Mae’n hen bryd i brif fudiad ieuenctid Cymru gael sylw ar y blog ‘ma (ac hefyd cyfle i dorri record am sawl gwaith allai iwso’r gair ‘mudiad’ mewn blog).
Mae fy nyled i iddynt yn fawr iawn, a dwi’n teimlo’n gyson nad yw’r mudiad yma’n cael cwarter digon o sylw na cefnogaeth gan y ‘sefydliad(au)’ yng Nghymru.
Diolch i’r mudiad ieuenctid arbennig yma, dwi wedi cael cyfle i ganu, i adrodd, i actio, i fynd ar benwythnosau preswyl, sgio, canwio, hwylio ar lyn, dringo wal, cystadlu ar lwyfan, bowlio 10, merlota, nofio, beiciau modur, midnight feasts, gwersylla, canu mewn côr, cymryd rhan mewn sessiynau wythnosol diddorol, ‘steddfota (wrth gwrs!) a llu o bethau eraill gan gynnwys penwythnosau o gystadlu ar y caeau chwarae yn erbyn timoedd o dros Gymru – a thu hwnt.
Fel aelod ohonynt datblygodd yr hyder i ddweud fy marn yn gyhoeddus, i sefyll ar fy nhraed o flaen cynulleidfa ac annerch y dorf. Cefais y cyfle i actio mewn dramau a sgetsys. Ces gyfle i sgwennu dwsinau o ganeuon call a dwl, a sgetsys i’r aelodau eraill, a cael y fraint o’u gweld yn cael eu perfformio ar lwyfannau theatrau nodedig.
Dwi wedi bod yn codi arian i elusennau fel aelod, ac wedi cael y fraint a’r anrhydedd o deimlo’n rhan o gymuned, gan deimlo cynesrwydd a gwerthfawrogiad go iawn y bobl leol.
Nid fi yn unig sy’ wedi gallu manteisio ar y fath gyfleoedd – mae’r rhan helaeth o’r aelodau trwy Gymru yn siwr o gytuno eu bod hwythau hefyd mewn dyled i’r mudiad ‘r’un fath a fi. Mae’n fudiad sy’n haeddu lot mwy na beth mae’n gael ar hyn o bryd.
Mae’n hen bryd i’r ‘sefydliadau’ (achos mae’r ‘sefydliadau’ yn dal i fodoli credwch fi) i roi cydnabyddiaeth go iawn (yn hytrach na be’ fuaswn i’n galw’n ‘token gesture’) iddyn nhw – mae ‘na fudiadau ieuenctid eraill yn derbyn llawer iawn mwy ‘y pen’ na’r mudiad yma. Dwi ddim yn credu i’r mudiad yma erioed gael grant i bryny bwrdd pŵl neu ‘mixing desk’ nac ychwaith arian i greu ‘stiwdio recordio’ i gynhyrchu swn.
O ran y digwyddiadau cenedlaethol maent yn cynnal, plis Mr Cynlleied, rhowch fwy o gefnogaeth iddyn nhw – mae’r Eisteddfod (i son am un digwyddiad yn unig) yn haeddu llawer iawn mwy na beth mae nhw’n ei gael. Ac mi allai eich sicrhau chi – nid i ‘dwll di-waelod’ y buasai’r pres yn mynd. Dyma i chi fudiad sy’n gwerthfawrogi ac yn defnyddio pob ceiniog. Nid yw’n gyfoethog o ran arian, ond mae gyda’r cyfoethocaf o ran popeth arall sy’n cyfri.
Mae cyfraniad y mudiad yma i ffyniant naturiol yr iaith Gymraeg hefyd yn arbennig iawn – ac mae’n fudiad lle mae’r di-Gymraeg hefyd yn medru cymryd rhan heb ddim problem, ac heb ffiniau.
Mae ‘na fudiad ieuenctid arall yng Nghymru wrth gwrs sy’n gwneud gwaith da ac sy’n cael handouts hael iawn yn barod (a dwi ddim am eiliad yn dwrdio nhw am hynny - mae'r Urdd yn fudiad hynod o bwysig i ni hefyd), ond nid un o 'blant yr Urdd' oeddwn i yn fy nghalon, a roeddwn i’n cael hiraeth am adre bob tro arhoses i yn y gwersyll yn Llangrannog. Roeddwn wrth reswm, yn gonscript i’r Urdd fel pawb arall yn ysgol Trefeurig a'r rhan fwya' o ysgolion cynradd Cymru, ond fedrai ddim dweud a’m llaw ar fy nghalon ei fod erioed wedi cydio ynof yn yr un modd a’r Ffermwyr Ifanc. Pam? Wel, fel aelod o’r CFfI, ni fel aelodau oedd yn rheoli popeth, yn gwneud y penderfyniadau, ac yn rhedeg y mudiad ar lefel clwb, sirol, a Chymru. Ni fel aelodau oedd yn dewis os oeddwn am gystadlu a cymryd rhan, ac o’r herwydd, mi gefais lot mwy allan o’r peth. Fi oedd ‘in charge’ – nid ryw athro neu athrawes.
Hir oes i CFfI Cymru – prif fudiad ieuenctid Cymru, ac am ryw reswm, mudiad sy’n dal i fod yn gyfrinach i rai (a rhai a ddylai fod yn gwybod yn well).
Un cais bach i’r aelodau presennol plis: mi ddylai’r oedran cystadlu gael ei ymestyn at 40 plis. Mae 26 yn llawer rhy ifanc i atal bobl rhag cystadlu. Rwy’n cael ‘withdrawal symptoms’ ers bron i 9 mlynedd. A fedrwch chi godi hwn yng nghyfarfod nesa’r Cyngor os gwelwch fod yn dda?
Gyda llaw, mi fum yn gwylio Eisteddfod Ffederasiwn CFfI Ceredigion ar-lein nos Sadwrn, a roeddwn i’n ddigon ffodus o ‘diwnio mewn’ jyst fel bo’r deuawdau doniol yn cychwyn. Ambell berl yn fan’na. Lot, lot gwell na gwylio Noson Lawen – a chware teg, mi oedd safon y darllediad yn gyffredinol yn broffesiynol iawn – ond yn bwysicach na hynny, mi oedd y peth yn hollol naturiol – gan gynnwys y cyfweliadau a’r cyflwyno o’r stiwdio fach a oedd yn digwydd rhwng y cystadleuthau. Da iawn chi yn wir (a dwi’n trio ‘ngorau I beidio a swnio’n patronising).
Felly, os ydych chi o fewn yr oedran (10-26) ymunwch nawr – mae clybiau trwy Gymru, a s’dim rhaid i chi wybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng chevrolet a limousin: http://www.yfc-wales.org.uk/
No comments:
Post a Comment