Mae'n ddiwrnod trist iawn i gomediwyr, digrifwyr, ac i unrhywun sy'n mwynhau comedi Cymraeg. Mae'n bur debyg y bydd gan S4C ddim dewis ond canslo unrhyw ddarllediadau comig rhag ofn i rhywun gymryd 'offence'.
Gallwn ddweud hwyl fawr i gymeriadau ystradebol, jocs neu sefyllfaoedd sy'n cyfeirio at unrhyw wledydd eraill, neu sy'n rhoi 'nod' i wisgoedd traddodiadol, acenion ac ati. Mewn geiriau eraill, ta ta i hiwmor syml y werin, gan adael dim byd ond jocs i bobl Mensa er engrhaifft:
2 wyddonydd mewn cafe - a daw'r gweinydd i ofyn be ma nhw ise i yfed:
Gwyddonydd 1: "I'll have some 'H2O' please"
Gwyddonydd 2: "I'll have some H2O too please"
(ok dyw e ddim yn gweithio yn ysgrifenedig)
Felly pam, fod hyn yn digwydd? Wel, mae (ymysg eraill) rhyw sbiwyr o'r CIA ac MI6 wedi darganfod ymgais gan 2 aelod o glwb ffermwyr ifanc Dyffryn Cothi, yn Sir Gar, i danseilio cenedl Tseina ac o bosib achosi rhyfel byd arall trwy berfformio deuawd doniol yn eisteddfod cenedlaethol mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Sut? Wel, gadewch i fi ddweud wrthoch chi be wnaeth y diawled - mi wisgodd y ddau lan mewn rhyw fath o ddehongliad o wisg draddodiadol, a honni eu bod yn rhedeg 'tec awe', gan ddefnyddio eu dwylo (yn hytrach na chyllill) i dorri nwdls.
Ofnadwy ynde?
Yn waeth na hynny, mi fuon nhw'n honni iddynt ymosod ar gwsmeriaid efo'r math o beth fuasech chi'n disgwyl gweld mewn cegin Tseineaidd am eu bod wedi cwyno am y bwyd. Be sy'n bod ar yr aelodau yma. Onid yw hi'n ddigon amlwg fod sefyllfa'r byd ddigon drwg fel y mae heb eu bod nhw'n neud pethe'n waeth?
Debyg iawn fod y sefyllfa ar y llwyfan wedi codi gwrychyn ambell un a oedd yn gwylio'r darllediad ar S4C, ac felly, dyma bron i 10 o gwynion ar Twitter (that'll teach them) a hyd yn oed galwad ffon i Taro'r Post (that'll send 'em down forever), a bygythiad o gwyn swyddogol ar ffurff llythr i S4C HQ (first class stamp a recorded delivery, siwr o fod).
Roedd deuawd doniol arall gan aelodau o Sir Fon lle bu 2 fachan, 1 ohonynt wedi gwisgo fel dynes, yn canu am gael priodi a chael plant. A'r gwr yn pallu 'rhoi' mwy o blant iddi, aeth hi at y dyn drws nesa, a chael babi ganddo fo. Mae'n debyg fod y babi'n un a chroen tywyll wedi ypsetio ambell un nad oedd yn gallu chwilio'r botwm 'channel up/channel down' ar y remote control.
Cofiwch bobl: DOES DIM BYD DONIOL AM GAEL PLENTYN GAN Y DYN DRWS NESA - s'dim ots beth yw lliw y dyn na'r plentyn. Ych a fi. Dyna i chi ddiawled am greu'r fath helynt.
Yn rhyfedd iawn, wnaeth neb gwyno am y ddeuawd doniol arall lle bu aelodau'n ceisio eu gorau i dynnu'r Swisdir i ryfel byd am y tro cynta'. Bu rheini'n gwisgo lan mewn dehongliad o ddillad traddodiadol y part 'na o'r byd (neu ife lederhosen oedden nhw? Plis pidwch ypseto'r Almaenwyr), gan stwffio teddy bear o fwch gafr lawr y 'ffrynt', a chanu can a oedd yn son am 'eu bilis bach meddal' a oedd ar adegau'n codi'n bilis mawr cadarn a chyhyrog. Yn bersonol, hwn oedd y gwaetha i mi. Rwy' bellach yn ystyried fod pawb o'r part na o'r byd yn cerdded rownd efo bwch gafr o'r enw 'Bili' yn eu dyngaris. Ac am hynna, rwy'n eu casau i gyd. A casau'r aelodau or' mudiad a wnaeth hyn yn amlwg i mi. Bron i mi ffonio Jeremy Kyle a dweud y gwir.
Diolch byth na welodd y rhai hynny a gwynodd ar y we band eang rhaglen 'X Factor Results' neithiwr - lle gwelwyd Alicia Keys yn perfformio ar y llwyfan, a criw o ddawnswyr wedi gwisgo fel ninjas yn gwneud karate chops o'i cwmpas. Dwi ddim yn credu i mi weld unrhywbeth mor hiliol ac ystradebol yn fy mywyd. Yr hen bitch fach a hi. ( Gweler y llun isod, neu fwy o luniau o hi a'r ninjas yma: http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-2234935/X-Factor-2012-Alicia-Keys-heats-Results-Show-curvacious-LBD.html )
Diolch byth na welodd y rhai hynny a gwynodd ar y we band eang rhaglen 'Harry & Paul' neithiwr - lle bu nhw'n actio eu fersiwn 1930au o 'The Kings Speech'. Ych a fi. Dwi'n teimlo mor frwnt ar ol meddwl am y peth dwi'n credu bo fi angen bath.
Ond o ddifri, beth yw'r gwahanieth rhwng 'Ting Tong from Tong Ting" ar Little Britain a "Ping" a "Pong" o ddeuawd doniol bois Clwb Dyffryn Cothi?
Dim - er, mi fuase rhai yn dweud mae gwneud joc ar bobl hiliol mae Little Britain. Dwi'n deall hynnu'n iawn (ac odw Cris, dwi yn deall yr hiwmor), ond gallen i ddweud yr un peth am yr hyn welwyd ar lwyfan y deuawdau doniol.
Y pwynt yw, dwi'n nabod mwy o bobl oedd yn cwerthin am ben Ting Tong fel cymeriad, yn hytrach na chwerthin am pennau cymdeithas a'i agwedd at hiliaeth. Felly, rhydd i bawb wneud eu meddylie lan eu hunain. Yn bersonol, dwi'n gweld dim (dim byd o gwbl) yn hiliol am be welais i ar raglen yr eisteddfod. Rwy'n gweld stwff Ricky Gervais a Little Britain yn llawer agosach at fod yn hiliol - ond wrth gwrs, mae miloedd yn amddiffyn nhw - gan gynnwys rhai sy'n cwyno am y ddeuawd doniol.
Ta waeth, llongyfarchiadau i CFfI Cymru, cynhyrchiadau Rhondo a Telesgop, ac i S4C am raglen gret o'r eisteddfod. Pa fudiad arall fuasai'n gweld yr hwyl mewn cynnwys cystadleuaeth meim mewn eisteddfod.
Mi wnes i fwynhau'n fawr iawn. LLongyfarchiadau i chi gyd, ac i Ffederasiwn Ceredigion am ennill.
Llongyfarchiadau i'r holl aelodau fu'n cymryd rhan - yn enwedig chi fu'n actio a helpu gyda'r deuawdau doniol. Peidiwch a gadael i'r idiots rhoi stop ar eich sgiliau a'ch talent.
O.N.1
Dewch i ni wneud yn glir fod 2 elfen i'w trafod yma.
1: Penderfyniad S4C a BBC Radio Cymru i ddarlledu'r darnau.
2: Y math o hiwmor sy'n cael ei fwynhau gan filoedd o bobl trwy Gymru yn eisteddfodau sirol a chenedlaethol mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac hefyd y nifer enfawr o nosweithiau llawen sy'n cael eu cynnal gan y clybiau yn eu hardaloedd. Cofiwch mae'r aelodau sy'n sgwennu'r rhan fwyaf o'r darnau gwreiddiol, ac nid bobl broffesiynol sy'n cael eu talu. Mae'r ffaith fod miloedd o bobl yn mwynhau'r perfformiadau ac yn dychwelyd yn flynyddol i gefnogi'r aelodau a'r adloniant maent yn eu ddarparu yn dangos fod y perfformiadau a'r gynulleidfa yn siwtio eu gilydd. Os nad ydych chi'n ffan o hiwmor cefen gwlad, trowch y sianel. Dyma'r math o hiwmor sy'n dal ei dir - beirniadwch e os chi am, a dwi'n gallu gweld yn iawn fod yna fathau newydd o hiwmor wedi datblygu, ond dydi hynny ddim i ddweud nad yw'r hen hiwmor yn 'obsolete'.
weles i ddim un ymgais i ddwrdio, na sarhau o ddifri - dim ond ambell 'nod' i fobl o dras gwahanol ac wrth gwrs defnyddio rhyw gymaint o'r stereoteips sy'n bodoli, a hynny mewn ffordd reit ddiniwed.
Roedd deuawd doniol bois CFfI Dyffryn Cothi gyda un o'r rhai gore dwi wedi weld ers blynydde, lot o hwyl, chwerthin, ac yn amlwg, neb yn cymryd y peth gormod o ddifri - mwynhau, codi gwen, ac os yw embassy'r Tseineaid yn gweld unrhyw broblem gyda'r peth, mae pob croeso iddyn nhw gwyno.
Os oes bobl o dras Tseineaidd wedi gwylio'r eisteddfod (o'i gwirfodd), dwi'n siwr y buasan nhw yn ymwybodol o'r math o hiwmor a sgetsys oedd am ddod - digwydd bod mae deuawd doniol wedi ei seilio ar 2 gymeriad ffug o Tseina oedd hwn.
Beth pe bai pwnc y deuawd doniol wedi ei seilio ar bobl o Gymru yn gwerthu cawl? Neu bobl o'r Alban mewn kilts yn gwerthu Mars Bar Fritters o siop sglodion? Neu Gwyddelod byr mewn gwallt coch a top hats gwyrdd yn gwerthu Guinness?
Rhowch y peth mewn pyspectif. Mwynhewch yr hiwmor, ac os na fedrwch wneud hynnu, trowch y sianel, neu ewch allan i achub y byd.
O.N.2
Mae sawl un wedi talu teyrnged heddiw i John Hefin a fu farw heddiw. Nifer o'r rhai hynny'n son am y ffilm Grand Slam fel un o'r darnau o waith enwoca' iddo wneud.
Efo'i 'caricatures' (ond heb fod yn ystradebol, hiliol etc etc) o gymeriadau, mae'n dal i fod yn ffilm gret i fwynhau efo peint o chwerw (nid hanner o lager drud mewn gwydr posh).
