Monday, 19 November 2012

Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, a bobl y byd

Mae'n ddiwrnod trist iawn i gomediwyr, digrifwyr, ac i unrhywun sy'n mwynhau comedi Cymraeg. Mae'n bur debyg y bydd gan S4C ddim dewis ond canslo unrhyw ddarllediadau comig rhag ofn i rhywun gymryd 'offence'.

Gallwn ddweud hwyl fawr i gymeriadau ystradebol, jocs neu sefyllfaoedd sy'n cyfeirio at unrhyw wledydd eraill, neu sy'n rhoi 'nod' i wisgoedd traddodiadol, acenion ac ati. Mewn geiriau eraill, ta ta i hiwmor syml y werin, gan adael dim byd ond jocs i bobl Mensa er engrhaifft:

2 wyddonydd mewn cafe - a daw'r gweinydd i ofyn be ma nhw ise i yfed:
Gwyddonydd 1: "I'll have some 'H2O'  please"
Gwyddonydd 2: "I'll have some H2O too please"

(ok dyw e ddim yn gweithio yn ysgrifenedig)


Felly pam, fod hyn yn digwydd? Wel, mae (ymysg eraill) rhyw sbiwyr o'r CIA ac MI6 wedi darganfod ymgais gan 2 aelod o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Cothi, yn Sir Gar, i danseilio cenedl Tseina ac o bosib achosi rhyfel byd arall trwy berfformio deuawd doniol yn eisteddfod cenedlaethol mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Sut? Wel, gadewch i fi ddweud wrthoch chi be wnaeth y diawled - mi wisgodd y ddau lan mewn rhyw fath o ddehongliad o wisg draddodiadol, a honni eu bod yn rhedeg 'tec awe', gan ddefnyddio eu dwylo (yn hytrach na chyllill) i dorri nwdls.

Ofnadwy ynde?

Yn waeth na hynny, mi fuon nhw'n honni iddynt ymosod ar gwsmeriaid efo'r math o beth fuasech chi'n disgwyl gweld mewn cegin Tseineaidd am eu bod wedi cwyno am y bwyd. Be sy'n bod ar yr aelodau yma. Onid yw hi'n ddigon amlwg fod sefyllfa'r byd ddigon drwg fel y mae heb eu bod nhw'n neud pethe'n waeth?

Debyg iawn fod y sefyllfa ar y llwyfan wedi codi gwrychyn ambell un a oedd yn gwylio'r darllediad ar S4C, ac felly, dyma bron i 10 o gwynion ar Twitter (that'll teach them) a hyd yn oed galwad ffon i Taro'r Post (that'll send 'em down forever), a bygythiad o gwyn swyddogol ar ffurff llythr i S4C HQ (first class stamp a recorded delivery, siwr o fod).


Roedd deuawd doniol arall gan aelodau o Sir Fon lle bu 2 fachan, 1 ohonynt wedi gwisgo fel dynes, yn canu am gael priodi a chael plant. A'r gwr yn pallu 'rhoi' mwy o blant iddi, aeth hi at y dyn drws nesa, a chael babi ganddo fo. Mae'n debyg fod y babi'n un a chroen tywyll wedi ypsetio ambell un nad oedd yn gallu chwilio'r botwm 'channel up/channel down' ar y remote control.

Cofiwch bobl: DOES DIM BYD DONIOL AM GAEL PLENTYN GAN Y DYN DRWS NESA - s'dim ots beth yw lliw y dyn na'r plentyn. Ych a fi. Dyna i chi ddiawled am greu'r fath helynt.

Yn rhyfedd iawn, wnaeth neb gwyno am y ddeuawd doniol arall lle bu aelodau'n ceisio eu gorau i dynnu'r Swisdir i ryfel byd am y tro cynta'. Bu rheini'n gwisgo lan mewn dehongliad o ddillad traddodiadol y part 'na o'r byd (neu ife lederhosen oedden nhw? Plis pidwch ypseto'r Almaenwyr), gan stwffio teddy bear o fwch gafr lawr y 'ffrynt', a chanu can a oedd yn son am 'eu bilis bach meddal' a oedd ar adegau'n codi'n bilis mawr cadarn a chyhyrog. Yn bersonol, hwn oedd y gwaetha i mi. Rwy' bellach yn ystyried fod pawb o'r part na o'r byd yn cerdded rownd efo bwch gafr o'r enw 'Bili' yn eu dyngaris. Ac am hynna, rwy'n eu casau i gyd. A casau'r aelodau or' mudiad a wnaeth hyn yn amlwg i mi. Bron i mi ffonio Jeremy Kyle a dweud y gwir.

 Diolch byth na welodd y rhai hynny a gwynodd ar y we band eang  rhaglen 'X Factor Results' neithiwr - lle gwelwyd Alicia Keys yn perfformio ar y llwyfan, a criw o ddawnswyr wedi gwisgo fel ninjas yn gwneud karate chops o'i cwmpas. Dwi ddim yn credu i mi weld unrhywbeth mor hiliol ac ystradebol yn fy mywyd. Yr hen bitch fach a hi. ( Gweler y llun isod, neu fwy o luniau o hi a'r ninjas yma: http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-2234935/X-Factor-2012-Alicia-Keys-heats-Results-Show-curvacious-LBD.html )

Diolch byth na welodd y rhai hynny a gwynodd ar y we band eang rhaglen 'Harry & Paul' neithiwr - lle bu nhw'n actio eu fersiwn 1930au o 'The Kings Speech'. Ych a fi. Dwi'n teimlo mor frwnt ar ol meddwl am y peth dwi'n credu bo fi angen bath.

