Monday, 16 January 2012

Blwyddyn Newydd Dda (hwyr) i bawb o bobl y byd.


Wel, mae’n flwyddyn newydd arall, a blwyddyn a fydd gobeithio’n un golew, er gwaetha’r rhagolygon gwe-eang sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn 2012. Dwi’n gobeithio’n wir fod y ‘Mayans’ yn gwbl anghywir gyda’u syms gogyfer ag eleni.

Felly, sut ‘adolygiad’ a fu i 2011? Wel, mi ddaeth, ac mi aeth, ac estynnwyd ein teulu bach unwaith eto gyda dyfodiad Eurig bach – rhywbeth o lawenydd mawr i ni i gyd.

Sigwyd fi braidd yn sgil y cyhoeddiad fod y BBC wedi ‘gwerthu’ rhan o’u pecyn Fformiwla 1 i gwmni Sky. A minnau’n ffan mawr o F1, wedi ymhyfrydu yn y ffaith fod y Bib wedi sicrhau darllediadau byw o bob ras fel rhan o’u cytundeb efo Bernie bach Eccles-cake, fedrai ddim meddwl unrhywbeth oni bai fod y BBC wedi twyllo’r gynulleidfa drwy werthu rhan o’u pecyn darlledu i deledu Sky – ac wrth gwrs, bellach, er mwyn gwylio darllediadau Prydeinig o holl rasau F1 2012 mi fydd angen talu naill ai am becyn ‘HD’ Sky, neu danysgrifio i’w sianel ‘Sky F1’ newydd.

Rhaid dweud fy mod wedi pwdi braidd efo’r BBC a hefo Sky, ac wedi canslo’r tanysgrifiad i’r gwasanaeth lloeren – “that’ll learn them”.

Bellach, mi fyddai’n pwyntio fy nisgyl lloeren tuag at RTL er mwyn codi darllediadau HD gan wasanaeth F1 yr Almaen, a gwrando ar y sylwebaeth ar Radio 5. Cwbl am ddim, wrth gwrs, oni bai am gost ‘pit diwaelod’ trwydded deledu.

Fel rhywbeth i gymryd lle Sky+, dwi wedi prynu bocs ‘Freesat+ HD’. Hen ddigon o sianeli, a dwi’n gweld dim colled o gwbl ar sianeli Sky, oni bai wrth gwrs am Motors TV ac Eurosport, sydd yn sianeli lloeren rhad ac am ddim sy’ ond ar gael ar system lloeren Sky. Mi gai afael arnynt ar lein. S’dim angen i chi boeni.

Ac wedyn, a minnau wedi sortio rasio ceir am 2012, dyma lond berfa o newyddion drwg arall – er, ar hyn o bryd, s’neb yn gwybod pa mor ddrwg yw hwn. Mae prif noddwr y WRC – pencampwriaeth ralio’r byd – wedi mynd yn fethdalwyr (tybed a oedd ganddynt y cwrteisi i roi rhybudd i’w staff dwedwch, a tybed os taw cyfarwyddwyr twyllodrus, diegwyddor a barus oedd ar fai?), ac felly, a ninnau o fewn wythnos i gychwyn y ‘Monte’, tybed yn wir a fydd y rali’n mynd yn ei flaen. Dwi’n mawr obeithio y bydd e – mae’n gelfyddyd o gamp, a rali’r Monte Carlo yn un o’r digwyddiadau mwya’ rhamantus (os oes rali ‘rhamantus’ i gael) yng nghalendr y WRC.

Dwi’n gwybod bod nifer o bobl yn meddwl fod campau moduro fel hyn yn wastraff amser a ddim yn ffasiynol gelfyddydol, ond well gennai wylio ras neu rali gerbydau (yn fyw neu ar deledu) na gwylio paent ar gynfas sydd eisoes wedi sychu.

I ddod yn agosach at adre, y newyddion mawr lleol wrth gwrs ar gyfer eleni yw bod Tesco am ddod i werthu  Scottish Mineral Water (ymysg pethau eraill) i Fachynlleth ac i Aberystwyth.

Yn Aber, dan-din yn fy marn i yw’r dacteg. Gweud i ddachre bod rhaid taflu amryw o deuluoedd o’u cartrefi yn Ffordd Glyndŵr yn Aberystwyth (stryd fach sydd yn fy marn i bellach yn un o eiconau’r dre’), ac wrth gwrs, pawb yn erbyn y cynllun, a rhaglen WIWO ar y BBC yn amlygu’r stori i bawb.