Hoff foment o'r ffilm = Glyn (Dewi Pws) yn codi 2 fys a chwythu sws ar Maldwyn o'r hers.
Hoff lein o'r ffilm = Maldwyn (Sion Probert):"I'm here, I'm there, I'm everywhere - so beware"
Diolch John Hefin am y ffilm.
* Nid wyf yn barchedig, nac yn ddoctor, ond, yn mi ydwyf yn 'Rhydian Mason'.
Monday, 19 November 2012
Saturday, 19 May 2012
Cofio fflamau Glyndwr a'r bois.
Mae’n fore gwlyb a gwyntog heddi.
Gret – jyst y tywydd dwi moyn gweld ar
ddiwrnod mor arbennig a hwn.
Mae na ymdrech mawr ar waith i’n twyllo ni
fod ryw fflam olympaidd yn cael ei redeg (cerdded?) trwy bob cwr o’r wlad i ‘uno’
bob prydeinwr mewn un cor mewn gorfoledd.
Wnawn ni ddim son am y milltiroedd
sylweddol pan fydd y fflam yn cael ei gludo mewn car neu fws (canran sylweddol
o’r daith gyda llaw), ac mi wnai obeithio ar fy ngore y bydd y gwynt a’r glaw
yn llwyddo i ddiffodd y fflam.
Dyma beth yw gwastraff arian ac amser
llwyr. A bydd – mi fydd disgwyl i’n plant ni yng Nghyrmu chwifio baner jac yr
undeb pan ddaw’r fflam at ein cenedl ni.
Dwi’n gobeithio’n wir y bydd y buddsoddiad
mawr mewn, er engrhaifft, ‘velodrome’ o safon ryngwladol yn yr ‘Eastend’ yn
Llundain yn fuddiol i bobl Aberystwyth, ac wrth gwrs, y cwrt pel-fasged enfawr
sydd wedi ei godi yn yr ‘Eastend’ o werth mawr i bobl Machynlleth.
Heb os, mi fydd ein cymunedau gwledig yng
Nghymru yn gorfoleddu o wybod fod ‘ein gemau olympaidd ni’ ar fin cychwyn.
Rhaib bod Sebastian (cash) ‘Cow’ wedi bod i
weld Paul McKenna neu rhywun tebyg – mae e’n hollol siwr fod pobl o bob cwr o’r
wlad yn mynd i elwa o’r gemau yma.
Mi ai i holi i’r chamber of trade yn Llanon
os yw masnach wedi codi o 25%, 50% neu fwy, wedi i’r gemau ddod i ben.
Ac medde Dai Beckham neithiwr ar y Won Siow
– mor falch oedd e fod y gemau’n dod ‘adre’ i’r Eastend. Mae e’n mynd nol i
chware ffwtbol i America heddi – at ei ‘dim’ pel droed yno.
A Boris – wel, os oes un peth i edrych
ymlaen amdano gyda’r gemau yma – hwnnw yw cadw llygaid ar Boris. Mae’r ‘potensial’
o’i wylio fe yn mynd i leddfu lot ar y gwastraff.
Ta waeth – ‘the age of austerity’ meddai
gwleidyddion yng ngwlad Groeg ac yma ym Mhrydain.
Mae’r eironi o ddod a’r fflam o’r fan yna i’r
fan yma yn ormod i mi.
Nos da.
Monday, 16 January 2012
Blwyddyn Newydd Dda (hwyr) i bawb o bobl y byd.
Wel, mae’n flwyddyn newydd arall, a blwyddyn a fydd gobeithio’n un golew, er gwaetha’r rhagolygon gwe-eang sy’n gysylltiedig â’r flwyddyn 2012. Dwi’n gobeithio’n wir fod y ‘Mayans’ yn gwbl anghywir gyda’u syms gogyfer ag eleni.
Felly, sut ‘adolygiad’ a fu i 2011? Wel, mi ddaeth, ac mi aeth, ac estynnwyd ein teulu bach unwaith eto gyda dyfodiad Eurig bach – rhywbeth o lawenydd mawr i ni i gyd.
Sigwyd fi braidd yn sgil y cyhoeddiad fod y BBC wedi ‘gwerthu’ rhan o’u pecyn Fformiwla 1 i gwmni Sky. A minnau’n ffan mawr o F1, wedi ymhyfrydu yn y ffaith fod y Bib wedi sicrhau darllediadau byw o bob ras fel rhan o’u cytundeb efo Bernie bach Eccles-cake, fedrai ddim meddwl unrhywbeth oni bai fod y BBC wedi twyllo’r gynulleidfa drwy werthu rhan o’u pecyn darlledu i deledu Sky – ac wrth gwrs, bellach, er mwyn gwylio darllediadau Prydeinig o holl rasau F1 2012 mi fydd angen talu naill ai am becyn ‘HD’ Sky, neu danysgrifio i’w sianel ‘Sky F1’ newydd.
Rhaid dweud fy mod wedi pwdi braidd efo’r BBC a hefo Sky, ac wedi canslo’r tanysgrifiad i’r gwasanaeth lloeren – “that’ll learn them”.
Bellach, mi fyddai’n pwyntio fy nisgyl lloeren tuag at RTL er mwyn codi darllediadau HD gan wasanaeth F1 yr Almaen, a gwrando ar y sylwebaeth ar Radio 5. Cwbl am ddim, wrth gwrs, oni bai am gost ‘pit diwaelod’ trwydded deledu.
Fel rhywbeth i gymryd lle Sky+, dwi wedi prynu bocs ‘Freesat+ HD’. Hen ddigon o sianeli, a dwi’n gweld dim colled o gwbl ar sianeli Sky, oni bai wrth gwrs am Motors TV ac Eurosport, sydd yn sianeli lloeren rhad ac am ddim sy’ ond ar gael ar system lloeren Sky. Mi gai afael arnynt ar lein. S’dim angen i chi boeni.
Ac wedyn, a minnau wedi sortio rasio ceir am 2012, dyma lond berfa o newyddion drwg arall – er, ar hyn o bryd, s’neb yn gwybod pa mor ddrwg yw hwn. Mae prif noddwr y WRC – pencampwriaeth ralio’r byd – wedi mynd yn fethdalwyr (tybed a oedd ganddynt y cwrteisi i roi rhybudd i’w staff dwedwch, a tybed os taw cyfarwyddwyr twyllodrus, diegwyddor a barus oedd ar fai?), ac felly, a ninnau o fewn wythnos i gychwyn y ‘Monte’, tybed yn wir a fydd y rali’n mynd yn ei flaen. Dwi’n mawr obeithio y bydd e – mae’n gelfyddyd o gamp, a rali’r Monte Carlo yn un o’r digwyddiadau mwya’ rhamantus (os oes rali ‘rhamantus’ i gael) yng nghalendr y WRC.
Dwi’n gwybod bod nifer o bobl yn meddwl fod campau moduro fel hyn yn wastraff amser a ddim yn ffasiynol gelfyddydol, ond well gennai wylio ras neu rali gerbydau (yn fyw neu ar deledu) na gwylio paent ar gynfas sydd eisoes wedi sychu.
I ddod yn agosach at adre, y newyddion mawr lleol wrth gwrs ar gyfer eleni yw bod Tesco am ddod i werthu Scottish Mineral Water (ymysg pethau eraill) i Fachynlleth ac i Aberystwyth.
Yn Aber, dan-din yn fy marn i yw’r dacteg. Gweud i ddachre bod rhaid taflu amryw o deuluoedd o’u cartrefi yn Ffordd Glyndŵr yn Aberystwyth (stryd fach sydd yn fy marn i bellach yn un o eiconau’r dre’), ac wrth gwrs, pawb yn erbyn y cynllun, a rhaglen WIWO ar y BBC yn amlygu’r stori i bawb.
Beth ddigwyddodd wedyn? Wel, bellach mae sôn fod M&S yn rhan o’r cynllun. O ystyried fod pobl ers blynyddoedd wedi dweud fod angen M&S ar Aberystwyth, tybed be ddigwyddith nesa’? Dwi’n gobeithio’n wir mae croesawi’r cynllun ond gwrthwynebu’r ‘eviction’ wna aelodau cyngor y dre. Daliwch yn gadarn i’ch egwyddorion plîs gynghorwyr. ‘On our terms, not on theirs’ if you please.
Ym Machynlleth, mae Tesco am ddod i hen safle mart y dre. Sut maen nhw’n bwriadu sortio’r gyffordd fydd angen rhwng eu maes parcio a’r ffordd fawr (gyferbyn a thafarn y Fforesters) dwi ddim yn gwybod. Bydd angen goleuadau traffig, neu, fel sy’n ffasiynol i Fachynlleth, cylchfan. Mwy o helynt nai’ werth e yn fy marn i. Mae Co-op, Tuffins, Spar a marchnad arbennig wythnosol eisoes ym Machynlleth. Mae Tesco’r Drenewydd ryw hanner awr i ffwrdd, ac os daw Tesco Aber, dim ond hanner awr i ffwrdd y buasai hwnnw. Gyda llaw, y suon ar led yw y buasai Tesco (neu’r datblygwr) yn cyfrannu’n hael tuag at ‘bont ar Ddyfi’ newydd.
M&S i Aber, pont newydd i Mach. Ddwedodd neb ‘bribe’ do fe? Naddo, siŵr iawn.
Os yw Tesco’n mynd i ddod i Mach, beth am estyn gwahoddiad i Sainsburys, Lidl, Aldi, Costco, Argos, Halfords, Morrisons ac Ann Summers hefyd. Os oes angen Tesco, siŵr iawn fod yr un angen am y lleill. Mae gwaith adeiladu’r draffordd ar eu cyfer rhwng Aber a Mach eisoes wedi cychwyn. Wele’r ‘8 lane super highway’ sydd ar hyn o bryd yn cael ei dorri/godi yng Nglandyfi. Bydd miloedd yn dod i Fachynlleth i siopa. Bydd angen cloc newydd ar y dre, ac yn sicr bellach, cylchfan arall.
Hysbys busnes sydyn – Llew Du Talybont ar ei newydd wedd. Da iawn chi Sion a Catrin. Mae’r lle’n edrych yn grêt – neis iawn gweld pobl (gymharol) ifanc, lleol, a Chymry Cymraeg yn cael y cyfle i gymryd lle o’r fath ymlaen. Pob llwyddiant i chi. Mi ydych chi’ch dau yn gredit i Glwb Ffermwyr Ifanc Talybont.
