Mae’n fore gwlyb a gwyntog heddi.
Gret – jyst y tywydd dwi moyn gweld ar
ddiwrnod mor arbennig a hwn.
Mae na ymdrech mawr ar waith i’n twyllo ni
fod ryw fflam olympaidd yn cael ei redeg (cerdded?) trwy bob cwr o’r wlad i ‘uno’
bob prydeinwr mewn un cor mewn gorfoledd.
Wnawn ni ddim son am y milltiroedd
sylweddol pan fydd y fflam yn cael ei gludo mewn car neu fws (canran sylweddol
o’r daith gyda llaw), ac mi wnai obeithio ar fy ngore y bydd y gwynt a’r glaw
yn llwyddo i ddiffodd y fflam.
Dyma beth yw gwastraff arian ac amser
llwyr. A bydd – mi fydd disgwyl i’n plant ni yng Nghyrmu chwifio baner jac yr
undeb pan ddaw’r fflam at ein cenedl ni.
Dwi’n gobeithio’n wir y bydd y buddsoddiad
mawr mewn, er engrhaifft, ‘velodrome’ o safon ryngwladol yn yr ‘Eastend’ yn
Llundain yn fuddiol i bobl Aberystwyth, ac wrth gwrs, y cwrt pel-fasged enfawr
sydd wedi ei godi yn yr ‘Eastend’ o werth mawr i bobl Machynlleth.
Heb os, mi fydd ein cymunedau gwledig yng
Nghymru yn gorfoleddu o wybod fod ‘ein gemau olympaidd ni’ ar fin cychwyn.
Rhaib bod Sebastian (cash) ‘Cow’ wedi bod i
weld Paul McKenna neu rhywun tebyg – mae e’n hollol siwr fod pobl o bob cwr o’r
wlad yn mynd i elwa o’r gemau yma.
Mi ai i holi i’r chamber of trade yn Llanon
os yw masnach wedi codi o 25%, 50% neu fwy, wedi i’r gemau ddod i ben.
Ac medde Dai Beckham neithiwr ar y Won Siow
– mor falch oedd e fod y gemau’n dod ‘adre’ i’r Eastend. Mae e’n mynd nol i
chware ffwtbol i America heddi – at ei ‘dim’ pel droed yno.
A Boris – wel, os oes un peth i edrych
ymlaen amdano gyda’r gemau yma – hwnnw yw cadw llygaid ar Boris. Mae’r ‘potensial’
o’i wylio fe yn mynd i leddfu lot ar y gwastraff.
Ta waeth – ‘the age of austerity’ meddai
gwleidyddion yng ngwlad Groeg ac yma ym Mhrydain.
Mae’r eironi o ddod a’r fflam o’r fan yna i’r
fan yma yn ormod i mi.
Nos da.
No comments:
Post a Comment