Wednesday, 30 March 2011

"Ddoe am ddeg"

Mi wnes i 'sky+'io hwn. Newydd ei wylio.

Ym....

Friday, 18 March 2011

Diwrnod y trwynau coch...

Mae'n ddiwrnod y trwynau coch. Lot o 'selebs' wedi bod wrthi'n brysur yn creu ffilmiau wirioneddol deimladwy o wledydd pell, a lot o selebs wedi bod wrthi'n gwneud pethau dwl a difyr o bob math i godi arian.

Cymrwch Chris Moyles a Dave Vitty o BBC Radio 1. Wedi bod wrthi am ryw 50 solid awr yn darlledu'n fyw a torri record byd. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.

Wedyn, criw o selebs amrywiol wedi cerdded 100km ar draws diffeithwch sych.  Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.

Cyflwynydd o Blue Peter wedi cerdded ar wifren rhwng 2 simne Battersey. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn (neu digon agos).

Yma yng Nghymru, bu Alun - seleb honedig ac un hanner o John ac Alun - yn waxio ei goesau ar y radio.

Deinamic. Bois bach, deinamic.

Ffoniwch 03457 910 910 neu cliciwch y ddolen i gyfrannu at ddiwrnod y trwynau coch.

Friday, 4 March 2011

Wel y ie ie, 'na fe.

Dwi newydd fod ar daith trwy goridorau twitter a facebook am 5 o'r gloch heno 'ma.

Be ddiawl sy wedi dod dros pobl? Ydy'r tim cenedlaethol wedi ennill y gamp lawn? Ydy V.E. day arnom eto? Yw clawdd Offa wedi troi'n gamlas a hwnnw'n lledu wrth y funud?

Dwi'n ddigon balch fod y canlyniad 'ie' wedi ennill y dydd, ond, o ddifri, oedd unrhyw amheuaeth gan unrhywun y byddai'r ganlyniad yn unrhywbeth ond 'ie'? Beth yw'r ystadegau - tua 2:1 ife? Digon iach ddwedwn i. O ran 'turnout', wel, mater arall yw hwnna, ac os rhywbeth, mi fuaswn i'n dweud nad yw 'turnout' o llai 'na 35% yn haeddu ryw ormod o ddathlu a dweud y gwir.

Ta waeth, mae'r canlyniad yn gam ymlaen i'r cynulliad. Gobeithio.

Reit, dwi off nawr i Spar i moyn 6 botel o 'pomagne'. Wedyn, ar ôl cael cael hyd i hen got a cap FWA falle a'i allan ar orymdaith wedyn yn saethu shotgun fy nhad yng nghyfraith allan o sunroof y pick-up tra'i fod e'n gyrru rownd a rownd strydoedd Machynlleth yn canu'r corn, efo hymdinger o ddraig goch yn chwifio allan o'r cefn.

Dewch a hi 'mlaen (bring it on).

If you can't beat em, join em...

Llongyfarchiadau i Gymru.

Sunday, 27 February 2011

Pleidleisiwch "Yes" dros Gymru


Blog byr – dim amser am un hir…

Dwi wedi cael llond bol o’r busnes refferendwm yma. Mae’r dadlau ymysg y ddau ‘wersyll’ wedi troi i fod yn reit blentynaidd (o’r ddwy ochr), a gwaeth fyth, fel y soniais yn fy mlog dwetha’, mae rhai (yn enwedig ar yr ochr ‘ie’) yn defnyddio’r ymgyrchu fel cyfle i godi proffil personol, yn hytrach na codi proffil y genedl.

Mi fuais mewn cyfarfod ‘yes’ ym Machynlleth wythnos diwethaf, ac er fod yna gyfleusterau cyfieithu ar y pryd arbennig ar gyfer y rhai hynny yn y gynulleidfa oedd eu angen, roedd y rhan helaeth o areithiau’r 4 a oedd ar y panel yn y Saesneg.

