimlo fel 'na. Faint mwy o Gymry sy'n rhannu'r un teimlad, sgwn i?
ReplyDeleteSdim rhyfedd fod S4sieC mewn cymaint o dwll.