Er i mi gadw draw o'r blog ma yn holl helynt F1 ar y BBC a Sky, dwi wedi rhoi fewn o'r diwedd. Rhaid blogio am y peth. Caiff Bill a Ben 'twitcho' am ychydig yn hyrach.
Dwi wedi dilyn Fformiwla 1 ar y BBC (ac am gyfnod byr ar ITV) ers dwi'n gallu cofio. Yn grwt bach yn yr 80'au cynnar, dwi'n dal yn gallu cofio eistedd ar y soffa efo Dad yn gwylio F1 ar ddydd Sul.
Ac felly y bu am flynyddoedd, roedd F1 - camp sy' allan o gyrraedd cymaint ohonoch chi (mi allen ni fod yn dda yn F1 petawn i'n cael y cyfle) - ar gael am ddim (onibai am gost y drwydded deledu) i ni i gyd.
Ond nawr, bobol bach, mae'r hen Bernie Ecclestone wedi mwydro ac ymyraeth eto, ac wedi dad-wneud ei waith da i gyd. Ar ol iddo fod yn rhyw fath o 'bencampwr' dros y blynyddoedd i sicrhau fod F1 ar gael am ddim i'w wylio, mae e wedi gwneud ei 'u-turn'. Flwyddyn nesa, hanner y rasus fydd am ddim, ond y cwbl i'w weld ar Sky Sports. Dyna i chi rhyw £300 extra bob blwyddyn i wylio tymor gyfan o F1.
Ond, nid yw'r BBC yn ddi-fai chwaith. Nhw sydd wedi agor y drws i Sky yn ol y son. Ac mi fydd hyn wrth gwrs yn agor y drws dros y blynyddoedd nesa i Sky gymryd y peth yn gyfangwbl. So long 'free to view' F1 bydd hi dwi'n ofni.
Mi all y BBC fod wedi trafod gyda ITV, C4, neu C5. Ond na, efo Sky a Mr Murdoch aeth y bib.
Mae nifer o flogiau wedi bod - gan un o reolwyr y BBC ac un o gyflwynwyr F1. Mae'r ymatebion wedi bod yn niferus a dweud y lleia'. Cawn weld os yw'r BBC yn gwrando ar eu gwylwyr. Neu tybed a wnawn nhw 'gau lawr' adran sylwadau y ddau flog tybeg (mae nhw wedi cau un ohonynt lawr yn barod).
Mae'r BBC wedi gwneud smonach stratasfferic o'r cytundeb F1 yma - a hynny ar ol creu darllediadau mor dda nes fod pobl o wledydd eraill yn gwylio F1 ar y BBC yn hytrach na'i wylio ar eu sianeli eu hun. Eu dadl yw fod angen arbed arian. Ac i'r bib mae'n llawer haws cael gwared a F1 trwy'r drws cefn (a ff*cio'r peth lan i gyd i unrhyw un o'r sianeli eraill a all fod a diddordeb mewn darlledu camp o'r fath am ddim i'r werin bobl) yn hytrach na torri cyflog Jonathan Ross, neu lleihau'r ffys sydd o gwmpas y darllediadau Loteri Cenedlaethol, neu creu gorsafoedd radio digidol er mwyn plesio mewnfudwyr.
Be fydd nesa - Pencampwriaeth y 6 Gwlad falle?
Ta beth, dwi ddim yn mynd i wario £30 ychwanegol bob mis i gael Sky Sports.
"That'll learn them"
No comments:
Post a Comment