Chi'n gweld, rhywbeth positif sy' gennai ddweud yn hytrach na chŵyn neu ddychan.
Mae cydweithiwr i mi - Sion Onwy - a finne wedi penderfynu cymryd rhan mewn ymgyrch 'Movember' i godi arian a thynnu sylw tuag at Gancr Prostate a Chancr Testicular (sgennai ddim syniad beth yw rheina yn Gymraeg sori). Cancrau sy'n effeithio ar ddynion yn unig yw rhain, ac mae ymgyrch Movember wedi codi miliynau i'r achosion yma ers blynyddoedd. Sut? Wel, drwy annog dynion i dyfu 'mo' drwy gydol mis Tachwedd bob blwyddyn, a mynd ar ôl nawdd am wneud hynny.
Mae'n rywfaint o sbort, a da yw gweld bod modd cael hwyl heb fawr o ymdrech a chodi arian yr un pryd.
Dwi wedi rhoi ymgais ar dyfu 'gafren' o'r blaen, a methiant llwyr bu hwnnw (efo hindsight). Mwy na thebyg methiant llwyr aesthetig arall fydd ymdrech y mwstas, ond, pam lai? Efo Sion Onwy'n cymryd yr un her a finne'n y gwaith fyddai ddim ar fy mhen fy hun o ran derbyn sylwadau dwl (er, Sod's Law mi fydd mwstasen yn siwtio Sion, gan adael i fi edrych fel complete ffŵl).
Rydym wedi tynnu llun PR yn barod ar gyfer yr ymdrech - dyma hi:
![]() |
| Sion Onwy a Rhydian Mason sy'n ymdrechu at 'Mwsdachwedd' (Movember) |
Fel y gallwch weld, mae Sion a fi'n cymryd y peth yn hollol o ddifri.Yn ôl tudalen Movember, dim ond gŵyr bonheddig sy'n tyfu mwstachweddau, ac felly, fel gŵyr bonheddig rhaid cymryd camau priodol cyn cychwyn. Dyna paham mae'r paraffinelia ar y ford o'm blaenau (+ mi oedd yn lot o sbort cael tynnu llun hollol blentynnaidd am y tro cynta ers sbel...).
Nawr, os hoffech gefnogi Sion neu finne, mae pob croeso i chi wneud hynny. Mi fydd pob ceiniog a gasglir yn mynd at Movember ar ddiwedd y mis. Os fedrwch chi sbario pris peint, mi fydde hynny'n ffantastig.
Dyma'r link hollbwysig i gyfrannu: http://uk.movember.com/mospace/560030/
![]() |
| Gŵyr bonheddig yn codi arian. Cefnogwch wir. |
![]() |
| Beth sy' yn y bocs? Hufen-gwrth-gosi wrth gwrs. |
Pob lwc hefyd i ymgyrch Grow a Grav, sydd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni. Am ryw reswm, maent yn cynnal eu hymgyrch nhw yn ystod yr un mis a 'Movember'. Yn bersonol, mi fuaswn wedi dal yr ymgyrch nol tan bencampwriaeth y 6 gwlad yn 2011 ac ennill mwy byth o gefnogaeth (ac mi fuaswn i wedi gallu cymryd rhan yn y ddau wedyn!).
Ta waeth - os ydych chi'n cymryd rhan yn 'Movember' neu 'Grow a Grav', pob lwc i chi a'ch ymdrechion i godi arian a chael hwyl r'un pryd.



No comments:
Post a Comment