Ond – yr eironi fwya oedd mae’r un a siaradodd dim Cymraeg o gwbl (David Senior) oedd yr un a siaradodd fwya’ call. Efe wnaeth yr impact fwya’ yn fy marn i, a dim un ymgais i ‘bafflo’r’ gynulleidfa efo termau technegol, a dim ailadrodd engrheifftiau o pa mor galed oedd gwaith gwelidyddwr, yn wahanol i un neu ddau o’r lleill. (Gyda llaw, os oes gwleidyddion sy’n hoffi mynd ymlaen ac ymlaen am ba mor galed mae nhw’n gweithio yn darllen hwn – plis – newidiwch y record. Chi’n cael eich talu’n ddigon blydi hael am wneud y job, heb son am y ‘perks’ ‘da chi’n eu cael).

Ta waeth – awgrym – beth am i’r ymgyrch ‘ie’ a’r ymgyrch ‘na’ ddod at eu gilydd jyst i weud wrth pobl fod rhywbeth yn digwydd ar y 3ydd o Fawrth.  Falle fuase hynny’n syniad.

Dwi hefyd wedi darllen datganiad i’r wasg gan S4C ryw dridie yn ôl. Debyg iawn fod S4C yn rhedeg rhaglen arbennig i ddathlu priodas ‘brenhinol’ saesnigaedd.

“Yes” dros Gymru myn uffarn i.

Saturday, 12 February 2011

Ceiliogod Cymru

Mae 'na rai pethau sy'n mynd o dan fy nghroen i braidd. Ar hyn o bryd, rhaid dweud mai'r ymgyrch 'ie' dros Gymru sy'n darged.

Wel, nid yr ymgyrch, ond rhai o'r ymgyrchwyr.

Ydych chi'n gyfarwydd â'r dywediad mae rhai pobl yn dweud – am gapelwyr ac eglwyswyr sy'n mynychu'r capel neu eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynychu? Wel, mae 'na ambell  i ymgyrchydd 'ie' dros Gymru sy'n gwneud yn union yr un peth – mae nhw'n gweld yr ymgyrch a'r ymgyrchu fel cyfle PR iddyn nhw eu hunain, ac yn defnyddio digwyddiadau 'ie' fel cyfle i 'safleoli'u hunen fel pwysigion cymdeithas, ac fel hoelion wyth y genedl.

Falle wir eu bod nhw am weld pleidlais 'ie' yn ennill y dydd ar ddiwrnod y bleidlais fawr, ond does gennai ddim amheuaeth fod rhai o'r rhai hynny sy'n ymgyrchu yn cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn cael eu gweld, er lles eu hunen.

Ac yn naturiol, pan ddaw canlyniad 'ie' dros Gymru, mi fyddant yn cerdded rownd fel ceiliogod yn llongyfarch eu hunen am fod yn rhan o fenter llwyddiannus, ac yn twyllo'u hunen fod eu cyfraniad nhw dros Gymru'n amhrisiadwy, ac yn disgwyl cael sedd ar bwyllgorau uchel-ail ac ati.

Mae'n biti am y bobl 'ma, achos mae nhw'n gwneud mwy o niwed i'r ymgyrch 'ie' ymysg y werin bobl. Dydi'r werin dlawd ddim yn ryw ffans mawr o'r math yma o bobl – y math sy'n mynd i'r capel a'r eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynd i'r capel a'r eglwys.

Digon posib fod yna rai tebyg yn rhan o'r ymgyrch 'na', ond dwi ddim yn cymryd lot o sylw ohonyn nhw am nawr.

Ac i'r rhai hynny sy'n ymgyrchu o'u calonnau – golew chi wir (ac mi ydych chi'n gwybod yn union am be dwi'n sôn).

Monday, 7 February 2011

'Nol ar y cledrau.

Wel mae sbelen golew di bod ers i fi roi rhoi bysedd ar y botymau a sgwennu blog arall.

A chware teg, mae amryw o bobl wedi bod yn gofyn be sy’ wedi digwydd i’r blog ‘ma, ond, mae’r misoedd dwetha wedi bod braidd yn ddi-flas a dweud y gwir.