A sôn am brif fudiad ieuenctid Cymru, pwy welodd rhaglen ‘mentora’ Tudur Owen dros y gwyliau? Grêt i’r mudiad – cyhoeddusrwydd ac ati, a chriw brwdfrydig a talentog yn serennu - clwb Bro Ddyfi wrth gwrs yn enwog am eu llwyddiannau di ri cenedlaethol ym meysydd perfformio, a Sam o glwb Tregaron yn fyd-enwog (bron) efo’r adrodd digri. Pan glywais mai rhaglen o ‘fentora’ efo Tudur Owen oedd y cynhyrchiad, rhaid cyfadde’ mae siom a gefais o ystyried mae Tudur oedd yn mentora’r aelodau hynod lwyddiannus yma, ac nid y ffordd arall rownd. Er hynny, rhaglen digon difyr, a dwi’n siŵr fod yr aelodau (a Tudur gobeithio) wedi elwa o’r profiad.
Hefyd ar S4C, bu Fferm Ffactor yn ôl am gyfres arall yn 2011. Diddorol sylwi fod Daloni’n reit gadarn wrth ddweud wrth y rhai anffortunus hynny a oedd yn gadael y gystadleuaeth yn ystod y gyfres eu bod yn gwneud hynny “am byth”. Rhyfedd felly eu gweld i gyd yn ôl ar y rhaglen yn ystod y rownd derfynol yn mwynhau cinio gyda Daloni, yr Athro Wynne Jones, a’r llall (sy’ bellach yn feirniad???).
I aros hefo byd y teledu, pob llwyddiant i Densil o Bobl y Cwm. Mi fydd ganddo amser nawr i wneud rhywbeth efo’r RSC efallai, yn dilyn ei ymadawiad o Gwmderi. Neu, efallai mi all e ail-gydio yn y bartneriaeth efo ‘Cilla’ ei gyn-wraig sgrin ar gyfer rhifyn arbennig (feature length) o ‘Heini’ ar blaned plant?
Friday, 5 August 2011
F1. No - Sky won. We lost.
Er i mi gadw draw o'r blog ma yn holl helynt F1 ar y BBC a Sky, dwi wedi rhoi fewn o'r diwedd. Rhaid blogio am y peth. Caiff Bill a Ben 'twitcho' am ychydig yn hyrach.
Dwi wedi dilyn Fformiwla 1 ar y BBC (ac am gyfnod byr ar ITV) ers dwi'n gallu cofio. Yn grwt bach yn yr 80'au cynnar, dwi'n dal yn gallu cofio eistedd ar y soffa efo Dad yn gwylio F1 ar ddydd Sul.
Ac felly y bu am flynyddoedd, roedd F1 - camp sy' allan o gyrraedd cymaint ohonoch chi (mi allen ni fod yn dda yn F1 petawn i'n cael y cyfle) - ar gael am ddim (onibai am gost y drwydded deledu) i ni i gyd.
Ond nawr, bobol bach, mae'r hen Bernie Ecclestone wedi mwydro ac ymyraeth eto, ac wedi dad-wneud ei waith da i gyd. Ar ol iddo fod yn rhyw fath o 'bencampwr' dros y blynyddoedd i sicrhau fod F1 ar gael am ddim i'w wylio, mae e wedi gwneud ei 'u-turn'. Flwyddyn nesa, hanner y rasus fydd am ddim, ond y cwbl i'w weld ar Sky Sports. Dyna i chi rhyw £300 extra bob blwyddyn i wylio tymor gyfan o F1.
Ond, nid yw'r BBC yn ddi-fai chwaith. Nhw sydd wedi agor y drws i Sky yn ol y son. Ac mi fydd hyn wrth gwrs yn agor y drws dros y blynyddoedd nesa i Sky gymryd y peth yn gyfangwbl. So long 'free to view' F1 bydd hi dwi'n ofni.
Mi all y BBC fod wedi trafod gyda ITV, C4, neu C5. Ond na, efo Sky a Mr Murdoch aeth y bib.
Mae nifer o flogiau wedi bod - gan un o reolwyr y BBC ac un o gyflwynwyr F1. Mae'r ymatebion wedi bod yn niferus a dweud y lleia'. Cawn weld os yw'r BBC yn gwrando ar eu gwylwyr. Neu tybed a wnawn nhw 'gau lawr' adran sylwadau y ddau flog tybeg (mae nhw wedi cau un ohonynt lawr yn barod).
Mae'r BBC wedi gwneud smonach stratasfferic o'r cytundeb F1 yma - a hynny ar ol creu darllediadau mor dda nes fod pobl o wledydd eraill yn gwylio F1 ar y BBC yn hytrach na'i wylio ar eu sianeli eu hun. Eu dadl yw fod angen arbed arian. Ac i'r bib mae'n llawer haws cael gwared a F1 trwy'r drws cefn (a ff*cio'r peth lan i gyd i unrhyw un o'r sianeli eraill a all fod a diddordeb mewn darlledu camp o'r fath am ddim i'r werin bobl) yn hytrach na torri cyflog Jonathan Ross, neu lleihau'r ffys sydd o gwmpas y darllediadau Loteri Cenedlaethol, neu creu gorsafoedd radio digidol er mwyn plesio mewnfudwyr.
Be fydd nesa - Pencampwriaeth y 6 Gwlad falle?
Ta beth, dwi ddim yn mynd i wario £30 ychwanegol bob mis i gael Sky Sports.
"That'll learn them"

Wednesday, 30 March 2011
"Ddoe am ddeg"
Mi wnes i 'sky+'io hwn. Newydd ei wylio.
Ym....
Ym....
Friday, 18 March 2011
Diwrnod y trwynau coch...
Mae'n ddiwrnod y trwynau coch. Lot o 'selebs' wedi bod wrthi'n brysur yn creu ffilmiau wirioneddol deimladwy o wledydd pell, a lot o selebs wedi bod wrthi'n gwneud pethau dwl a difyr o bob math i godi arian.
Cymrwch Chris Moyles a Dave Vitty o BBC Radio 1. Wedi bod wrthi am ryw 50 solid awr yn darlledu'n fyw a torri record byd. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.
Wedyn, criw o selebs amrywiol wedi cerdded 100km ar draws diffeithwch sych. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn.
Cyflwynydd o Blue Peter wedi cerdded ar wifren rhwng 2 simne Battersey. Tipyn o gamp. Ac wedi codi ymhell dros miliwn (neu digon agos).
Yma yng Nghymru, bu Alun - seleb honedig ac un hanner o John ac Alun - yn waxio ei goesau ar y radio.
Deinamic. Bois bach, deinamic.
Ffoniwch 03457 910 910 neu cliciwch y ddolen i gyfrannu at ddiwrnod y trwynau coch.

Friday, 4 March 2011
Wel y ie ie, 'na fe.
Dwi newydd fod ar daith trwy goridorau twitter a facebook am 5 o'r gloch heno 'ma.
Be ddiawl sy wedi dod dros pobl? Ydy'r tim cenedlaethol wedi ennill y gamp lawn? Ydy V.E. day arnom eto? Yw clawdd Offa wedi troi'n gamlas a hwnnw'n lledu wrth y funud?
Dwi'n ddigon balch fod y canlyniad 'ie' wedi ennill y dydd, ond, o ddifri, oedd unrhyw amheuaeth gan unrhywun y byddai'r ganlyniad yn unrhywbeth ond 'ie'? Beth yw'r ystadegau - tua 2:1 ife? Digon iach ddwedwn i. O ran 'turnout', wel, mater arall yw hwnna, ac os rhywbeth, mi fuaswn i'n dweud nad yw 'turnout' o llai 'na 35% yn haeddu ryw ormod o ddathlu a dweud y gwir.
Ta waeth, mae'r canlyniad yn gam ymlaen i'r cynulliad. Gobeithio.
Reit, dwi off nawr i Spar i moyn 6 botel o 'pomagne'. Wedyn, ar ôl cael cael hyd i hen got a cap FWA falle a'i allan ar orymdaith wedyn yn saethu shotgun fy nhad yng nghyfraith allan o sunroof y pick-up tra'i fod e'n gyrru rownd a rownd strydoedd Machynlleth yn canu'r corn, efo hymdinger o ddraig goch yn chwifio allan o'r cefn.
Dewch a hi 'mlaen (bring it on).
If you can't beat em, join em...
Llongyfarchiadau i Gymru.
Llongyfarchiadau i Gymru.
Sunday, 27 February 2011
Pleidleisiwch "Yes" dros Gymru
Blog byr – dim amser am un hir…
Dwi wedi cael llond bol o’r busnes refferendwm yma. Mae’r dadlau ymysg y ddau ‘wersyll’ wedi troi i fod yn reit blentynaidd (o’r ddwy ochr), a gwaeth fyth, fel y soniais yn fy mlog dwetha’, mae rhai (yn enwedig ar yr ochr ‘ie’) yn defnyddio’r ymgyrchu fel cyfle i godi proffil personol, yn hytrach na codi proffil y genedl.
Mi fuais mewn cyfarfod ‘yes’ ym Machynlleth wythnos diwethaf, ac er fod yna gyfleusterau cyfieithu ar y pryd arbennig ar gyfer y rhai hynny yn y gynulleidfa oedd eu angen, roedd y rhan helaeth o areithiau’r 4 a oedd ar y panel yn y Saesneg.
Ond – yr eironi fwya oedd mae’r un a siaradodd dim Cymraeg o gwbl (David Senior) oedd yr un a siaradodd fwya’ call. Efe wnaeth yr impact fwya’ yn fy marn i, a dim un ymgais i ‘bafflo’r’ gynulleidfa efo termau technegol, a dim ailadrodd engrheifftiau o pa mor galed oedd gwaith gwelidyddwr, yn wahanol i un neu ddau o’r lleill. (Gyda llaw, os oes gwleidyddion sy’n hoffi mynd ymlaen ac ymlaen am ba mor galed mae nhw’n gweithio yn darllen hwn – plis – newidiwch y record. Chi’n cael eich talu’n ddigon blydi hael am wneud y job, heb son am y ‘perks’ ‘da chi’n eu cael).
Ta waeth – awgrym – beth am i’r ymgyrch ‘ie’ a’r ymgyrch ‘na’ ddod at eu gilydd jyst i weud wrth pobl fod rhywbeth yn digwydd ar y 3ydd o Fawrth. Falle fuase hynny’n syniad.
Dwi hefyd wedi darllen datganiad i’r wasg gan S4C ryw dridie yn ôl. Debyg iawn fod S4C yn rhedeg rhaglen arbennig i ddathlu priodas ‘brenhinol’ saesnigaedd.
Saturday, 12 February 2011
Ceiliogod Cymru
Mae 'na rai pethau sy'n mynd o dan fy nghroen i braidd. Ar hyn o bryd, rhaid dweud mai'r ymgyrch 'ie' dros Gymru sy'n darged.
Wel, nid yr ymgyrch, ond rhai o'r ymgyrchwyr.
