Blog byr – dim amser am un hir…
Dwi wedi cael llond bol o’r busnes refferendwm yma. Mae’r dadlau ymysg y ddau ‘wersyll’ wedi troi i fod yn reit blentynaidd (o’r ddwy ochr), a gwaeth fyth, fel y soniais yn fy mlog dwetha’, mae rhai (yn enwedig ar yr ochr ‘ie’) yn defnyddio’r ymgyrchu fel cyfle i godi proffil personol, yn hytrach na codi proffil y genedl.
Mi fuais mewn cyfarfod ‘yes’ ym Machynlleth wythnos diwethaf, ac er fod yna gyfleusterau cyfieithu ar y pryd arbennig ar gyfer y rhai hynny yn y gynulleidfa oedd eu angen, roedd y rhan helaeth o areithiau’r 4 a oedd ar y panel yn y Saesneg.
Ond – yr eironi fwya oedd mae’r un a siaradodd dim Cymraeg o gwbl (David Senior) oedd yr un a siaradodd fwya’ call. Efe wnaeth yr impact fwya’ yn fy marn i, a dim un ymgais i ‘bafflo’r’ gynulleidfa efo termau technegol, a dim ailadrodd engrheifftiau o pa mor galed oedd gwaith gwelidyddwr, yn wahanol i un neu ddau o’r lleill. (Gyda llaw, os oes gwleidyddion sy’n hoffi mynd ymlaen ac ymlaen am ba mor galed mae nhw’n gweithio yn darllen hwn – plis – newidiwch y record. Chi’n cael eich talu’n ddigon blydi hael am wneud y job, heb son am y ‘perks’ ‘da chi’n eu cael).
Ta waeth – awgrym – beth am i’r ymgyrch ‘ie’ a’r ymgyrch ‘na’ ddod at eu gilydd jyst i weud wrth pobl fod rhywbeth yn digwydd ar y 3ydd o Fawrth. Falle fuase hynny’n syniad.
Dwi hefyd wedi darllen datganiad i’r wasg gan S4C ryw dridie yn ôl. Debyg iawn fod S4C yn rhedeg rhaglen arbennig i ddathlu priodas ‘brenhinol’ saesnigaedd.
No comments:
Post a Comment