Cyn cychwyn, rhaid i mi ddweud un peth – does gennai ddim byd ond edmygedd ar gyfer doctoriaid, nyrsys, porthorion a gweithwyr y wardiau yn ysbyty Bronglais.
Yn fy marn i, mae’r broblem efo’r ‘management’ (there’s a lot of it going around, you know…).
Does neb lawer wedi bod yn hwylus yn tŷ ni ers rhai wythnosau. Rwyf fi ar gwrs go gryf o antibiotics ar ôl ryw infection ar fy ysgyfaint. Mae’r mab sy’n flwydd oedd wedi peswch gymaint nes bod e ddim yn rhyw siŵr iawn be sy’n digwydd, a’r ferch fach, sy’n 5 mlwydd oed wedi bod yn reit anhwylus hefyd.
Neithiwr, daeth hi adre o’r ysgol yn gynnar yn y pnawn. Yn welw ac yn llwyd, dim hwyl, a waeth fyth – heb y sbarc fach anhygoel o nonsens a direidi sy’ mor gyfarwydd â hi.
Na, doedd Gwenllian ddim yn sbesial neithiwr.
Ar ôl dod o hyd i’r thermomedr bach daeth sawl sioc fach arall.
39.3
39.7
40.0
ac wedyn – 40.6.
Bobl bach. Dim amser i ffonio’r Shrop-Doc (sy’n gwasanaethu ni yma ym Machynlleth). Syth lawr felly i Bronglais er mwyn iddi hi gael y gofal anghenrheidiol.
Syth at y ddesg: “Hello there”, ddwedodd y ferch tu ôl y ddesg, “I’ll be with you in a minute”. Na fe te, meddyliais, gan gydio’n dynn yn Gwenllian – hithe fel y galchen ac yn llipa ac yn beichio crio.
O’r diwedd, gorffennodd y wraig ei gwaith papur NHS pwysig a gofyn beth oedd y broblem.
“She’s over 40 degrees. She’s ill. She needs to see a doctor as soon as you can please” atebais, yn ddigon synhwyrol.
“Take a seat, I’ll see if there’s a GP available”, atebodd yntau.
Nawr, dim ond 7 o bobl eraill oedd yn eistedd yn yr ystafell aros yn edrych ymlaen am ‘wasanaeth’. Dim lot o waith aros felly, meddyliais. Eisteddom i lawr yno, gan aros ein tro. Edrychais ar y cloc, roedd hi’n 7:35pm.
O ben arall yr ystafell roedd hen wraig mewn cadair olwyn. “Gwnewch eich hunan yn gyfforddus”, dyweddodd – “Dwi ‘ma ers cwarter i bump. Daeth ambiwlans a fi ‘ma, mae gennai infection trwy’r corff, dwi angen y ‘fluids’ yn y fraich, dwi ddim di cael dim help eto onibai am bois yr ambiwlans a ddaeth a fi ‘ma, a ‘ma nhw wedi mynd nawr.”
Edrychais yn synn arni. Ac yn wir, roedd y rhan helaeth o bobl yna yn ‘casualty’ Bronglais wedi bod yno dros 2 awr, a neb eto wedi gallu eu gweld nhw.
Dyn pryd sylweddolais ar yr ambiwlans a’i injan yn rhedeg y tu fas i’r drws.
“Ma’r ambiwlans wedi bod na ers dros awr, mae’r patient dal fewn ‘na, heb ddod mas eto”, cynnigiodd yr un hen wraig. “Sdim unman i’r patient fynd ch’wel.”
A dyna pryd sylweddolais y rheswm tu ol yr oedi hir (ac i ysbyty Bronglais, mae aros unrhywbeth dros awr yn oedi hir iawn). Roedd y pob gwely yn yr adran ddamweiniau yn llawn – a pob un o’r cleifion yn aros am wely i ddod yn rhydd ar y wardiau. Dim gwaed, dim sgrechian mewn poen, dim dramas. Roeddynt i gyd wedi cael eu ‘admittio’ i’r ysbyty dros nos.
Ond heb le ar y wardiau i’w cymryd, doedd unman iddynt fynd. Ac heb wely sbar yn yr adran ddamweiniau, doedd dim posib i neb lawer a oedd yno’n aros gael eu gweld chwaith.
Penderfynais fynd i moyn paned o de i mi a’r wraig, a diod oer i’r un fach.
Problem rhif 2. Dim unman yn yr ysbyty’n agored i gael diod poeth neu oer, neu hyd yn oed bachdan. Ac maen siwr eich bod chi’n gwybod yn iawn pa mor fendithiol yw diod ar ol bod mewn ysbyty am hanner awr neu fwy (mae mor boeth yno – pam dwedwch?). Ond na, dim ond sugno’r gwlith o’r aer ar flaen tafod oedd modd gwneud.
Nawr, fel dwedes i’n gynharach, sgennai ddim problem gyda’r staff druan oedd yn gorfod gwynebu’r cleifion. Nid eu bai nhw yw’r sefyllfa, ond does bosib, ar ôl gwario miliynau yn creu 4 lle parcio ychwanegol ym Mronglais, na fydde’r arian wedi cael ei wario’n ddoethach ar welliannau neu estyniadau i’r wardiau, neu ar ‘back to basics management course’ ar gyfer y rheolwyr holl-alluog?
Ac wrth feddwl am hyn, ac wrth edrych ar y 37” flat screen yn yr adran ddamweiniau a oedd yn hybsyebu ‘Hair by Helen’, ‘Paradise log cabins’, a ‘Have you been treated unfairly by your employer?’, o’r diwedd, galwyd enw Gwenllian am 8:15 gan ryw ddoctor hyfryd o’r Iseldiroedd a oedd neithiwr yn rhoi blas Ewropeaidd i’r tim rhyngwladol yn yr ysbyty. Mi edrychodd drosti'n fanwl, ac roedd yn cyfaddef ei hun fod golwg ofnadwy arni, a bod rhyw feirws wedi cydio'n dynn ynddi hi. "There's a lot of it about" dywedodd.
Trwy lwc a bendith, roedd tymheredd y lodes fach wedi dod lawr, a’r doctor yn hapus i ni ddod adre, gyda botel o ‘Calpol’.
Drama drosodd i ni.
Roedd 6 o’r 7 a oedd yn aros yn gynharach yn dal i eistedd yn yr ystafell aros, ac wedi cael y newyddion y byddai 2 awr arall o aros o’i blaenau.
Dwi’n credu eu bod nhw erbyn hynny wedi ffurfio undeb ac yn bwriadu mynd ar streic.
Mae Gwenllian lot yn well heddiw. Ychydig o faldod, ‘haribo sour mix’, a’r garthen dros ei choesau ar y soffa, ac mi fydd hi’n well eto fory gobeithio.