Ond o ddifri, beth yw'r gwahanieth rhwng 'Ting Tong from Tong Ting" ar Little Britain a "Ping" a "Pong" o ddeuawd doniol bois Clwb Dyffryn Cothi?

Dim - er, mi fuase rhai yn dweud mae gwneud joc ar bobl hiliol mae Little Britain. Dwi'n deall hynnu'n iawn (ac odw Cris, dwi yn deall yr hiwmor), ond gallen i ddweud yr un peth am yr hyn welwyd ar lwyfan y deuawdau doniol.

Y pwynt yw, dwi'n nabod mwy o bobl oedd yn cwerthin am ben Ting Tong fel cymeriad, yn hytrach na chwerthin am pennau cymdeithas a'i agwedd at hiliaeth. Felly, rhydd i bawb wneud eu meddylie lan eu hunain. Yn bersonol, dwi'n gweld dim (dim byd o gwbl) yn hiliol am be welais i ar raglen yr eisteddfod. Rwy'n gweld stwff Ricky Gervais a Little Britain yn llawer agosach at fod yn hiliol - ond wrth gwrs, mae miloedd yn amddiffyn nhw - gan gynnwys rhai sy'n cwyno am y ddeuawd doniol.

Ta waeth, llongyfarchiadau i CFfI Cymru, cynhyrchiadau Rhondo a Telesgop, ac i S4C am raglen gret o'r eisteddfod. Pa fudiad arall fuasai'n gweld yr hwyl mewn cynnwys cystadleuaeth meim mewn eisteddfod.

Mi wnes i fwynhau'n fawr iawn. LLongyfarchiadau i chi gyd, ac i Ffederasiwn Ceredigion am ennill.

Llongyfarchiadau i'r holl aelodau fu'n cymryd rhan - yn enwedig chi fu'n actio a helpu gyda'r deuawdau doniol. Peidiwch a gadael i'r idiots rhoi stop ar eich sgiliau a'ch talent.

O.N.1

Dewch i ni wneud yn glir fod 2 elfen i'w trafod yma.

1: Penderfyniad S4C a BBC Radio Cymru i ddarlledu'r darnau.

2: Y math o hiwmor sy'n cael ei fwynhau gan filoedd o bobl trwy Gymru yn eisteddfodau sirol a chenedlaethol mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac hefyd y nifer enfawr o nosweithiau llawen sy'n cael eu cynnal gan y clybiau yn eu hardaloedd. Cofiwch mae'r aelodau sy'n sgwennu'r rhan fwyaf o'r darnau gwreiddiol, ac nid bobl broffesiynol sy'n cael eu talu. Mae'r ffaith fod miloedd o bobl yn mwynhau'r perfformiadau ac yn dychwelyd yn flynyddol i gefnogi'r aelodau a'r adloniant maent yn eu ddarparu yn dangos fod y perfformiadau a'r gynulleidfa yn siwtio eu gilydd. Os nad ydych chi'n ffan o hiwmor cefen gwlad, trowch y sianel. Dyma'r math o hiwmor sy'n dal ei dir - beirniadwch e os chi am, a dwi'n gallu gweld yn iawn fod yna fathau newydd o hiwmor wedi datblygu, ond dydi hynny ddim i ddweud nad yw'r hen hiwmor yn 'obsolete'.

weles i ddim un ymgais i ddwrdio, na sarhau o ddifri - dim ond ambell 'nod' i fobl o dras gwahanol ac wrth gwrs defnyddio rhyw gymaint o'r stereoteips sy'n bodoli, a hynny mewn ffordd reit ddiniwed.

Roedd deuawd doniol bois CFfI Dyffryn Cothi gyda un o'r rhai gore dwi wedi weld ers blynydde, lot o hwyl, chwerthin, ac yn amlwg, neb yn cymryd y peth gormod o ddifri - mwynhau, codi gwen, ac os yw embassy'r Tseineaid yn gweld unrhyw broblem gyda'r peth, mae pob croeso iddyn nhw gwyno.

Os oes bobl o dras Tseineaidd wedi gwylio'r eisteddfod (o'i gwirfodd), dwi'n siwr y buasan nhw yn ymwybodol o'r math o hiwmor a sgetsys oedd am ddod - digwydd bod mae deuawd doniol wedi ei seilio ar 2 gymeriad ffug o Tseina oedd hwn.

Beth pe bai pwnc y deuawd doniol wedi ei seilio ar bobl o Gymru yn gwerthu cawl? Neu bobl o'r Alban mewn kilts yn gwerthu Mars Bar Fritters o siop sglodion? Neu Gwyddelod byr mewn gwallt coch a top hats gwyrdd yn gwerthu Guinness?

Rhowch y peth mewn pyspectif. Mwynhewch yr hiwmor, ac os na fedrwch wneud hynnu, trowch y sianel, neu ewch allan i achub y byd.


 O.N.2


Mae sawl un wedi talu teyrnged heddiw i John Hefin a fu farw heddiw. Nifer o'r rhai hynny'n son am y ffilm Grand Slam fel un o'r darnau o waith enwoca' iddo wneud.

Efo'i 'caricatures' (ond heb fod yn ystradebol, hiliol etc etc) o gymeriadau, mae'n dal i fod yn ffilm gret i fwynhau efo peint o chwerw (nid hanner o lager drud mewn gwydr posh).

Hoff foment o'r ffilm = Glyn (Dewi Pws) yn codi 2 fys a chwythu sws ar Maldwyn o'r hers.
Hoff lein o'r ffilm = Maldwyn (Sion Probert):"I'm here, I'm there, I'm everywhere - so beware"

Diolch John Hefin am y ffilm.








No comments:

Post a Comment