Ydych chi'n gyfarwydd â'r dywediad mae rhai pobl yn dweud – am gapelwyr ac eglwyswyr sy'n mynychu'r capel neu eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynychu? Wel, mae 'na ambell i ymgyrchydd 'ie' dros Gymru sy'n gwneud yn union yr un peth – mae nhw'n gweld yr ymgyrch a'r ymgyrchu fel cyfle PR iddyn nhw eu hunain, ac yn defnyddio digwyddiadau 'ie' fel cyfle i 'safleoli'u hunen fel pwysigion cymdeithas, ac fel hoelion wyth y genedl.
Falle wir eu bod nhw am weld pleidlais 'ie' yn ennill y dydd ar ddiwrnod y bleidlais fawr, ond does gennai ddim amheuaeth fod rhai o'r rhai hynny sy'n ymgyrchu yn cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn cael eu gweld, er lles eu hunen.
Ac yn naturiol, pan ddaw canlyniad 'ie' dros Gymru, mi fyddant yn cerdded rownd fel ceiliogod yn llongyfarch eu hunen am fod yn rhan o fenter llwyddiannus, ac yn twyllo'u hunen fod eu cyfraniad nhw dros Gymru'n amhrisiadwy, ac yn disgwyl cael sedd ar bwyllgorau uchel-ail ac ati.
Mae'n biti am y bobl 'ma, achos mae nhw'n gwneud mwy o niwed i'r ymgyrch 'ie' ymysg y werin bobl. Dydi'r werin dlawd ddim yn ryw ffans mawr o'r math yma o bobl – y math sy'n mynd i'r capel a'r eglwys jyst er mwyn cael eu gweld yn mynd i'r capel a'r eglwys.
Digon posib fod yna rai tebyg yn rhan o'r ymgyrch 'na', ond dwi ddim yn cymryd lot o sylw ohonyn nhw am nawr.
Ac i'r rhai hynny sy'n ymgyrchu o'u calonnau – golew chi wir (ac mi ydych chi'n gwybod yn union am be dwi'n sôn).

Monday, 7 February 2011
'Nol ar y cledrau.
Wel mae sbelen golew di bod ers i fi roi rhoi bysedd ar y botymau a sgwennu blog arall.
A chware teg, mae amryw o bobl wedi bod yn gofyn be sy’ wedi digwydd i’r blog ‘ma, ond, mae’r misoedd dwetha wedi bod braidd yn ddi-flas a dweud y gwir.
Mi ddaeth y ‘Dolig, ac roedd atsain ‘ho ho ho’ i’w glywed yn glir, ond nid llais ‘Brian Blessed’-aidd Sion Corn oedd yn chwerthin, ond rhyw lais ‘Nick Cotton’-aidd o grombil tân yr odyn a glywais i’n goglais yn slei.
“Rhod” a “Rhwyd”, fel dywedodd ryw fardd gwlad.*
Ta waeth, fel dywedais, mi ddaeth, ac mi aeth y Nadolig, a chware teg, mi oedd y plant wrth eu boddau gyda’u tangerine, llond dwrn o gnau, ‘top-school’ wedi’i neud o bren, a model o Spitfire (un o rai Supermarine, nid yr un gan Triumph).
Er mwyn arbed y ceiniogau, penderfynais ddweud wrth y plant mae 1942 oedd hi, a bod Jerry yn dal i fygwth, a’r rations yn rheoli. Cwblhawyd yr effaith drwy droi’r lliw reit i lawr ar y teledu, a gwylio’r ‘history channel’ a’r ‘military channel’ drwy’r dydd (gan ddweud mae rhaglenni dogfen cyfoes oeddynt), cyn mentro i’r Anderson Shelter (y sied ar waelod yr ardd) ar ôl cinio wedi i larwm car ar y stryd godi sŵn (bron iawn i mi ‘Balu dros Brydain’ yn yr ardd hefyd, ond roedd hi’n rhy oer – mae’n gwd job na blannais bylbs cenin pedr newydd cyn y ‘Dolig. Mi fuasai’r tywydd rhew wedi eu lladd cyn mis Mawrth mae’n siwr).
Ni swniodd yr un larwm car arall wedyn am 3 awr i roi’r all clear i ni, ac felly bum i, fy ngwraig, y plant, a’m rhieni a’m chwaer yn crynu’n oer yno tan 5 o’r gloch y p’nawn yn ceisio trwsio’r strimmer.
Roedd hi’n neis iawn cael treulio amser gyda’r teulu dros yr wyl, ac arbed y gost o brynu strimmer newydd.
Dwi’n falch dweud fod dyddiau cynnar 2011 yn edrych lot gwell na 2010 yn ei gyfanrwydd yn barod, a braf iawn yw cael unwaith eto ennill ceiniog fach neu ddwy – a hynny yn gweithio i bobl egwyddorol a diffuant.
Mae’r pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau am nawr, ac er nad yw’r pennod diweddar yna wedi’i gloi yn hollol eto, mae yna bennod newydd wedi cychwyn – heb os nac oni bai.
Falle’n wir daw blog ‘dda’ yma cyn hir. Amynedd, gyfeillion.
Hwyl am y tro.
* Ni wn be’ ddaw yfory,
Ar lethrau’r bryn neu ar y bae,
Ond gwn fod pob un rhod yn troi
A phob un rhwyd yn cau.
Sunday, 9 January 2011
Blwyddyn Newydd Dda - dwi dal 'ma...
Croeso cynnes yn ol i chi o'r gwyliau.
Gobeithio y cawsoch amser da, heb ormod o anhwylder ar ol y bwyta!
Mae rhai wedi son wrthai fod y blog 'ma wedi tawelu - ac i fod yn onest, dwi heb fod yn blogio nac ychwaith ar yr hen gyfrifiadur yma ryw lawer ers dydd 'Dolig.
Yn wahanol i rai, mi lwyddais i gael help telesgop i gael gweld ymhell ar ambell noson glir, a chael ail-wynt arno, a hynny cyn i'r BBC redeg y 3 rhaglen fyw arbennig yno gyda'r digrifwr moel o'r Iwerddon a'r Proffesor sy'n gwenu'n barhaol (Stargazing Live).
Mae'n dal i'm rhyfeddu gymaint dwi'n gallu gweld sy'n digwydd mor bell i ffwrdd, a hynny mor glir.
Felly, gyda hynny o eiriau (i'ch atgoffa fy mod yn dal yma, ac yn gweld yn bellach nac erioed), gai ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi, gyda'r addewid o ambell blog arall yn 2011.
Peidiwch a poeni - mi fydd blog dda fan hyn cyn hir.
Byddwch yn amyneddgar.

Tuesday, 14 December 2010
Lle moethus i barcio car, ond unman i barcio claf…
Cyn cychwyn, rhaid i mi ddweud un peth – does gennai ddim byd ond edmygedd ar gyfer doctoriaid, nyrsys, porthorion a gweithwyr y wardiau yn ysbyty Bronglais.
Yn fy marn i, mae’r broblem efo’r ‘management’ (there’s a lot of it going around, you know…).
Does neb lawer wedi bod yn hwylus yn tŷ ni ers rhai wythnosau. Rwyf fi ar gwrs go gryf o antibiotics ar ôl ryw infection ar fy ysgyfaint. Mae’r mab sy’n flwydd oedd wedi peswch gymaint nes bod e ddim yn rhyw siŵr iawn be sy’n digwydd, a’r ferch fach, sy’n 5 mlwydd oed wedi bod yn reit anhwylus hefyd.
Neithiwr, daeth hi adre o’r ysgol yn gynnar yn y pnawn. Yn welw ac yn llwyd, dim hwyl, a waeth fyth – heb y sbarc fach anhygoel o nonsens a direidi sy’ mor gyfarwydd â hi.
Na, doedd Gwenllian ddim yn sbesial neithiwr.
Ar ôl dod o hyd i’r thermomedr bach daeth sawl sioc fach arall.
39.3
39.7
40.0
ac wedyn – 40.6.
Bobl bach. Dim amser i ffonio’r Shrop-Doc (sy’n gwasanaethu ni yma ym Machynlleth). Syth lawr felly i Bronglais er mwyn iddi hi gael y gofal anghenrheidiol.
Syth at y ddesg: “Hello there”, ddwedodd y ferch tu ôl y ddesg, “I’ll be with you in a minute”. Na fe te, meddyliais, gan gydio’n dynn yn Gwenllian – hithe fel y galchen ac yn llipa ac yn beichio crio.
O’r diwedd, gorffennodd y wraig ei gwaith papur NHS pwysig a gofyn beth oedd y broblem.
“She’s over 40 degrees. She’s ill. She needs to see a doctor as soon as you can please” atebais, yn ddigon synhwyrol.
“Take a seat, I’ll see if there’s a GP available”, atebodd yntau.
Nawr, dim ond 7 o bobl eraill oedd yn eistedd yn yr ystafell aros yn edrych ymlaen am ‘wasanaeth’. Dim lot o waith aros felly, meddyliais. Eisteddom i lawr yno, gan aros ein tro. Edrychais ar y cloc, roedd hi’n 7:35pm.
O ben arall yr ystafell roedd hen wraig mewn cadair olwyn. “Gwnewch eich hunan yn gyfforddus”, dyweddodd – “Dwi ‘ma ers cwarter i bump. Daeth ambiwlans a fi ‘ma, mae gennai infection trwy’r corff, dwi angen y ‘fluids’ yn y fraich, dwi ddim di cael dim help eto onibai am bois yr ambiwlans a ddaeth a fi ‘ma, a ‘ma nhw wedi mynd nawr.”
Edrychais yn synn arni. Ac yn wir, roedd y rhan helaeth o bobl yna yn ‘casualty’ Bronglais wedi bod yno dros 2 awr, a neb eto wedi gallu eu gweld nhw.
Dyn pryd sylweddolais ar yr ambiwlans a’i injan yn rhedeg y tu fas i’r drws.
“Ma’r ambiwlans wedi bod na ers dros awr, mae’r patient dal fewn ‘na, heb ddod mas eto”, cynnigiodd yr un hen wraig. “Sdim unman i’r patient fynd ch’wel.”
A dyna pryd sylweddolais y rheswm tu ol yr oedi hir (ac i ysbyty Bronglais, mae aros unrhywbeth dros awr yn oedi hir iawn). Roedd y pob gwely yn yr adran ddamweiniau yn llawn – a pob un o’r cleifion yn aros am wely i ddod yn rhydd ar y wardiau. Dim gwaed, dim sgrechian mewn poen, dim dramas. Roeddynt i gyd wedi cael eu ‘admittio’ i’r ysbyty dros nos.
Ond heb le ar y wardiau i’w cymryd, doedd unman iddynt fynd. Ac heb wely sbar yn yr adran ddamweiniau, doedd dim posib i neb lawer a oedd yno’n aros gael eu gweld chwaith.