Mi ddaeth y ‘Dolig, ac roedd atsain ‘ho ho ho’ i’w glywed yn glir, ond nid llais ‘Brian Blessed’-aidd Sion Corn oedd yn chwerthin, ond rhyw lais ‘Nick Cotton’-aidd o grombil tân yr odyn a glywais i’n goglais yn slei.

“Rhod” a “Rhwyd”, fel dywedodd ryw fardd gwlad.*

Ta waeth, fel dywedais, mi ddaeth, ac mi aeth y Nadolig, a chware teg, mi oedd y plant wrth eu boddau gyda’u tangerine, llond dwrn o gnau, ‘top-school’ wedi’i neud o bren, a model o Spitfire (un o rai Supermarine, nid yr un gan Triumph).

Er mwyn arbed y ceiniogau, penderfynais ddweud wrth y plant mae 1942 oedd hi, a bod Jerry yn dal i fygwth, a’r rations yn rheoli. Cwblhawyd yr effaith drwy droi’r lliw reit i lawr ar y teledu, a gwylio’r ‘history channel’ a’r ‘military channel’ drwy’r dydd (gan ddweud mae rhaglenni dogfen cyfoes oeddynt), cyn mentro i’r Anderson Shelter (y sied ar waelod yr ardd) ar ôl cinio wedi i larwm car ar y stryd godi sŵn (bron iawn i mi ‘Balu dros Brydain’ yn yr ardd hefyd, ond roedd hi’n rhy oer – mae’n gwd job na blannais bylbs cenin pedr newydd cyn y ‘Dolig. Mi fuasai’r tywydd rhew wedi eu lladd cyn mis Mawrth mae’n siwr).

Ni swniodd yr un larwm car arall wedyn am 3 awr i roi’r all clear i ni, ac felly bum i, fy ngwraig, y plant, a’m rhieni a’m chwaer yn crynu’n oer yno tan 5 o’r gloch y p’nawn yn ceisio trwsio’r strimmer.

Roedd hi’n neis iawn cael treulio amser gyda’r teulu dros yr wyl, ac arbed y gost o brynu strimmer newydd.

Dwi’n falch dweud fod dyddiau cynnar 2011 yn edrych lot gwell na 2010 yn ei gyfanrwydd yn barod, a braf iawn yw cael unwaith eto ennill ceiniog fach neu ddwy – a hynny yn gweithio i bobl egwyddorol a diffuant.

Mae’r pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau am nawr, ac er nad yw’r pennod diweddar yna wedi’i gloi yn hollol eto, mae yna bennod newydd wedi cychwyn – heb os nac oni bai.

Falle’n wir daw blog ‘dda’ yma cyn hir. Amynedd, gyfeillion.

Hwyl am y tro.



*   Ni wn be’ ddaw yfory,
Ar lethrau’r bryn neu ar y bae,
Ond gwn fod pob un rhod yn troi
A phob un rhwyd yn cau.

Sunday, 9 January 2011

Blwyddyn Newydd Dda - dwi dal 'ma...

Croeso cynnes yn ol i chi o'r gwyliau.

Gobeithio y cawsoch amser da, heb ormod o anhwylder ar ol y bwyta!

Mae rhai wedi son wrthai fod y blog 'ma wedi tawelu - ac i fod yn onest, dwi heb fod yn blogio nac ychwaith ar yr hen gyfrifiadur yma ryw lawer ers dydd 'Dolig.

Yn wahanol i rai, mi lwyddais i gael help telesgop i gael gweld ymhell ar ambell noson glir, a chael ail-wynt arno, a hynny cyn i'r BBC redeg y 3 rhaglen fyw arbennig yno gyda'r digrifwr moel o'r Iwerddon a'r Proffesor sy'n gwenu'n barhaol (Stargazing Live).

Mae'n dal i'm rhyfeddu gymaint dwi'n gallu gweld sy'n digwydd mor bell i ffwrdd, a hynny mor glir.

Felly, gyda hynny o eiriau (i'ch atgoffa fy mod yn dal yma, ac yn gweld yn bellach nac erioed), gai ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi, gyda'r addewid o ambell blog arall yn 2011.

Peidiwch a poeni - mi fydd blog dda fan hyn cyn hir.

Byddwch yn amyneddgar.