Mae 'na rai pethau sy'n mynd o dan fy nghroen i braidd. Ar hyn o bryd, rhaid dweud mai'r ymgyrch 'ie' dros Gymru sy'n darged.
Wel, nid yr ymgyrch, ond rhai o'r ymgyrchwyr.
Ydych chi'n gyfarwydd â'r dywediad mae rhai pobl yn dweud – am gapelwyr ac eglwyswyr sy'n mynychu'r capel neu eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynychu? Wel, mae 'na ambell i ymgyrchydd 'ie' dros Gymru sy'n gwneud yn union yr un peth – mae nhw'n gweld yr ymgyrch a'r ymgyrchu fel cyfle PR iddyn nhw eu hunain, ac yn defnyddio digwyddiadau 'ie' fel cyfle i 'safleoli'u hunen fel pwysigion cymdeithas, ac fel hoelion wyth y genedl.
Falle wir eu bod nhw am weld pleidlais 'ie' yn ennill y dydd ar ddiwrnod y bleidlais fawr, ond does gennai ddim amheuaeth fod rhai o'r rhai hynny sy'n ymgyrchu yn cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn cael eu gweld, er lles eu hunen.
Ac yn naturiol, pan ddaw canlyniad 'ie' dros Gymru, mi fyddant yn cerdded rownd fel ceiliogod yn llongyfarch eu hunen am fod yn rhan o fenter llwyddiannus, ac yn twyllo'u hunen fod eu cyfraniad nhw dros Gymru'n amhrisiadwy, ac yn disgwyl cael sedd ar bwyllgorau uchel-ail ac ati.
Mae'n biti am y bobl 'ma, achos mae nhw'n gwneud mwy o niwed i'r ymgyrch 'ie' ymysg y werin bobl. Dydi'r werin dlawd ddim yn ryw ffans mawr o'r math yma o bobl – y math sy'n mynd i'r capel a'r eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynd i'r capel a'r eglwys.
Digon posib fod yna rai tebyg yn rhan o'r ymgyrch 'na', ond dwi ddim yn cymryd lot o sylw ohonyn nhw am nawr.
Ac i'r rhai hynny sy'n ymgyrchu o'u calonnau – golew chi wir (ac mi ydych chi'n gwybod yn union am be dwi'n sôn).
No comments:
Post a Comment