Penderfynais fynd i moyn paned o de i mi a’r wraig, a diod oer i’r un fach.
Problem rhif 2. Dim unman yn yr ysbyty’n agored i gael diod poeth neu oer, neu hyd yn oed bachdan. Ac maen siwr eich bod chi’n gwybod yn iawn pa mor fendithiol yw diod ar ol bod mewn ysbyty am hanner awr neu fwy (mae mor boeth yno – pam dwedwch?). Ond na, dim ond sugno’r gwlith o’r aer ar flaen tafod oedd modd gwneud.
Nawr, fel dwedes i’n gynharach, sgennai ddim problem gyda’r staff druan oedd yn gorfod gwynebu’r cleifion. Nid eu bai nhw yw’r sefyllfa, ond does bosib, ar ôl gwario miliynau yn creu 4 lle parcio ychwanegol ym Mronglais, na fydde’r arian wedi cael ei wario’n ddoethach ar welliannau neu estyniadau i’r wardiau, neu ar ‘back to basics management course’ ar gyfer y rheolwyr holl-alluog?
Ac wrth feddwl am hyn, ac wrth edrych ar y 37” flat screen yn yr adran ddamweiniau a oedd yn hybsyebu ‘Hair by Helen’, ‘Paradise log cabins’, a ‘Have you been treated unfairly by your employer?’, o’r diwedd, galwyd enw Gwenllian am 8:15 gan ryw ddoctor hyfryd o’r Iseldiroedd a oedd neithiwr yn rhoi blas Ewropeaidd i’r tim rhyngwladol yn yr ysbyty. Mi edrychodd drosti'n fanwl, ac roedd yn cyfaddef ei hun fod golwg ofnadwy arni, a bod rhyw feirws wedi cydio'n dynn ynddi hi. "There's a lot of it about" dywedodd.
Trwy lwc a bendith, roedd tymheredd y lodes fach wedi dod lawr, a’r doctor yn hapus i ni ddod adre, gyda botel o ‘Calpol’.
Drama drosodd i ni.
Roedd 6 o’r 7 a oedd yn aros yn gynharach yn dal i eistedd yn yr ystafell aros, ac wedi cael y newyddion y byddai 2 awr arall o aros o’i blaenau.
Dwi’n credu eu bod nhw erbyn hynny wedi ffurfio undeb ac yn bwriadu mynd ar streic.
Mae Gwenllian lot yn well heddiw. Ychydig o faldod, ‘haribo sour mix’, a’r garthen dros ei choesau ar y soffa, ac mi fydd hi’n well eto fory gobeithio.
Saturday, 4 December 2010
Ysgolion gwledig wedi cau - be ddaw o'r adeiladau?
Fis yn ol (cyn yr helyntion) cefais fy nghwahodd gan bapur bro Y Tincer i ysgrifennu colofn - fel 'colofnydd y mis'. Dyma beth a sgwennais. Dwi ddim yn gwybod faint o driogolion bro Trefeurig sy'n dilyn fy mlogs i, ond mae'r ymgyrch i achub adeilad yr ysgol yn ddigon pwysig i gael sylw y tu hwnt i filltir sgwar fy ngwreiddiau i.
Pwy a wyr, falle mae dyma tynged pob un o hen ysgolion gwledig Cymru???
Felly, gyda diolch i bapur bro Y Tincer am ganiatad i roi hwn ar fy mlog, dyma fe...
Mae 8 mlynedd ers i mi symud i Fachynlleth o Gwmisa’. Bellach, yn briod ag Elen, ac yn dad i ddau o blant hyfryd – Gwenllian Meleri a Morgan Elwyn.
Ychydig yn ôl, daeth y pedwar ohonom nôl adre’ i Gwmisa’ am bnawn i gael paned gyda Mam a Dad.
“Dyna lle aeth dadi i’r ysgol” dywedais wrth Gwenllian wrth ddod heibio ysgol Trefeurig.
“Oes lot o blant ‘na?” gofynnodd.
“Nagoes cariad. Mae’r hen le wedi cau.” - Bois bach mi wasgodd yr ateb yna arnai.
I ysgol Trefeurig aeth fy hen Dad-cu –James (Jim), fy Nhad-cu - Elwyn, fy Nhad – Dai, a finne.
Ond daeth y gadwyn i ben – fel croes goch Mrs Megan Creunant Davies neu Mrs Della Williams ar un o’m llyfrau ‘sgwennu - pan roddodd ryw fiwrocrat hunan bwysig ei groes goch ar ddyfodol yr ysgol.
Ond, yn ffodus iawn, mae’r gymuned wedi bod yn weithgar dros y blynyddoedd yn cynnal digwyddiadau yn yr adeilad – mae ysbryd Trefeurig, os nad yr ysgol ei hun, yn dal yn fyw.
Ac mae hyn yn bwysig. Mae’r ysgol wedi bod yn bwynt ffocws i’r ardal – ysgol, cwrdd cystadleuol, sioe’r fro, sinema, dosbarthiadau nos, ffair haf, - mi allwn ni sôn am fwy o bethau ond dwi’n credu fod y pwynt dwi’n drio’i neud yn glir. Mae Ysgol Trefeurig yn parhau i ddal ei dir fel canolbwynt Penbont, Cwmsymlog, Cwmerfin, a Banc y Darren.
Mae’n adeilad ‘balch’, yno’n sefyll yn sentinel i unrhyw un a ddaw fewn i’r hen blwy’. Ar ei waliau mae’r enwau a naddwyd gan y disgyblion i gerrig yr adeilad yn ystod amserau chwarae, a thu fewn, ar dalcen y dosbarth mae enwau plant y fro na ddaeth yn ôl o’r rhyfeloedd. Ac ambell enw arall, i goffau a dathlu'r rhai hynny a ddaeth yn ôl yn ddiogel ar ôl gwasanaethu (ac enw’n Nhad-cu ac ambell berthynas arall i mi yn eu mysg).
Ond nawr, mae bygythiad arall i’r adeilad sy’n symbyli traddodiad ac ysbryd cymunedol y fro.
Mae gan y gymuned ond 6 mis i ymdrechu i gadw’r ysgol o fewn eu perchnogaeth. 6 mis i godi miloedd ar filoedd – neu mi fydd yr hen le yn cael ei roi ar y farchnad agored. Cywilydd.
Bu cau’r Ysgol Gynradd yn glec flynyddoedd yn ôl. Heb os, mi fydd gwerthu’r hen aelwyd bwysig yma’n un caletach fyth.
Mi fuaswn wrth fy modd pe buaswn yn gallu prynu’r lle a’i roi yn ôl yn nwylo’r gymuned – wedi’r cyfan, mae fy nyled i ysgol Trefeurig yn enfawr.
Ond na, does dim tocyn aur gennai.
Mi wnâi beth allai – wrth gwrs. A dwi’n siŵr, y gwnewch chi hefyd beth allwch chithau.
Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â’r Cyngor Cymuned – mae 'na ymgyrch ar gychwyn yno. (gweler y dolenni isod am fanylion pellach)
Ar ôl ei werthu, tybed be wneith Cyngor Ceredigion â’r arian?
Prynu mwy o ‘grit’ ar gyfer strydoedd Aberystwyth? Neu brynu swing fach arall i’r cae chwarae am ein trafferth efallai?
Gobeithio’n wir y cawn ein siomi o’r ochr orau.
Gwefan Trefeurig: http://www.ysgoltrefeurig.org.uk/
Dogfennau ar gyfer yr ymgyrch: http://www.ysgoltrefeurig.org.uk/cymraeg/helpwch-ni-i-gadw-ysgol-trefeurig/fd/
Tudalen ‘wep-lyfr’ (facebook): http://en-gb.connect.facebook.com/pages/Ysgol-Trefeurig-School/125446534171968

![]() |
| Ysgol fach Trefeurig, lle fi oedd y 4ydd cenhedlaeth o'm teulu i fynychu. |
Gwefan Trefeurig: http://www.ysgoltrefeurig.org.uk/
Dogfennau ar gyfer yr ymgyrch: http://www.ysgoltrefeurig.org.uk/cymraeg/helpwch-ni-i-gadw-ysgol-trefeurig/fd/
Tudalen ‘wep-lyfr’ (facebook): http://en-gb.connect.facebook.com/pages/Ysgol-Trefeurig-School/125446534171968
Friday, 3 December 2010
Dim cwpan y byd yn Lloegr. O na biti.
Wel, na siom. Fydd dim cwpan y byd yn lloegr wedi'r cwbl.
Gobeithio na gostiodd y trip ormod i Bili bach, Dai Cam, a'r bachan Beckham 'na.
Dwi wedi bod yn meddwl dros yr wythnos a hanner dwetha 'ma be dwi'n mynd i neud yn sgil fy sefyllfa i (gwelwch y blog blaenorol am esboniad os nad ydych chi bellach yn gwybod).
Dwi wedi meddwl prynu buches o wartheg duon, neu edrych am rywbeth anturus arall i neud. Ond na fe, heb gael yr amser i baratoi am sefyllfa fel rwyf fi ynddo (yn wahanol iawn i rai) mae'n anodd iawn gallu neidio o un cwch i mewn i un arall. Mae'r gwynt yn chwythu'n bert i hwyliau rhai chi'n gweld. Be ddaw i mi yng Nghymru yfory tybed?
Ta waeth, fel dywed y saes - "there's my 2p's worth".
(Gewch chi blog lot gwell cyn hir gennai.)

Thursday, 25 November 2010
Be ddaw nesa'?
Heddiw, roeddwn i fod i roi croeso cynnes arall i becyn cyflog misol, ond cefais innau ynghyd a gweddill y tîm wybod bore ddoe na fyddai ein cyflogau’n cael eu talu.
Wel, mae’n siwr fod y newyddion am fy nghyn gyflogwr bellach ar wefusau pawb.
Ydi, mae StrataMatrix wedi darfod.
Dwi wedi teimlo pob emosiwn posib ers i ni gael gwybod am 10 o’r gloch bore ddoe (Dydd Mercher), ond ddigwyddodd rhywbeth bore ‘ma tua 11 o’r gloch a gododd rywfaint o’r niwl diawledig a gwenwynig a oedd yn llifo’n ddiddiwedd trwy fy ngwaed. Dyna pryd cefais fy 'moment of clarity' dwi'n meddwl.
Dwi ddim yn siwr pam, na sut, ond o’r diwedd, rwy’n dachre gallu gweld y gwydr yn hanner llawn.
