Wel mae sbelen golew di bod ers i fi roi rhoi bysedd ar y botymau a sgwennu blog arall.
A chware teg, mae amryw o bobl wedi bod yn gofyn be sy’ wedi digwydd i’r blog ‘ma, ond, mae’r misoedd dwetha wedi bod braidd yn ddi-flas a dweud y gwir.
Mi ddaeth y ‘Dolig, ac roedd atsain ‘ho ho ho’ i’w glywed yn glir, ond nid llais ‘Brian Blessed’-aidd Sion Corn oedd yn chwerthin, ond rhyw lais ‘Nick Cotton’-aidd o grombil tân yr odyn a glywais i’n goglais yn slei.
“Rhod” a “Rhwyd”, fel dywedodd ryw fardd gwlad.*
Ta waeth, fel dywedais, mi ddaeth, ac mi aeth y Nadolig, a chware teg, mi oedd y plant wrth eu boddau gyda’u tangerine, llond dwrn o gnau, ‘top-school’ wedi’i neud o bren, a model o Spitfire (un o rai Supermarine, nid yr un gan Triumph).
Er mwyn arbed y ceiniogau, penderfynais ddweud wrth y plant mae 1942 oedd hi, a bod Jerry yn dal i fygwth, a’r rations yn rheoli. Cwblhawyd yr effaith drwy droi’r lliw reit i lawr ar y teledu, a gwylio’r ‘history channel’ a’r ‘military channel’ drwy’r dydd (gan ddweud mae rhaglenni dogfen cyfoes oeddynt), cyn mentro i’r Anderson Shelter (y sied ar waelod yr ardd) ar ôl cinio wedi i larwm car ar y stryd godi sŵn (bron iawn i mi ‘Balu dros Brydain’ yn yr ardd hefyd, ond roedd hi’n rhy oer – mae’n gwd job na blannais bylbs cenin pedr newydd cyn y ‘Dolig. Mi fuasai’r tywydd rhew wedi eu lladd cyn mis Mawrth mae’n siwr).
Ni swniodd yr un larwm car arall wedyn am 3 awr i roi’r all clear i ni, ac felly bum i, fy ngwraig, y plant, a’m rhieni a’m chwaer yn crynu’n oer yno tan 5 o’r gloch y p’nawn yn ceisio trwsio’r strimmer.
Roedd hi’n neis iawn cael treulio amser gyda’r teulu dros yr wyl, ac arbed y gost o brynu strimmer newydd.
Dwi’n falch dweud fod dyddiau cynnar 2011 yn edrych lot gwell na 2010 yn ei gyfanrwydd yn barod, a braf iawn yw cael unwaith eto ennill ceiniog fach neu ddwy – a hynny yn gweithio i bobl egwyddorol a diffuant.
Mae’r pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau am nawr, ac er nad yw’r pennod diweddar yna wedi’i gloi yn hollol eto, mae yna bennod newydd wedi cychwyn – heb os nac oni bai.
Falle’n wir daw blog ‘dda’ yma cyn hir. Amynedd, gyfeillion.
Hwyl am y tro.
* Ni wn be’ ddaw yfory,
Ar lethrau’r bryn neu ar y bae,
Ond gwn fod pob un rhod yn troi
A phob un rhwyd yn cau.
No comments:
Post a Comment