Beth ddigwyddodd wedyn? Wel, bellach mae sôn fod M&S yn rhan o’r cynllun. O ystyried fod pobl ers blynyddoedd wedi dweud fod angen M&S ar Aberystwyth, tybed be ddigwyddith nesa’? Dwi’n gobeithio’n wir mae croesawi’r cynllun ond gwrthwynebu’r ‘eviction’ wna aelodau cyngor y dre. Daliwch yn gadarn i’ch egwyddorion plîs gynghorwyr. ‘On our terms, not on theirs’ if you please.

Ym Machynlleth, mae Tesco am ddod i hen safle mart y dre. Sut maen nhw’n bwriadu sortio’r gyffordd fydd angen rhwng eu maes parcio a’r ffordd fawr (gyferbyn a thafarn y Fforesters) dwi ddim yn gwybod. Bydd angen goleuadau traffig, neu, fel sy’n ffasiynol i Fachynlleth, cylchfan. Mwy o helynt nai’ werth e yn fy marn i. Mae Co-op, Tuffins, Spar a marchnad arbennig wythnosol eisoes ym Machynlleth. Mae Tesco’r Drenewydd ryw hanner awr i ffwrdd, ac os daw Tesco Aber, dim ond hanner awr i ffwrdd y buasai hwnnw. Gyda llaw, y suon ar led yw y buasai Tesco (neu’r datblygwr) yn cyfrannu’n hael tuag at ‘bont ar Ddyfi’ newydd.

M&S i Aber, pont newydd i Mach. Ddwedodd neb ‘bribe’ do fe? Naddo, siŵr iawn.

Os yw Tesco’n mynd i ddod i Mach, beth am estyn gwahoddiad i Sainsburys, Lidl, Aldi, Costco, Argos, Halfords, Morrisons ac Ann Summers hefyd. Os oes angen Tesco, siŵr iawn fod yr un angen am y lleill. Mae gwaith adeiladu’r draffordd ar eu cyfer rhwng Aber a Mach eisoes wedi cychwyn. Wele’r ‘8 lane super highway’ sydd ar hyn o bryd yn cael ei dorri/godi yng Nglandyfi. Bydd miloedd yn dod i Fachynlleth i siopa. Bydd angen cloc newydd ar y dre, ac yn sicr bellach, cylchfan arall.


Hysbys busnes sydyn – Llew Du Talybont ar ei newydd wedd. Da iawn chi Sion a Catrin. Mae’r lle’n edrych yn grêt – neis iawn gweld pobl (gymharol) ifanc, lleol, a Chymry Cymraeg yn cael y cyfle i gymryd lle o’r fath ymlaen. Pob llwyddiant i chi. Mi ydych chi’ch dau yn gredit i Glwb Ffermwyr Ifanc Talybont.

A sôn am brif fudiad ieuenctid Cymru, pwy welodd rhaglen ‘mentora’ Tudur Owen dros y gwyliau? Grêt i’r mudiad – cyhoeddusrwydd ac ati, a chriw brwdfrydig a talentog yn serennu - clwb Bro Ddyfi wrth gwrs yn enwog am eu llwyddiannau di ri cenedlaethol ym meysydd perfformio, a Sam o glwb Tregaron yn fyd-enwog (bron) efo’r adrodd digri. Pan glywais mai rhaglen o ‘fentora’ efo Tudur Owen oedd y cynhyrchiad, rhaid cyfadde’ mae siom a gefais o ystyried mae Tudur oedd yn mentora’r aelodau hynod lwyddiannus yma, ac nid y ffordd arall rownd. Er hynny, rhaglen digon difyr, a dwi’n siŵr fod yr aelodau (a Tudur gobeithio) wedi elwa o’r profiad.

Hefyd ar S4C, bu Fferm Ffactor yn ôl am gyfres arall yn 2011. Diddorol sylwi fod Daloni’n reit gadarn wrth ddweud wrth y rhai anffortunus hynny a oedd yn gadael y gystadleuaeth yn ystod y gyfres eu bod yn gwneud hynny “am byth”. Rhyfedd felly eu gweld i gyd yn ôl ar y rhaglen yn ystod y rownd derfynol yn mwynhau cinio gyda Daloni, yr Athro Wynne Jones, a’r llall (sy’ bellach yn feirniad???).

I aros hefo byd y teledu, pob llwyddiant i Densil o Bobl y Cwm. Mi fydd ganddo amser nawr i wneud rhywbeth efo’r RSC efallai, yn dilyn ei ymadawiad o Gwmderi. Neu, efallai mi all e ail-gydio yn y bartneriaeth efo ‘Cilla’ ei gyn-wraig sgrin ar gyfer rhifyn arbennig (feature length) o ‘Heini’ ar blaned plant?

Dyna ddigon. Setlwch lawr nawr.

No comments:

Post a Comment