Mae Gwenllian a Morgan (fy mhlant) yn llawn bywyd a nonsens diniwed, mae Elen (fy ngwraig) yn cadw naws y teulu’n llawen – sy’n rhyfeddol o ystyried fod plentyn rhif 3 ar y ffordd hefyd. Mae’r car, chwarae teg iddo yn cychwyn yn ddi-lol, ac hyd yn oed yr haul wedi codi o’i wely. Roedd haenen newydd o eira man yn disgwyl fi y tu allan ar ôl i mi godi, a Machynlleth unwaith eto yn edrych yn reit Nadoligaidd.
Mae hyn wedi rhoi pethau mewn pyrspectif. Galle pethe fod yn waeth.
Galle pethe fod wedi bod lot gwell hefyd, cofiwch, ond dyna ni.
Pe bai’r cyflog wedi cael ei dalu i mi heddiw, mi fydde pethe wedi bod yn haws. Mi wedai hynny’n blaen, ond na, bydd rhaid cwrsio taliad gan ryw wasanaeth llywodraethol, a dwi’n mawr obeithio y daw’r gwaith papur drwy’r post yn fuan. Dwi ddim yn disgwyl gweld yr un ceiniog goch tan Chwefror ar y cynhara’ a dweud y gwir. Falle mi gai siom o’r ochr orau.
Yr emosiwn anoddaf i ddelio a hi yw’r un sy’n llawn rhyw fath o ‘falchder’ - doeddwn i ddim yn disgwyl teimlo fel hyn.
Mi oedd cael y swydd yn StrataMatrix yn fraint ac anrhydedd – wedi’r cyfan, mi oedd yn gwmni arloesol, a tîm arbennig o dda’n gweithio yno. Rywsut, mae’r balchder o fod yn rhan o’r lle yn trio rhoi ‘gwd ysgwydad’ i mi, ac mae’n dda am hynny. Rhaid sianeli’r emosiynau i fod yn bositif bellach os am symyd ymlaen o gwbl.
Mi oeddwn ni i gyd (y ‘plebs’ fel oeddwn yn galw’n hunen) yn llawn hwyl, tynnu coes, clebran, ac yn deulu bach estynedig – teulu sydd bellach wedi colli’r aelwyd, ond teulu a fydd yn dal yn agos – yn agosach, os rhywbeth, yn sgil y siom enfawr a gafwyd ddoe.
Drychwch ar y bobl oedd gennym yno fel rhan o’r teulu: fitness fanatic, gwraig fferm, cyn athrawes, mab dwl i fardd y gadair (yr un dylaf a welais erioed), ‘anti’ Mair a oedd byth yn gwrthod paned, ac wrth gwrs, y ‘California Dreamer’ o Gwmllynfell.
Dim ond detholiad bach o’r criw sydd uchod – mi fuasai’n ormod o waith enwi pawb sy' yna ac wedi bod trwy'r lle tra fy mod i wedi gweithio yno (Chi'n gwybod pwy ydych i gyd!)
Ni oedd y ‘plebs’. Ni oedd y werin dlawd. Ni oedd y gwaed yn llifo drwy wythiennau’r hen gwmni bach. S’dim ots beth oedd ein swyddogaethau, nac ychwaith ein cyflogau, roedd gan bob un aelod o’r tîm y gallu i gyfrannu’n sylweddol at bob un prosiect – roedd barn a syniadau pawb yn cyfri.
Ond, ie, ‘balchder’ yw’r emosiwn cryfa ar hyn o bryd. Braint ac anrhydedd oedd gweithio gyda chi bois bach. Braint ac anrhydedd.
Ac, fel dywedodd rhywun doeth iawn i mi heddi - 'daw haul ar fryn eto'.
Felly be ddaw nesa’? Fedrai ddim ateb hynny ar hyn o bryd. Rwy’n gobeithio y daw pethau da i ni i gyd, yn enwedig mor agos i’r Nadolig a ninnau’n barod ar ei hol hi o fis o gyflog.
Gyda’r farchnad swyddi mor hesb, yr opsiwn orau sy’ gennai yw i fynd ar liwt fy hun – rhywbeth yr dwi wedi ystyried ers dros blwyddyn a dweud y gwir, a rhywbeth y mae twr o’m cyn-glientiau o StrataMatrix wedi annog i mi wneud yn barod (diolch am y geiriau caredig gyda llaw – ac am y cyngor ynglyn a siafio’r Mwsdachwedd yma i ffwrdd mor fuan a phosib!).
Felly, mae’r wefan newydd wedi ei ddiweddaru (mae'r linc ar y dudalen hon ar y dde yn rhywle) ac rwy’n gwneud fy ngorau i ychwanegu gwybodaeth o bwys arno fel bo’r amser yn caniatau. Un o’r gwefannau rhad ac am ddim yw e ar hyn o bryd, ac unwaith i mi wneud fy ffortiwn, mi brynai wefan broffesiynol.
Monday, 8 November 2010
Fy mlog talar - be allwn ni fel Cymry ddysgu?
Mi oeddwn wedi edrych ymlaen at ddiweddglo Pen Talar.
Ond ‘na fe. S’dim ots.
Efallai fy mod i’n un o’r lleiafrif hynny yng Nghymru sy’n edrych ar bethau’n rhy arwynebol. Dwi’n euog o hyn yn aml iawn (oni bai wrth gwrs fy mod yn gwylio bwletin tywydd S4C - mae’n dweud lot amdanom ni fel cenedl), ond ar unrhyw nos Sul am 9 o’r gloch, mae’n well gennai eistedd lawr â Baileys bach a gwylio rhywbeth sydd â stori dda ac ychydig o byrspectif hanesyddol (e.e. Dad’s Army). Ac i fod yn deg, dyna oeddwn i wedi deall oedd Pen Talar i fod – ryw fath o ddramateiddio Cymru’r 20fed Ganrif mewn ‘cragen-gneuen’. Roedd popeth yn mynd mor dda i bob pennod – pob un yn agoriad llygaid i un mor naïf â minnau.
Ond wedyn, daeth y rhifyn ola’ ond un. Newidiodd bethau rywfaint. Roedd y ‘car crash’ a golygfa’r boddi ychydig yn annisgwyl yr wythnos diwethaf, ond rwy’n deall fod angen ‘Deus ex machina’ weithiau er mwyn helpu’r plot i gyrraedd rhywle newydd (h.y. roedd y stori wedi cyrraedd ychydig o ‘dead end’ ac mi oedd angen ‘cacan sioclad Jonsi’ o ddigwyddiad i roi sioc i bawb).
Mae’n bosib dehongli fod Doug a Defi yn y dŵr yn symbol o ‘Gymru’n boddi wrth y lan’, neu ‘Cymry’n ymladd eu gilydd heb ystyried’ neu rywbeth fel’na. Falle fod y neges mor syml â ‘peidiwch a chwarae’n anghyfrifol wrth ymyl y dŵr’ neu ‘mind the gap’ falle.
Ta waeth, mi oedd cynnwys ‘underwater sequence’ yn y gyfres yn gam dewr iawn, ac yn profi gallu’r diwydiant deledu yng Nghymru i fod yn dechnegol fodern a rhebelgar.
(Mi fyddai’n dda o beth gweld y sgiliau yma’n cael eu defnyddio ar raglenni eraill yng Nghymru, dewch nawr sgriptwyr – rhaid cael mwy o ‘underwater sequences’– dyma blot i chi – Cwmderi’n cael ei foddi ‘due to public demand’. Sgwennwch gloi.)
Sori – tangent bach yn fan’na. Nol at y plot tenau ‘ma sy gennai:
Ond y gwir yw, roedd stori rhifyn ola’ Pen Talar braidd yn, wel, braidd yn ‘Gymreig’ yn d’oedd hi? Fel ‘Un Nos Ola Leuad’ neu ‘Gwen Tomos’ (yn fy nhyb i 2 o’r llyfre mwya’ diflas a oedd rhaid i mi eu darllen yn ysgol er gwaetha ymgais yr athro i’m perswadio fy mod mewn cariad â’r nofelau a’r nofelwyr - fydde’n well gennai fod wedi mynd lawr i bictiwrs y Commodore i wylio morfil yn domi mewn ‘3D high-definition’), hynny yw - dim ond du-wch a diflasdod Cymreig.
Felly be yn wir yw’r neges ola’ i ni o Ben Talar. Pa berl o wers ddiharebol y canfuwyd o wylio’r ddrama. Roeddwn yn credu’n wir fod yna lwyth o wersi a negeseuon da, rhai cryf a fyddai’n ail-gynnai’r fflam genedlaetholgar sydd wedi gwanhau ers blynyddoedd – rhywbeth a fyddai’n ail-ddeffro’r ddraig goch. Mi oedd hi, wedi'r cyfan yn gyfres arbennig o dda, y rhifynnau cynta yn enwedig (ok, pob un ond y 2 ddwetha').Ond, ar ôl dwys ystyried, a meddwl, a thra'n mynd a'r sbwriel mas ar gyfer casgliad y bins y bore 'ma, 2 neges annisgwyl braidd ddaeth yn glir i mi yn sgil Pen Talar:
1: Maddeuwch i’r rhai hynny sydd wedi’ch ypsetio i’r fath raddau nes bod eich bywydau wedi newid o’r herwydd (s'dim ots beth oedd y weithred - jyst maddeuwch).
2: Peidiwch â gadael i neb ddatblygu ar a dinistrio ein cymunedau Cymraeg/Cymreig.
Neges glir iawn felly i gyn-drigolion pentrefi Epynt, Tryweryn, a Nant y Moch.
Glaw eto fory siŵr o fod.
Monday, 1 November 2010
Prif fudiad ieuenctid Cymru - a'r angen am fwy o gefnogaeth o'r bae.
Mae’n hen bryd i brif fudiad ieuenctid Cymru gael sylw ar y blog ‘ma (ac hefyd cyfle i dorri record am sawl gwaith allai iwso’r gair ‘mudiad’ mewn blog).
Mae fy nyled i iddynt yn fawr iawn, a dwi’n teimlo’n gyson nad yw’r mudiad yma’n cael cwarter digon o sylw na cefnogaeth gan y ‘sefydliad(au)’ yng Nghymru.
Diolch i’r mudiad ieuenctid arbennig yma, dwi wedi cael cyfle i ganu, i adrodd, i actio, i fynd ar benwythnosau preswyl, sgio, canwio, hwylio ar lyn, dringo wal, cystadlu ar lwyfan, bowlio 10, merlota, nofio, beiciau modur, midnight feasts, gwersylla, canu mewn côr, cymryd rhan mewn sessiynau wythnosol diddorol, ‘steddfota (wrth gwrs!) a llu o bethau eraill gan gynnwys penwythnosau o gystadlu ar y caeau chwarae yn erbyn timoedd o dros Gymru – a thu hwnt.
