Wednesday, 6 October 2010

Y Blog Cyntaf

Be' ddiawl dwi fod i sgwennu fan hyn gwedwch? Dwi dal ddim yn 'convinced' am y busnes blogio 'ma. Ond, mi wedodd rhywun wrthai y fydde jobs telifision yn dod fewn se'r cynhyrchwyr yn gweld bod gennai rhywbeth difyr i weud. Wel, sori i siomi chi, ond sai'n credu bydde hyd yn oed Wedi 3, Hacio, na 'Pysgota' a diddordeb yn be sy gyda fi i weud.

Yn waeth na hynny, er fy mod nawr yn llawn bwriadu postio blog yn rheolaidd, yn wythnosol neu'n amlach, y gwir yw y byddaf wedi anghofio am y blogio 'ma ymhen ryw awr.

Y rheswm am hyn yw ar hyn o bryd, pwy yffarn sy'n mynd i ddarllen hwn? S'neb yn gwybod bod blog yn bodoli gennai, ac os ai ar ol pobl, 'hasslo' nhw efo ebyst yn eu gwahodd i ddarllen fy mlog i, wel, ma hwnna bach yn despret yn dyw e?

Ond, (ac ma' hyn yn ond mawr), mae wastad posibilrwydd y byddai'n blogio rhywbeth sy'n 'ddweud mawr'. Efallai mi wnai dodi bys bawd fy nhroed i gawl cawl y gwleidyddion (e.e. Alun Ffred a'r joli i Delhi), neu son am wastraffu arian trethdalwyr (e.e. miliynau gan y Cynlleied Cenedlaethol ar gyfer penwythnos golff i'r bois ar dir y biliwnydd yng Nghasnewydd), neu hyd yn oed mynegi barn am gau ysgolion bach ein ardaleoedd gwledig a lladd ar y cymunedau Cymreig naturiol prin sy'n bodoli.

Felly, ymhen ychydig linellau dwi'n credu fy mod wedi gosod sail fy mlog cyntaf (gan gymryd y bydd blog neu ddau arall yn y dyfofol). Blog i gwyno fydd hwn, heb os nac oni bai.

Felly, a minnau bellach yn barod am rhyw bwt bach o ginio, mi adawai chi gyda cwestiwn reit syml.

Beth sydd fwyaf gwerthfawr i Gymru - £40miliwn ar benwythnos fach o golff yng Nghasnewydd, neu £40miliwn i safio ambell ysgol fach Gymreig, neu i wella safon y gwasanaeth iechyd yn ein cenedl fach ni?

(Gallwch chi stwffio'ch 'clybs' lan eich '18th hole')

1 comment:

  1. Wastad yn dda cael blog arall Cymraeg i ychwanegu i'r rhestr. A felly dyma'r sylw cynta.. croeso!

    ReplyDelete