Fel aelod ohonynt datblygodd yr hyder i ddweud fy marn yn gyhoeddus, i sefyll ar fy nhraed o flaen cynulleidfa ac annerch y dorf. Cefais y cyfle i actio mewn dramau a sgetsys. Ces gyfle i sgwennu dwsinau o ganeuon call a dwl, a sgetsys i’r aelodau eraill, a cael y fraint o’u gweld yn cael eu perfformio ar lwyfannau theatrau nodedig.
Dwi wedi bod yn codi arian i elusennau fel aelod, ac wedi cael y fraint a’r anrhydedd o deimlo’n rhan o gymuned, gan deimlo cynesrwydd a gwerthfawrogiad go iawn y bobl leol.
Nid fi yn unig sy’ wedi gallu manteisio ar y fath gyfleoedd – mae’r rhan helaeth o’r aelodau trwy Gymru yn siwr o gytuno eu bod hwythau hefyd mewn dyled i’r mudiad ‘r’un fath a fi. Mae’n fudiad sy’n haeddu lot mwy na beth mae’n gael ar hyn o bryd.
Mae’n hen bryd i’r ‘sefydliadau’ (achos mae’r ‘sefydliadau’ yn dal i fodoli credwch fi) i roi cydnabyddiaeth go iawn (yn hytrach na be’ fuaswn i’n galw’n ‘token gesture’) iddyn nhw – mae ‘na fudiadau ieuenctid eraill yn derbyn llawer iawn mwy ‘y pen’ na’r mudiad yma. Dwi ddim yn credu i’r mudiad yma erioed gael grant i bryny bwrdd pŵl neu ‘mixing desk’ nac ychwaith arian i greu ‘stiwdio recordio’ i gynhyrchu swn.
O ran y digwyddiadau cenedlaethol maent yn cynnal, plis Mr Cynlleied, rhowch fwy o gefnogaeth iddyn nhw – mae’r Eisteddfod (i son am un digwyddiad yn unig) yn haeddu llawer iawn mwy na beth mae nhw’n ei gael. Ac mi allai eich sicrhau chi – nid i ‘dwll di-waelod’ y buasai’r pres yn mynd. Dyma i chi fudiad sy’n gwerthfawrogi ac yn defnyddio pob ceiniog. Nid yw’n gyfoethog o ran arian, ond mae gyda’r cyfoethocaf o ran popeth arall sy’n cyfri.
Mae cyfraniad y mudiad yma i ffyniant naturiol yr iaith Gymraeg hefyd yn arbennig iawn – ac mae’n fudiad lle mae’r di-Gymraeg hefyd yn medru cymryd rhan heb ddim problem, ac heb ffiniau.
Mae ‘na fudiad ieuenctid arall yng Nghymru wrth gwrs sy’n gwneud gwaith da ac sy’n cael handouts hael iawn yn barod (a dwi ddim am eiliad yn dwrdio nhw am hynny - mae'r Urdd yn fudiad hynod o bwysig i ni hefyd), ond nid un o 'blant yr Urdd' oeddwn i yn fy nghalon, a roeddwn i’n cael hiraeth am adre bob tro arhoses i yn y gwersyll yn Llangrannog. Roeddwn wrth reswm, yn gonscript i’r Urdd fel pawb arall yn ysgol Trefeurig a'r rhan fwya' o ysgolion cynradd Cymru, ond fedrai ddim dweud a’m llaw ar fy nghalon ei fod erioed wedi cydio ynof yn yr un modd a’r Ffermwyr Ifanc. Pam? Wel, fel aelod o’r CFfI, ni fel aelodau oedd yn rheoli popeth, yn gwneud y penderfyniadau, ac yn rhedeg y mudiad ar lefel clwb, sirol, a Chymru. Ni fel aelodau oedd yn dewis os oeddwn am gystadlu a cymryd rhan, ac o’r herwydd, mi gefais lot mwy allan o’r peth. Fi oedd ‘in charge’ – nid ryw athro neu athrawes.
Hir oes i CFfI Cymru – prif fudiad ieuenctid Cymru, ac am ryw reswm, mudiad sy’n dal i fod yn gyfrinach i rai (a rhai a ddylai fod yn gwybod yn well).
Un cais bach i’r aelodau presennol plis: mi ddylai’r oedran cystadlu gael ei ymestyn at 40 plis. Mae 26 yn llawer rhy ifanc i atal bobl rhag cystadlu. Rwy’n cael ‘withdrawal symptoms’ ers bron i 9 mlynedd. A fedrwch chi godi hwn yng nghyfarfod nesa’r Cyngor os gwelwch fod yn dda?
Gyda llaw, mi fum yn gwylio Eisteddfod Ffederasiwn CFfI Ceredigion ar-lein nos Sadwrn, a roeddwn i’n ddigon ffodus o ‘diwnio mewn’ jyst fel bo’r deuawdau doniol yn cychwyn. Ambell berl yn fan’na. Lot, lot gwell na gwylio Noson Lawen – a chware teg, mi oedd safon y darllediad yn gyffredinol yn broffesiynol iawn – ond yn bwysicach na hynny, mi oedd y peth yn hollol naturiol – gan gynnwys y cyfweliadau a’r cyflwyno o’r stiwdio fach a oedd yn digwydd rhwng y cystadleuthau. Da iawn chi yn wir (a dwi’n trio ‘ngorau I beidio a swnio’n patronising).
Felly, os ydych chi o fewn yr oedran (10-26) ymunwch nawr – mae clybiau trwy Gymru, a s’dim rhaid i chi wybod beth yw’r gwahaniaeth rhwng chevrolet a limousin: http://www.yfc-wales.org.uk/
Saturday, 30 October 2010
'Movember' / 'Mwsdachwedd'
I bawb sy'n dilyn fy mlogs yn rheolaidd bellach gan edrych ymlaen neu ysgwyd pen mewn embaras ar beth dwi'n mynd i ddweud nesa (mwy na thebyg mond fi sy'n ffitio'r categori 'rheolaidd'), efallai mai siom y cei di / y cewch chi'r tro yma.
Chi'n gweld, rhywbeth positif sy' gennai ddweud yn hytrach na chŵyn neu ddychan.
Mae cydweithiwr i mi - Sion Onwy - a finne wedi penderfynu cymryd rhan mewn ymgyrch 'Movember' i godi arian a thynnu sylw tuag at Gancr Prostate a Chancr Testicular (sgennai ddim syniad beth yw rheina yn Gymraeg sori). Cancrau sy'n effeithio ar ddynion yn unig yw rhain, ac mae ymgyrch Movember wedi codi miliynau i'r achosion yma ers blynyddoedd. Sut? Wel, drwy annog dynion i dyfu 'mo' drwy gydol mis Tachwedd bob blwyddyn, a mynd ar ôl nawdd am wneud hynny.
Mae'n rywfaint o sbort, a da yw gweld bod modd cael hwyl heb fawr o ymdrech a chodi arian yr un pryd.
Dwi wedi rhoi ymgais ar dyfu 'gafren' o'r blaen, a methiant llwyr bu hwnnw (efo hindsight). Mwy na thebyg methiant llwyr aesthetig arall fydd ymdrech y mwstas, ond, pam lai? Efo Sion Onwy'n cymryd yr un her a finne'n y gwaith fyddai ddim ar fy mhen fy hun o ran derbyn sylwadau dwl (er, Sod's Law mi fydd mwstasen yn siwtio Sion, gan adael i fi edrych fel complete ffŵl).
Rydym wedi tynnu llun PR yn barod ar gyfer yr ymdrech - dyma hi:
Fel y gallwch weld, mae Sion a fi'n cymryd y peth yn hollol o ddifri.Yn ôl tudalen Movember, dim ond gŵyr bonheddig sy'n tyfu mwstachweddau, ac felly, fel gŵyr bonheddig rhaid cymryd camau priodol cyn cychwyn. Dyna paham mae'r paraffinelia ar y ford o'm blaenau (+ mi oedd yn lot o sbort cael tynnu llun hollol blentynnaidd am y tro cynta ers sbel...).
Nawr, os hoffech gefnogi Sion neu finne, mae pob croeso i chi wneud hynny. Mi fydd pob ceiniog a gasglir yn mynd at Movember ar ddiwedd y mis. Os fedrwch chi sbario pris peint, mi fydde hynny'n ffantastig.

| Sion Onwy a Rhydian Mason sy'n ymdrechu at 'Mwsdachwedd' (Movember) |
Fel y gallwch weld, mae Sion a fi'n cymryd y peth yn hollol o ddifri.Yn ôl tudalen Movember, dim ond gŵyr bonheddig sy'n tyfu mwstachweddau, ac felly, fel gŵyr bonheddig rhaid cymryd camau priodol cyn cychwyn. Dyna paham mae'r paraffinelia ar y ford o'm blaenau (+ mi oedd yn lot o sbort cael tynnu llun hollol blentynnaidd am y tro cynta ers sbel...).
Nawr, os hoffech gefnogi Sion neu finne, mae pob croeso i chi wneud hynny. Mi fydd pob ceiniog a gasglir yn mynd at Movember ar ddiwedd y mis. Os fedrwch chi sbario pris peint, mi fydde hynny'n ffantastig.
Dyma'r link hollbwysig i gyfrannu: http://uk.movember.com/mospace/560030/
![]() |
| Gŵyr bonheddig yn codi arian. Cefnogwch wir. |
![]() |
| Beth sy' yn y bocs? Hufen-gwrth-gosi wrth gwrs. |
Pob lwc hefyd i ymgyrch Grow a Grav, sydd yn cael ei gynnal am y tro cyntaf eleni. Am ryw reswm, maent yn cynnal eu hymgyrch nhw yn ystod yr un mis a 'Movember'. Yn bersonol, mi fuaswn wedi dal yr ymgyrch nol tan bencampwriaeth y 6 gwlad yn 2011 ac ennill mwy byth o gefnogaeth (ac mi fuaswn i wedi gallu cymryd rhan yn y ddau wedyn!).
Ta waeth - os ydych chi'n cymryd rhan yn 'Movember' neu 'Grow a Grav', pob lwc i chi a'ch ymdrechion i godi arian a chael hwyl r'un pryd.
Tuesday, 26 October 2010
'Croesi'r Sianel' - Stori fer gan y blogiwr.
Ryw noson oer, gwlyb a gwyntog oedd hi. Eisteddodd Rhydian i lawr ar ôl rhoi’r plant yn gwely, gan ochneidio o flinder wedi diwrnod hir arall. Oedd – mi oedd hi’n gret cael eistedd lawr a’i draed mewn slipars rhad o Matalan, a pecyn ffres o ‘Haribo Sour Mix’ wedi guddio’n braf rhwng ei goes, a braich y gadair esmwyth.
“Mi fytai’r cwbl ond y boteli cola”, meddyliodd.
Ond yng nghefn ei feddwl mi wyddai Rhydian fod llawer mwy i boeni am na’i ffug-flinder a’r nodd cysurus yn y cwdyn plastic. Roedd gwaith y dydd heb ddarfod eto, roedd tasg bwysica’r genedl ar fin cychwyn ar y sianel genedlaethol - 'Noson y gwylwyr'.
Fflachiodd amryw o luniau o’r dyddiau da trwy ei feddwl – Hanner Dwsin, Torri Gwynt, Ffalabalam, Swopsiwn, ac wrth gwrs, ‘Sgota. Daeth deigryn i’w lygaid fel gwlith ar ddeilen felyn hydrefol cyn iddi gwympo oddi ar y brigyn i’r llawr.
“Sut allai achub y sianel?” meddyliodd eto. “Be allai ‘neud i ddod a hygrededd, ffydd ac incwm newydd iddi,, i brofi ei bod hi dal yn wir mae ein cyfrifoldeb ni fel Cymry Cymraeg yw i ofalu am ac i fwynhau’r winllan a roddwyd i’n gofal?"
"Sut yn wir allwn ni edrych ar ein wynebau yn y drych bob bore ar ôl hyd yn oed meiddio beirniadu ein ‘secred cow’?”
Trodd ei lygaid lawr at y gwagle yn y silff wrth y teledu. Anadlodd fewn mewn sioc – roedd yr ateb ganddo!
“I’r diawl a hi!” dywedodd yn uchel gan daflu ei egwyddorion o’r neilltu!
“Dwi’n mynd i brynu DVD Box Set o Pobl y Cwm!”
“Shshsht!”, galwodd ei wraig yn hallt gan chwalu'r foment o gatharsis – “ti’n mynd i ddeffro’r plant!”.
Sleifiodd llaw Rhydian mewn siom arall mewn i’r cwdyn plastig wrth ei ochr. Cydiodd mewn Haribolsen a’i roi yn ei geg.
“shit y gath.” meddyliodd - “botel cola”.
Thursday, 21 October 2010
Dyfodol S4C - ein sianel, ein chwyldro.
Mae’r Cymry wedi codi fel ton tswnami i ymateb i’r busnes ‘ma am doriadau yng nghyllideb y sianel, ac wrth gwrs i’r newidiadau a fydd yn y ffordd mae’n cael ei rheoli/rhedeg/ariannu gan y BBC.
Fel cenedl, ‘da ni wedi hen arfer a’r busnes yma o gwyno’n gyhoeddus, o weld y gwydr yn hanner gwag (yn hytrac h na hanner llawn).
Ac, er fy mod innau’n credu fod Cymru wedi cael tipyn o gam gan idiots hunan-bwysig San Steffan, fedrai ddim ychwaith peidio meddwl efallai mae ‘chwyldro’ or fath hyn sy’ angen ar ein S4C ni.
Os yw’r arian yn mynd i fynd yn brin, yna ‘quality, not quantity’ dylai’r mantra newydd fod. I rywun fel fi, yng nghanol fy nhri-degau, rhaid cyfadde (a dwi’n teimlo’n reit wael am hyn) fod bygyr ôl o werth i mi ar y sianel fel y mae hi ar hyn o bryd. Bob hyn a hyn, cawn ambell ddarllediad safonnol (Pen Talar, er engrhaifft), ond fel arfer, ac yn fy marn i fel un o gynulledifa’r sianel (noder, barn rhywun o’r gynulleidfa rwy’n cynnig, nid barn rhywun ‘on the inside’), rybish yw’r rhan helaeth o’r rhaglenni sydd ar yr arlwy.
Mae hyn yn ddweud mawr, a digon posib fy mod bellach ar y ‘black list’ am weud hynny, ond mae na gyfrifoldeb arnom ni i gyd i roi ein clod a/neu feirniadaeth ar rywbeth sydd heb os o bwysigrwydd cenedlaethol i ni er mwyn sicrhau cadw’r safonnau.
Rwy’n cydymdeimlo a’r gofynnion sydd ar ein sianel – mae’n rhaid iddi fod yn bopeth i bawb, ond rwy’n ofni mae beth sy’ gyda ni ar hyn o bryd yw rhyw ‘average’ sâff yn y canol, a pob un rhaglen yn apelio rywfaint bach at bawb – y broblem yw mae ychydig iawn o apêl sydd gan y rhaglenni dwi’n ofni. Papur wal yw S4C i mi (a papur wal hen ffasiwn iawn hefyd), dyna’i gyd.
Mi allen ni restri rhai o raglenni S4C sy’n golygu dim byd i mi bellach:
Pobl y Cwm er engrhaifft – Duw a wyr pam fod pobl mor ‘precious’ amdano, fedrai ddim ei wylio- mae mor wael a hynny i mi. Dychmygwch pe bai’r BBC yn creu fersiwn Saesneg ohono, ‘mond cyfieithu’r sgript a’i ffilmio hi yn yr un ffordd a’i darlledu ar BBC1 – be’ yn wir fydde’r ymateb? Methiant llwyr a’r gynulleidfa ddim yn siwr os mae comedi gwael neu ffars wael yw e? Canslwch y rhaglen bob dydd wir i chi, a gwariwch yr un arian ar gynhyrchu 2 neu falle 3 rhifyn safonnol yr wthnos. A castiwch yn well – plis (gogs ym mhobman, plant ac acenion Caerdydd – mewn pentre sydd i fod yn ardal Caerfyrddin? C’mon).
0 ond 1? 0 ond rwtsh.
O ran llwyddiannau’r sianel, mae Cyw yn sicr yn un (y plant yn tŷ ni wrth eu bodd a’r arlwy yn y bore – ond lle mae arlwy’r plant bach yn y p’nawn?). Pen Talar hefyd wedi bod yn llwyddiant yn ty ni. Dyma i chi gyfres o raglenni sydd wedi profi eto fod modd creu teledu safonnol yng Nghymru ac yn y Gymraeg.
Mae S4C hefyd wedi cael nifer o raglenni ‘dim cweit’ – hynny yw, rhaglenni oedd yn dda o ran syniad, ond oedd ddim cweit yn hitio’r marc cystal ag y gallen nhw fod wedi neud. Y Porthmon, er engrhaifft – syniad arbennig o dda, Ifan yn gyflwynydd arbennig o dda, yn naturiol (ac yn sicr ddim yn un o ‘mowld’ y cyfryngis), ond roedd rhywbeth am y gyfres oedd ddim yn ffitio rywsut. Oedd angen yr holl ffys gyda’r defaid? Oedd angen criw o aelodau’r Ffermwyr Ifanc i dywys defaid am ryw hanner milltir ar y tro? Neu a fydde wedi bod yn well i symleiddio’r cysyniad reit yn ôl – Ifan yn cyflwyno, ac yn cerdded gyda Erwyd Howells ar hyd taith y Porthmon, yn cyfarfod a pobl diddorol ar y ffordd, gan gynnwys aelodau’r Ffermwyr Ifanc. Dim defaid o gwbl – a pwyslais y gyfres ar y ‘daith’. Weloch chi raglen Eddie Izzard yn gwneud y marathons ar hyd Prydain rai misoedd yn ôl? Do? Wel dyna chi beth oedd y fformat i’w ddilyn. Syml, ac effeithiol.
Rhaglen arall sydd wedi diodde o or-gymlethu ac sydd wedi troi mas bellach i fod yn un o’r ‘dim cweits’ yma yw Noson Lawen (mi wnai ddim son am ‘Hwylio’r Noson Lawen’ – ‘na beth oedd ‘Titanic’ arall). Beth sy’ wedi digwydd i’r gyfres gwedwch? Ydych chi wedi bod i recordiad Noson Lawen yn ddiweddar? Naddo? Mae’n werth i chi fynd i weld sut mae’r ‘magic of television’ yn gweithio. Clywed pob jôc ddwywaith os nad tair, a’r rheolwr llawr yn disgwyl i chi chwerthin bob tro fel pe baech chi’n ei chlywed am y tro cyntaf erioed. Clywed a gweld pob act fwy nag unwaith, a weithiau, y cyflwynydd yn cyflwyno pawb ar y diwedd, linc ar ôl linc ar ôl linc di-ddiwedd. A nawr, mae na bisibodi o’r cyfyngis yn cyfweld â Mrs Jones neu rhwyun rhwng pob act, a mynd ‘tu ôl y llwyfan’ i gyfweld a’r perfformwyr ar ôl iddynt berfformio. Pam!? No Need! A peth arall – yr un gwybenau da ni’n gweld arnyn nhw i gyd o’r bron. Robyn Lynn, Sian Cothi, Ffarmwr Ffowc, honna sy’n canu efo’i merch, a Nigel Owen.
A wedyn, beth am Fferm Ffactor? (don’t get me started...)
Reit, amser cwlio lawr dwi’n meddwl.
Y pwynt yw, mae trefnu arlwy ar sianel fel S4C yn rhywbeth anodd iawn i’w wneud, a nid pawb sy’ â’r gallu i neud y job yn iawn, dyna pam mae newidiadau wedi bod yn ddiweddar yno dwi’n meddwl.
Spring clean sy’ angen ar y sianel, cael gwared o’r rhaglenni a’r newidiadau sy’ heb weithio, a rhoi’r arbedion o’r rheini i mewn i raglenni sy’ naill ai yn gweithio, neu tuag at gommissiynau sy’n mynd i weithio. Sut mae darganfod beth sy’n mynd i weithio te S4C? Wel siaradwch efo ni, taflwch allan y bigwigs oddi ar eich pwyllgorau. Rhowch y bobl gyffredin mewn yn eu lle. Dim ond wedyn gallwch chi gael barn a chyngor gwerthfawr y bobl wirioneddol bwysig – sef ni, y gynulleidfa gyffredin (cofiwch, dim ond hyn a hyn o'r bobl sy'n ymddangos yn y Wales Yearbook sy’n gwylio S4C – mae na filoedd ar filoedd ohonom ni’r werin dlawd sy’n fwy na parod cael ein talu i roi ein barn i chi).
Rant ofyr.
DIWEDDARIAD:
Os ydych am fwy o reswm i newid ein sianel er gwell, edrychwch ar blog y boi 'ma: Rod Liddle, rhyw fath o newyddiadurwr sy'n sgwennu i'r Spectator. Mae angen i ni gau ceg hiliol a brwnt y cocoen yma - mae 2 ffordd o neud hyn, un ffordd yw i wella safon arlwy ein sianel. Mi adawai i chi feddwl am y ffordd arall sy' na o dawelu'r jac sais twp yma. Dyma'r linc holl bwysig i chi ddarllen:
http://www.spectator.co.uk/rodliddle/6392643/sosban-fach-yn-berwi-ana-tan.thtml

Subscribe to:
Posts (Atom)